Cowbois yn gohirio 'pob sioe dros y misoedd nesaf'

Iwan HuwsFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Iwan Huws ei daro'n wael tra'n perfformio gyda Cowbois Rhos Botwnnog yn Sesiwn Fawr Dolgellau nos Wener

  • Cyhoeddwyd

Mae un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru wedi gohirio eu holl berfformiadau yn y dyfodol agos yn sgil salwch eu prif leisydd.

Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau nos Wener diwethaf pan gafodd Iwan Huws ei daro'n wael.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty ac fe ddywedodd y grŵp ddydd Sadwrn ei fod "bellach yn sefydlog yn yr ysbyty ac yn derbyn y gofal gorau posib".

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun, fe gadarnhaodd eu bod "yn anffodus" yn gohirio "pob sioe dros y misoedd nesaf".

Mae'n golygu na fyddan nhw'n perfformio mwyach ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd nos Wener 9 Awst nag yn un o gigiau Cymdeithas yr Iaith yn y dref wythnos y Brifwyl nos Sul 4 Awst.

Maen nhw hefyd wedi gorfod tynnu'n ôl o Ŵyl y Dyn Gwyrdd ganol Awst.

Ychwanegodd y grŵp: "Diolch bawb am eich negeseuon a'ch cydymdeimlad."

Mae gwraig Iwan Huws, y gantores Georgia Ruth, hefyd wedi tynnu'n ôl o berfformio yn Llundain nos Fercher ac yng ngŵyl Latitude ddydd Sul.

Mewn neges ar-lein ddydd Llun, fe ddywedodd: "Diolch o galon i bawb am y geiriau caredig.

"Mae Iws yn derbyn gofal arbennig ym Mronglais a ni'n edrych ymlaen yn fawr at gael e adre."

Pynciau cysylltiedig