Bwyd ci Pero: O Benygroes i Singapore
- Cyhoeddwyd
Os oes gennych chi gi, neu anifail anwes arall, mae'n debygol eich bod wedi dod ar draws y cwmni bwyd anifeiliaid, Pero.
Mae'r cwmni adnabyddus wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd, ac wedi agor warws newydd yn Nyffryn Nantlle yn ddiweddar.
Aeth y cyflwynydd Aled Hughes i'r warws i weld sut mae'r cwmni'n gweithio, yng nghwmni Jonathan Rees, un o gyfarwyddwyr y cwmni. Cafodd y sgwrs ei darlledu ar BBC Radio Cymru ar 11 Mehefin.
“Dechreuodd cwmni Pero ar fferm ym Metws-y-Coed yn 1985," meddai Jonathan.
"Dros y blynydde 'nathon ni dyfu, a daeth y pwynt ble doedd dim posib rhoi estyniad pellach i’r busnes ym Metws-y-Coed, a felly roedd rhaid symud.
"'Nathon ni ddod o hyd i’r lle yma (ym Mhenygroes) a gathon ni’r allweddi yr haf d’wethaf, a symudon ni fewn ym mis Medi a Hydref.
“Mae’n dod yn weddol agos i flwyddyn ers i ni fod yma nawr, ac mae wedi bod yn fendigedig."
Er fod y cwmni bellach wedi gadael Betws-y-coed, cod deialu ardal Betws sy'n parhau fel rhif cyswllt i'r cwmni.
“Gyda’r datblygiadau sy’n y byd technolegol mae’n system ffôn ni’n rhan o’r rhyngrwyd nawr, felly does ddim eisiau newid rhif ffôn," eglurai Jonathan.
'200 i 300 gwahanol fagiau'
Felly, beth yw'r broses o greu'r bwydydd yma?
“Ry’n ni’n dod mewn â bagiau yn cynnwys defnyddiau crai, sef y bisgedi mae cŵn yn ei fwyta," meddai Jonathan.
"Mae ‘na tua 70 gwahanol recipe o fwyd yma, a ni’n dod â nhw mewn o fewn bagiau tote sydd tua tunnell yr un, cyn eu gwasgaru nhw drwy’r felin.
"Gall un o’r bagiau tote ‘ma fynd i bump neu chwech gwahanol fag i wahanol gwsmeriaid, a mae nhw i gyd yn cael eu bagio yma a’u paratoi i’r archebion.
“Mae'r 70 o wahanol fwydydd ganddon ni’n cael ei wasgaru rhwng 200 i 300 gwahanol fagiau, gyda enwau gwahanol gwmnïau arnyn nhw."
Mae Jonathan yn mynd ymlaen i drafod y gwahanol fathau o fwyd mae Pero yn ei gynnig, a sut mae'r farchnad wedi newid dros y blynyddoedd diweddar.
“Mae pob bwyd â rhyw elfen wahanol iddyn nhw, o’r bwyd sydd ar gyfer cŵn sy’n gweithio ar fferm, ble maen nhw angen egni ar gyfer rhannau penodol o’r flwyddyn i’r rhannau eraill pan maen nhw’n gorffwys.
"Ar yr ochr arall mae ‘na fwyd i anifeiliaid anwes, bwyd i’r ‘cost of living range’, sydd ar yr ochr rhata' er mwyn helpu pobl gyda'r costau o edrych ar ôl eu hanifeiliaid, i’r ‘super premium’ ble mae’r bwyd yn seiliedig ar blanhigion, a mae ‘na fwyd pryfed ar gyfer cŵn – protein pryfed sydd ynddo fe.
“Mae’r busnes bwyd ci wedi newid yn y 15 mlynedd dwi ‘di bod yn gweithio ynddo. Mae’r bwyd nawr wedi mynd yn agos iawn at fwyd dynol yn yr enw, er enghraifft ‘dy’n ni’n gwneud bwyd twrci gyda cranberry.
"Felly, mae’n bwysig i ni farchnata ar yr ochr sy’n cymryd teimladau y perchennog fewn i ystyriaeth a wedyn gwneud yn siŵr bo’r bwyd y safon gorau i’r cŵn. Ar brydiau chi’n crafu pen a meddwl bo’r peth yn hollol hurt, ond dyna’r sefyllfa ni ynddo.”
Allforio dros y byd
Mae'r cwmni bellach wedi creu enw i'w hun yn rhyngwladol, gyda'r cynnyrch yn cael ei allforio ledled y byd.
Yn cyfeirio at ddau archeb sy’n barod i fynd dywedodd Jonathan, “Mae dau lwyth yn barod; un yn mynd i Malaysia a’r llall yn mynd i Dde Corea.
"Ni’n gwneud Singapore fyd, ac wrth gwrs dros Brydain i gyd.”
Ac yn wahanol i gwmnïoedd eraill, mae Pero yn caniatáu i bobl bersonoli'r bwyd.
“Mae’r lefel o gwsmeriaid sydd 'da ni wedi cynyddu, ac un o’r pethau ni’n gwneud yw rhoi’r cyfle i'r siopau bychain gael enwau eu hunain ar y bwyd.
"Mae ‘na rhywbeth ni’n galw’n signature ble mae cwsmer siop fychan yn gallu cael brand ei hunan yn ei siop, ac mae hwnnw’n newid i bob cwsmer wedyn. Mae lan iddyn nhw beth maen nhw eisiau ar y label; llun y perchennog, llun y ci, llun rhywbeth hollol wahanol.
"Yn draddodiadol os mae rhywun eisiau brand eu hunain maen nhw’n gorfod prynu bagiau, ac mae’n gost enfawr i’w wneud. Gyda'r system ni’n ddefnyddio mae’r cwsmeriaid yn gallu archebu un bag gyda’u henw nhw arno fe.”
Cynyddu niferoedd y staff
I gydfynd gyda thwf y cwmni maen nhw hefyd wedi adeiladu melin newydd ar y lleoliad ym Mhenygroes.
Yn naturiol, wrth i'r cwmni dyfu mae'r nifer o weithwyr hefyd yn gorfod tyfu, fel esboniai Jonathan.
“Ers i ni symud yma i Benygroes ni wedi dwblu faint o staff sydd ‘da ni – ni ar 30 ar hyn o bryd, a ni dal yn edrych i ehangu faint o bobl sy’n gweithio ‘ma; o fewn y warws, mas ar y lon yn gwerthu ac yn y swyddfa. Felly mae yna eitha’ dipyn o swyddi o wahanol lefelau a phrofiad sydd angen cymwysterau gyda ni yma.”
Oedd Jonathan wedi rhagweld y twf yma?
“O’n i wedi cael cytundeb i gyflawni cwpwl o bethau newydd, ac o’n i’n gwybod bod ‘na werth yn dod trwy rheiny.
"Ond mae’r twf wedi bod tipyn yn fwy na beth oedd yn y planiau gwreiddiol, a ni’n gobeithio y bydd y twf yna’n parhau dros y blynyddoedd nesa’.”
Arddel y Gymraeg
Yn ganolbwynt i'r holl beth maen nhw'n ei wneud yn y cwmni mae'r iaith Gymraeg - o'r enw i'r rhestr cynhwysion ar y bagiau.
“Ni wedi cael sawl dadl ynglŷn â ble ddaeth yr enw. Ar un pryd meddwl ‘ydy e’n rhywbeth sydd ‘di dod nôl o Batagonia?’ achos perro yw'r gair Sbaeneg am gi.
"Ond mae’n anodd ffeindio beth oedd gwraidd yr enw pero am gi (yn Gymraeg) – dy’n ni wedi bod yn hapus gan fod gymaint yng Nghymru o’r enw Pero, a dyna ble mae wedi dod."
Ac mae'r Gymraeg i'w gweld yn amlwg ar bob bag sy'n cael ei gynhyrchu.
“Mae Gymraeg yn bwysig i ni, ac hyd yn oed ar y bagiau sy'n mynd dros y môr i Asia, mae’r cynhwysion ar bob bag yn y Gymraeg, ar y brig o’r ieithoedd eraill y byd sydd ar y rhestr ac i'w gweld ar y bagiau."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018