Anrhydeddau'r Orsedd 2025: Y canolbarth a'r de

Rhai o aelodau newydd yr Orsedd yn 2024 yn tynnu llun gyda'r Archdderwydd Mererid Hopwood
- Cyhoeddwyd
Mae Gorsedd Cymru wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn 2025.
Dyma'r rhai o'r bobl o'r canolbarth a'r de fydd yn cael eu hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam fis Awst a'r hyn sy'n cael eu nodi gan y Brifwyl amdanyn nhw.
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
GWISG LAS
Yn wreiddiol o Borthmadog, mae Bill Davies, Caerdydd, wedi cefnogi eisteddfodau lleol a chenedlaethol ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd. Bu'n ysgrifennydd cyffredinol Eisteddfod Bro Llandegfan am dros 20 mlynedd, yn gadeirydd Eisteddfod Môn, 2008, ac erbyn hyn mae'n aelod ac yn ymddiriedolwr o Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd, gan weithredu fel yr is-gadeirydd. Mae hefyd yn is-gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Bu'n gweithio ym maes adnoddau dynol drwy gydol ei yrfa, a hynny ar draws Cymru, gwasanaethodd ar nifer o gyrff a sefydliadau yma, gan gynnwys Awdurdod S4C a Thribiwnlysoedd Cyflogaeth Cymru, ac mae'n parhau i weithredu fel cadeirydd ymddiriedolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru.
Yn gyfreithiwr wrth ei alwedigaeth, mae Geraint Evans, Y Barri, yn hyrwyddo'r Gymraeg ym mhob maes y mae'n rhan ohono, boed hynny'n fyd addysg, busnes neu ddiwylliant. Bu'n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Bro Morgannwg am ddeng mlynedd gyntaf yr ysgol, ac er 2011 mae'n gadeirydd Corfforaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, un o golegau mwyaf y DU gyda thros 30,000 o fyfyrwyr. Mae wedi rhedeg sawl busnes llwyddiannus ac wedi gwirfoddoli yn y sectorau busnes ac addysg ar draws Caerdydd a'r Fro, yn ogystal ag yn genedlaethol. Yn gyfathrebwr naturiol, mae'n hwyluso a hyrwyddo'r Gymraeg yn Y Barri a Bro Morgannwg ers dros hanner canrif.
Mae Rhian Griffiths, Caerdydd, wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r byd tennis yng Nghymru dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Yn wreiddiol o ardal Wrecsam, mae Rhian wedi cynrychioli ei gwlad ar bob lefel, o'r tîm o dan 14 oed hyd at y tîm dros 60 oed. Er 2022, mae wedi ennill 11 teitl senglau a 12 teitl dyblau mewn twrnameintiau ITF. Yn ogystal â chynrychioli Cymru, mae hi hefyd yn rhan o garfan dros 60 y DU. Yn ogystal â byd tennis, mae Rhian hefyd wedi cyfrannu i fyd addysg, gan ddysgu mewn ysgolion yn Hong Kong, Llanfair Caereinion, ac ysgolion Plasmawr a Glantaf yng Nghaerdydd.

Jane Harries yn ystod ei hymweliad diwethaf â'r Lan Orllewinol
Mae Jane Harries, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ymgyrchydd dros heddwch a chyfiawnder, ac wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o adeiladu Cymru fel cenedl heddwch. Bu'n ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod ac mae wedi cefnogi pobl ifanc i ddatblygu neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd. Bu hefyd yn ysgrifennydd grŵp Menter Academi Heddwch Cymru. Fel aelod o'r Crynwyr, mae'n ffyddiog bod heddwch a chymodi'n bosibl yng Nghymru a'r tu hwnt, ac wedi cyfrannu'n sylweddol at adeiladu cymdeithas well. Mae'n dal i fod yn bositif yn wyneb trais ac anghyfiawnder, ac yn credu bod heddwch yn cychwyn ynom ni'n hunain.
Mae Gethin Rhys, Caerdydd, wedi gwasanaethu Cymru a'i chrefydd, ei gwleidyddiaeth a'i chymdeithas gyda'i graffter meddwl a chyda'i ymroddiad i weld cymuned gyfiawn ddi-ragfarn yn ein gwlad. Yn ei swydd fel swyddog polisi Cytûn mae wedi cyflwyno tystiolaeth ac awgrymiadau i bwyllgorau amrywiol y Llywodraeth a'r enwadau, i eglwysi ac unigolion er mwyn gwella polisïau a pherthnasau. Yn ystod y pandemig bu'n allweddol yn trafod canllawiau gyda'r Llywodraeth ac yn eu cyflwyno i eglwysi a chymunedau. Bu Gethin hefyd yn gwasanaethu ar Gyngor Rhyng Ffydd Cymru, corff hanfodol i hybu goddefgarwch a dealltwriaeth rhwng cymunedau yng Nghymru. Mae'n ddiwinydd craff, yn wleidydd amyneddgar ond penderfynol ac yn gymdeithasegwr tyner a deallus.
Mae Tony Thomas yn un o staff technegol yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn gweithio yn y stordy yn Llanybydder ers dros 40 mlynedd. Mae gan Tony ddiddordeb go iawn, a balchder yn yr Eisteddfod ac eisiau i'r profiad ar y Maes fod yn gofiadwy i'r ymwelydd. Y syniadau mwyaf trawiadol ganddo yw'r gair 'Eisteddfod' mewn llythrennau mawr coch a'r bwa croeso lliwgar ger y fynedfa. Mae'n gyfrifol am regalia a gwisgoedd yr Orsedd, gan sicrhau eu bod yn cael eu cludo a'u cadw'n ddiogel, ac mae urddas a llwyddiant seremonïau'r Orsedd yn ddibynnol iawn ar gyfraniad Tony yn paratoi ymlaen llaw yn y cefndir a'i flynyddoedd o brofiad.
Yr Athro Simon Ward, Caerdydd, yw cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n arbenigwr ym maes darganfod cyffuriau trosiadol. Mae wedi arwain timau prosiect amlddisgyblaeth a grwpiau cemeg meddyginiaethol drwy brosiectau darganfod cyffuriau hyd at yr astudiaethau clinigol, gan gyflwyno moleciwlau lluosog i'w datblygu'n glinigol ar gyfer amrywiaeth o glefydau. Mae ganddo brofiad eang o ddarganfod cyffuriau mewn cwmnïau fferyllol mawr, biodechnoleg ac academia a phrofiad arbenigol o ddarganfod a datblygu cyffuriau ar gyfer cleifion â salwch niwrolegol a seiciatrig ac yn erbyn canser. Bu'n flaenllaw yn hybu pwysigrwydd trafod gwyddoniaeth yn y Gymraeg, yn enwedig drwy annog myfyrwyr i ddilyn astudiaethau pellach a chyhoeddi yn y Gymraeg.
GWISG WERDD
Mae Geraint Cynan, Caerdydd, wedi cyfrannu i ddiwylliant cerddorol Cymru ers bron i hanner canrif, fel aelod o lu o fandiau, yn gyfansoddwr a threfnydd alawon gwerin, cyfoes a chlasurol, yn gyfarwyddwr cerdd i gwmnïau theatr, ac yn drefnydd cerdd i rai o'n rhaglenni teledu mwyaf poblogaidd. Mae ei gyfraniad heb os wedi codi safon cerddoriaeth Cymru ac wedi symud ein diwylliant cerddorol yn ei flaen yn gyffredinol. Rydym yn falch o gael ei anrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni.
Mae John Morgans wedi cyfrannu'n helaeth i fywyd ecwmenaidd eglwysi Cymru drwy ei weinidogaeth gyfoethog, yn arbennig yng nghymuned Pen-rhys yn y Rhondda. Mae'n gredwr cryf mewn cyfiawnder cymdeithasol, a bu'n weithgar iawn ymhlith cymunedau cymoedd de Cymru yn ystod streic y glowyr. Pan oedd yn gymedrolwr i'r Eglwys Unedig Ddiwygiedig yng Nghymru, penderfynodd y teulu symud o'u cartref yng Nghaerdydd i dŷ cyngor ar ystâd Pen-rhys, er mwyn cefnogi'r gweinidog, a phan y'i penodwyd yn weinidog, aeth ati gyda'i wraig, Norah, i sefydlu Eglwys Unedig Llanfair. Mae wedi dysgu'r Gymraeg ac yn gefnogol i bob math o weithgareddau celfyddydol Cymraeg. Mae ei lyfr newydd sy'n cofnodi stori Penrhys yn cael ei gyfieithu i'r Gymraeg, 'Penrhys - y pentre ar y Bryn'.
Rydym yn anrhydeddu Shân Eleri Passmore, Caerdydd, am ei gwasanaeth ym myd yr eisteddfodau mawr a mân dros gyfnod maith. Cyn symud i Gaerdydd yn 1981, bu Shân yn ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog am sawl blwyddyn. Bu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn ffodus iawn o'i chael hi'n Swyddog Datblygu am gyfnod, a bu'n gweithio hefyd i'r Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Yn fwy diweddar bu Shân yn gymorth mawr wrth sefydlu eisteddfod gadeiriol newydd yng Nghaerdydd, a ddatblygodd yn ddigwyddiad llwyddiannus bellach, a hi sydd wedi paratoi cadair yr eisteddfod honno dros y tair blynedd diwethaf.
Graddiodd y soprano, Jessica Robinson, Crymych, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, rhagoriaeth yn ei MA Perfformio Opera a derbyniodd wobr goffa Aneurin Davies, gwobr Mansel Thomas, Gwobr Margaret Tann, a gwobr Soprano Elias. Hi hefyd oedd y cynrychiolydd cyntaf i gyrraedd rownd derfynol Canwr y Byd am 20 mlynedd a'r Gymraes gyntaf yn hanes y gystadleuaeth. Bu'n eisteddfodwraig i'r carn mewn cystadlaethau llefaru a cherdd ers yn ifanc iawn, a llwyddo yng nghystadlaethau Eisteddfodau'r Genedlaethol a'r Urdd. Bu hefyd yn aelod o'r CFfI am flynyddoedd, yn cystadlu'n lleol a chenedlaethol, ac mae'n bachu ar bob cyfle i hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant.

Mae Ann Parry Owen wedi arwain nifer fawr o brosiectau ymchwil dros y blynyddoedd
Mae'r Athro Ann Parry Owen, Aberystwyth, yn academydd o'r radd flaenaf sy'n arbenigo ar iaith, gramadeg a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. A hithau wedi derbyn ei haddysg uwchradd yn Llangollen, mae'n gweithio bellach yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac wedi cyfrannu'n helaeth at nifer fawr o brosiectau ymchwil dros y blynyddoedd; mae hi hefyd yn olygydd hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru. Yn ogystal ag arwain timoedd ymchwil dros y blynyddoedd, bu'n gyfrifol am feithrin ysgolheigion ifanc a thrwy hynny gyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd. Mae hefyd yn brif olygydd y cylchgrawn 'Studia Celtica' ac yn aelod o banel Comisiynydd y Gymraeg ar enwau lleoedd.
Rhoddodd Gareth William Jones, Bow Street, oes o wasanaeth clodwiw i fyd addysg, fel athro drama, swyddog gweithgareddau diwylliannol gwasanaeth Llyfrgell Dyfed, a darlithio yn Adran Gymraeg Coleg y Drindod, Caerfyrddin. Ysgrifennodd ddeg o nofelau i blant. Bu hefyd yn arwain cwmni drama llewyrchus yn Rhydypennau am flynyddoedd. Ers ymddeol, mae wedi ymroi'n wirfoddol a diflino i gymdeithasau a mudiadau llenyddol a diwylliannol Gogledd Ceredigion ac i bapur bro 'Y Tincer'. Mae'i gyfraniad a'i weithgarwch yn cael ei werthfawrogi gan ystod eang o oedrannau ac yn hybu sawl agwedd ar y Gymraeg a Chymreictod yn lleol ac yn genedlaethol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.