Y Gymraes sy'n un o 'arwyr' Ynys Manaw
- Cyhoeddwyd
Yn wreiddiol o Eglwysbach, Conwy, mae Beth Sherwin bellach wedi ymgartrefu ar Ynys Manaw.
Mae hi'n ddiweddar wedi ennill gwobr yno am ei gwaith gyda phlant ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd.
Cafodd sgwrs gyda Cymru Fyw am sut beth yw byw ar yr ynys, a dod yn rhan o'r gymuned glos sydd yno.
Balchder cenedlaethol
Dim ond am ryw chwe mis oedd Beth yn bwriadu aros yn Ynys Manaw, ond bron i ugain mlynedd - a gŵr a phlant - yn ddiweddarach, mae hi wedi hen ymgartrefu yno, ac yn gweld tebygrwydd rhwng Cymru a'i chartref mabwysiedig, meddai.
"Mae 'na deimlad mawr o 'rydyn ni o Ynys Manaw' am y lle; er fod yna lawer o bobl yn symud draw o'r 'tir mawr', achos eu bod nhw isho cynyddu'r boblogaeth, maen nhw'n genedlaetholgar iawn – fel ni'r Cymry.
"Ac un o'r pethau 'nes i ei ffeindio'n ddiddorol pan 'nes i symud yma ydi fod ganddyn nhw eu hiaith eu hunain hefyd, ac maen nhw'n angerddol iawn am ei chadw hi. Mae 'na ysgol Fanaweg ar yr ynys, ac mae gan blant yn yr ysgolion cynradd eraill y cyfle i ddysgu'r iaith hefyd."
Efallai fod yr ynys, sydd yn diriogaeth ddibynnol ar y Goron, wedi ei lleoli yn y môr rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr – dim ond 16 milltir i ffwrdd o'r Alban mewn un man – ond mae'r ynyswyr yn teimlo gwbl ar wahân i'w chymdogion, eglurai.
"Maen nhw'n falch iawn o'r pethau maen nhw wedi eu cyflawni, a'r pethau sy'n eu gwneud yn wahanol i Brydain, fel ein llywodraeth a'n harian.
"Yn ystod COVID, fel roedd arweinwyr yn gwneud cyhoeddiadau dros y byd, roedd ein Prif Weinidog (Chief Minister) yn gwneud hefyd, ac roedd hynny'n beth masif ar yr ynys. Roedd pobl wrth eu boddau; roedd crysau-t gyda'i wyneb arnyn nhw, poteli o win...!
"Mae pethau bach fel yma yn dy atgoffa di dy fod ti'n byw ar ynys. Mae 'na deimlad o gymuned yma, fel taset ti'n byw mewn pentref."
Teimlad pentref
Mewn gwirionedd, mae'r ynys yn gartref i 84,000 o bobl. Er hynny, mae'r gymdeithas yn un glos, meddai Beth, ac yn lle gwych i fagu teulu.
"Mae'n lle hyfryd i fyw, mae pawb mor gyfeillgar ac mae'n teimlo'n saff yma. Dwi'n teimlo'n lwcus i gael magu fy mhlant yma; dwi'n teimlo mod i wedi gallu rhoi mwy o ryddid iddyn nhw na fasen i adra, fel gadael iddyn nhw chwarae tu allan efo ffrindiau neu mynd i'r siop.
"Mae nifer y troseddau yn isel... ti ar ynys, does yna nunlle i ddianc felly does 'na ddim lot o bwynt!"
Yn anffodus, mae peidio gallu dod oddi ar yr ynys yn mynd yn broblem fawr i'w thrigolion hefyd pan mae'r tywydd yn ddrwg. Dim ond ar long neu awyren mae modd gadael, felly mae Beth yn gorfod gwneud llawer o gynllunio wrth geisio mynd ar wyliau, eglurai.
"Ti ddim am allu jyst mynd i'r maes awyr a mynd ar wyliau. Fel arfer, 'da ni'n mynd i'r tir mawr y noson gynt, ac wedyn mynd ymlaen i'r gwyliau o fan'na, a'r un peth y ffordd adra, er mwyn gneud yn siŵr bod gen ti ddigon o amser rhag ofn fod y llong ddim yn rhedeg.
"Wyt, ti yn gallu methu allan ar bethau, yn enwedig yn gaeaf pan mae 'na fwy o risg y bydd y llongau wedi eu canslo. Ond 'da ni'n gadael yr ynys ddigon, yn mynd i weld teulu a mynd ar wyliau."
Ac os oes tywydd gwael sy'n atal y cychod rhag cyrraedd yr ynys, gall hynny olygu fod yna ddim bwyd yn gallu cyrraedd chwaith...
"Mae hynny'n gallu bod yn anodd, yn enwedig pan mae pobl yn panic buy-io! Os ydi'r tywydd am fod yn wael am hir, maen nhw'n anfon llong nwyddau argyfwng, ond fel arfer, os ydi'r tywydd am setlo mewn 'chydig o ddyddiau, rhaid i ti jest aros."
Cefnogi plant a theuluoedd
Dim ond ar hap oedd Beth wedi mynd i Ynys Manaw yn y lle cyntaf. Ar ôl gadael y coleg chweched dosbarth, roedd hi wedi gweithio mewn amryw o swyddi oedd yn ymwneud â gofal a datblygiad plant.
Daeth cais gan ffrind i symud gyda hi i Ynys Manaw, i chwilio am swydd ac i weld os oedd bywyd yno am siwtio. Cyfarfyddodd Beth ei gŵr yn fuan ar ôl symud yno, ac mae ganddyn nhw nawr ddwy o ferched yn eu harddegau.
Mae Beth wedi parhau â'r diddordeb oedd ganddi yng Nghymru mewn datblygiad plant a bellach mae hi'n swyddog cefnogi mewn canolfan arbennig sydd yn asesu plant oed cyn-ysgol sydd ag anghenion addysgol neu feddygol – yr unig ganolfan o'i math ar yr ynys.
"Rhan o beth dwi'n ei 'neud ydi asesu plant, llunio cynllun i gefnogi eu haddysg a rhoi strategaethau mewn lle i gefnogi'r camau nesaf.
"Rydan ni'n gweithio yn y cartref gyda'r teuluoedd, yn cynnig cefnogaeth i feithrinfeydd ac wedyn yr ysgol, i sicrhau fod dechrau'r ysgol yn broses lyfn o ran cwrdd ag anghenion y plant.
"Dwi'n angerddol iawn am wneud yn siŵr fod plant yn cael eu cynnwys, a dwi wir yn falch o gael cefnogi a siarad ar ran y plant 'da ni'n gweithio efo nhw yma."
Fis Tachwedd, enillodd Beth wobr y beirniaid yng ngwobrau Heroes of Mann am ei gwaith yn cefnogi plant ag anghenion arbennig a'u teuluoedd. Roedd hyd yn oed cael ei henwebu wedi bod yn sioc iddi, meddai, heb sôn am ennill:
"Mae'n anhygoel. Ti'n mynd i'r gwaith bob dydd, a gwneud beth ti'n ei feddwl sy'n iawn, a jest trio dy orau. Roedd o mor enfawr, a mor arbennig i wybod bod beth dwi'n ei 'neud yn g'neud gwahaniaeth i'r plant a'u teuluoedd."
A hithau nawr yn un o 'Arwyr' Ynys Manaw, mae Beth yn amlwg wedi cael ei derbyn yn rhan o'r gymuned, a bellach yn un o bobl yr ynys.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd10 Medi 2024
- Cyhoeddwyd3 Medi 2024