Beth sydd ar Radio Cymru dros y Dolig?
- Cyhoeddwyd
Dros y bythefnos nesaf bydd rhaglenni radio a theledu arbennig yn cael eu darlledu i nodi'r Nadolig a'r flwyddyn newydd.
Mae hyn yn wir o'n gorsaf radio cenedlaethol hefyd. Felly, beth yw'r arlwy gan Radio Cymru dros yr ŵyl?
Dyma chi flas o ambell uchafbwynt:
Ar Blât
Mae rhai'n bwyta i fyw ac eraill yn byw i fwyta. Roedd Beca Lyne-Pirkis wedi cael cwmni Emyr Wyn a Llinor ap Gwynedd yn y gyntaf o gyfres Ar Blât y Dolig hwn, ar 15 Rhagfyr. Beth yw'r cof cyntaf am fwyd neu brofiadau plentyndod am brydau bwyd? Beth fwytawyd ar ddêt cyntaf a beth yw'r swper cysur delfrydol? Gwrandewch yn ôl ar BBC Sounds.
Yn yr ail raglen, ar 22 Rhagfyr, Lisa Angharad a'i phartner Rhys Gwynfor fydd rownd y bwrdd yn hel atgofion a rhannu cyfrinachau am ryseitiau'r cartref ac ambell i bleser euog!
Bore Cothi
Dydd Mercher, 18 Rhagfyr, bydd Bore Cothi yn darlledu o siop Pethau Olyv yn Sanclêr yng nghwmni perchnogion y siop Olive ac Yvonne a'u ffrindiau. Bydd Trystan Llŷr Griffiths yn galw heibio am sgwrs a chân hefyd.
Dydd Llun a Mawrth (20 a 21 Rhagfyr) bydd Rhys Taylor a'r band yn y stiwdio i chwarae cerddoriaeth Nadoligaidd ac mi fydd ambell westai arbennig yn galw mewn.
Ffion Dafis
Mewn rhaglen ar 22 Rhagfyr mae Ffion Dafis yng nghwmni gwesteion arbennig, Maureen a John Ogwen.
Bydd dau o gewri byd y Theatr Gymraeg yn gwmni i Ffion mewn rhaglen arbennig a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn yr awr gyntaf cawn ddilyn y ddau yn bodio archif y Llyfrgell gan hel atgofion am gynyrchiadau llwyfan a theledu.
Ymysg y trysorau mae sgriptiau Gwenlyn Parry a rhaglenni nosweithiau adloniant. Cawn wrando ar y ddau yn trin a thrafod gyrfaoedd unigryw sydd yn pontio cyfrwng a chyfnod.
Beti a'i Phobol
Ar 22 Rhagfyr yr actores Lisabeth Miles sydd ym sgwrsio â Beti George. Mae Lisabeth yn enwog wrth gwrs am chwarae rhan Megan Harries ar y gyfres Pobol y Cwm ar S4C.
Talwrn Nadolig
Ar 22 Rhagfyr hefyd y bydd Talwrn y Nadolig 2024 yn cael ei darlledu (ailddarllediad 25 Rhagfyr).
Mae Talwrn y Nadolig yn dod o Festri Capel Disgwylfa, Gaerwen. Y timau sy'n cymryd rhan yw'r Asynnod a'r Camelod, a Ceri Wyn Jones yn cadw trefn arnyn nhw.
Yr Asynnod - Iwan Rhys, Huw Meirion Edwards, Grug Muse, Mair Tomos Ifans, Annes Glynn
Y Camelod - Llŷr Gwyn Lewis, Carwyn Eckley, Ioan Roberts, Gwenan Prysor, Tegwen Bruce-Deans
Aled Hughes
Bydd rhaglen fyw gan Aled Hughes ar ddiwrnod Nadolig. Bydd Aled yn darlledu rhwng 8 a 11 y bore, gyda rhaglen llawn cerddoriaeth Nadoligaidd.
Mae'n rhaglen fyw, felly bydd croeso cynnes i chi anfon eich cyfarchion Nadoligaidd at deulu neu ffrindiau ar y diwrnod arbennig!
Bydd Aled yn sgwrsio gyda Sara o dafarn y Llew Coch yn Llansannan wedi ymweliad Siôn Corn, a bydd cyfarchion gan gyflwynwyr Radio Cymru.
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr
Elin Fflur
Bydd rhaglen Elin Fflur yn cael ei darlledu am hanner dydd ar ddiwrnod Dolig.
Dwy awr o hwyl gerddorol yng nghwmni Mynediad am Ddim, Alys Williams ac Osian Huw o'r Candelas.
Tudur Owen
Bydd digon o hwyl gyda Tudur Owen a'r criw am 3 brynhawn dydd Dolig.
Yn ogystal â digon o chwerthin bydd yna gerddoriaeth ar gyfer y parti Nadolig perffaith.
Caryl
Rhwng 9 a 12 yr hwyr ar ddiwrnod Dolig bydd Caryl yn rhannu ei hoff garolau a chaneuon Nadoligaidd, ac yn cael cwmni'r seren Bronwen Lewis fydd yn perfformio set fyw.
Goreuon y Gerddorfa
Ar Ŵyl San Steffan bydd Goreuon y Gerddorfa yn cael ei ddarlledu - bydd hwn hefyd ar gael ar BBC Sounds fel podlediad.
Lisa Gwilym sy'n cyflwyno uchafbwyntiau o nosweithiau bythgofiadwy Radio Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
O gyngherddau Eden i Carwyn Ellis, Elin Fflur i Alys Williams, nodi Sain yn 50 i raglenni'n dathlu'r grefft o ganu cerdd dant a'r plygain, mae prosiectau Radio Cymru ar y cyd â'r Gerddorfa wedi creu eiliadau cwbl hudolus, ac yn y rhaglen yma fe glywn yr uchafbwyntiau, sydd hefyd yn cynnwys recordiadau arbennig gan enillwyr Albwm Cymraeg Y Flwyddyn gyda'r Gerddorfa, a phrosiectau cerddorfaol gan rai o aelodau Super Furry Animals a'r Gorkys!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd
- Cyhoeddwyd1 Hydref
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl