Ar dy feic: Llwybrau seiclo i’r teulu cyfan
- Cyhoeddwyd
Rydw i, fel sawl un arall, yn dueddol o roi'r pwyslais yn aml ar her a chyflymder wrth ysgrifennu am seiclo.
Ond wrth i'r Gwanwyn ddynesu eleni, a sawl un ohonoch mae'n siŵr yn barod i estyn am y beic o'r garej neu'r sied, 'dw i am roi'r pwyslais y tro hwn ar seiclo mwy hamddenol.
Felly dyma olrhain llwybrau sy'n berffaith ar gyfer y teulu cyfan ym mhob cornel o Gymru.
Ynys Môn:
Lôn Cefni
Gan ddilyn trywydd yr afon Cefni, mae'r daith naw milltir yn mynd â chi o Lyn Cefni ger Bodffordd, gan basio Cors Ddyga ar y ffordd i Goedwig Niwbwrch, lle dylech gadw llygad allan am y gwiwerod coch. Rhwng y gwarchodfeydd natur, tref farchnad a'r cyfle am détour bach i Ynys Llanddwyn, mae rhywbeth at ddant pawb ar y llwybr hwn.
Gwynedd
Lôn Eifion
Mae un pen y llwybr hwn ym Mryncir, a'r pen arall yn nhref Caernarfon. Ar y daith, sy'n rhyw 12.5 milltir un ffordd, ceir digonedd o lecynnau tawel ar hyd ei choridorau coed, yn ogystal â golygfeydd gwerth chweil i bob cyfeiriad. A pha le gwell i gymryd hoe nag ar lan y Fenai, ger y castell neu ar y maes?
Lôn Ogwen
Llwybr un ar ddeg milltir sy'n byrlymu â hanes a threftadaeth o Borth Penrhyn i un o lecynnau mwyaf trawiadol Eryri, Nant Ffrancon. Mae'r rhan hyd at Dregarth yn ddigon gwastad, cyn bo tipyn o ddringo wrth i'r llwybr eich arwain drwy Chwarel y Penrhyn hyd at lannau Llyn Ogwen ar droed Tryfan. Gwylier yr anifeiliaid gwyllt!
Llwybr y Mawddach
Mae'r llwybr naw milltir hwn yn dilyn ôl hen reilffordd ar hyd afon a foryd y Mawddach. O'r herwydd, mae'n gwbl wastad, ac mae'n daith boblogaidd gan gysylltu tref farchnad fyrlymus Dolgellau â phont a thref glan môr y Bermo. Picnic a hufen ia rywun?
Conwy a Sir Ddinbych
Lôn Clwyd
Llwybr â digon o ddiddordeb rhwng dinas Llanelwy a'i chadeirlan, tref Rhuddlan a'i chastell, a bwrlwm glan môr y Rhyl. Mae'n drueni nad ydy'r llwybr wedi'i ymestyn i'r de tua Dinbych fel obeithwyd, ond mae digon o apêl i'r saith milltir o lwybr sydd yn bodoli.
Llyn Brenig a Llyn Alwen
Cyfle i brofi'r tirwedd eang, gwyllt sy'n amgylchynnu'r pâr yma o lynnoedd, heb fod ymhell o Gerrigydrudion. Mae sawl dewis yn eich disgwyl; p'un ai ydych chi am seiclo o amgylch y ddau lyn (pymtheg milltir) neu un ohonynt, neu'r llwybrau eraill sydd i'w cael o'r ganolfan ymwelwyr.
Powys
Llyn Efyrnwy
Er nad yn ddi-draffig, mae'r ffordd un ar ddeg milltir sy'n amgylchynnu Llyn Efyrnwy yn boblogaidd iawn gyda seiclwyr o bob gallu. Mae'r holl gyfleusterau ar gael mewn man cyfleus, ac mae cyfle i fwynhau gwarchodfa natur un pen y llyn, a rhaeadr trawiadol Rhiwargor ar y pen arall.
Cwm Elan
Yn cael ei ddisgrifio fel 'trysor cudd', mae'r rhan helaeth o'r llwybr yn dilyn hen reilffordd Corfforaeth Birmingham. Mae'r llwybr naw milltir yn eich arwain ar hyd glannau'r dair cronfa ddŵr; cadwch lygad barcud am y barcutiaid coch.
Ceredigion
Llwybr Ystwyth
Un arall o'r llwybrau hynny sy'n dilyn ôl rheilffordd, a'r tro hwn yn cysylltu tref Aberystwyth â Gwarchodfa Natur Cors Caron ar gyrion tref farchnad Tregaron. Dyma lwybr sy'n ymestyn 21 o filltiroedd, ond wrth gwrs mae modd cwtogi fel y mynnwch; argymhellir y gydran saith milltir o Aber i Lanilar.
Sir Benfro
Abergwaun i Dyddewi
Llwybr arall sydd fymryn yn hirach (19 milltir) lle mae modd mwynhau rhannau di-draffig yn agosach at Abergwaun, neu lonydd gwledig wrth ddynesu at ddinas unigryw Tyddewi. Ar y daith, ceir cyfle i fwynhau'r gorau o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a bryniau'r Preseli.
Caerfyrddin
Dyffryn y Swistir
Llwybr 14 milltir drwy gefn gwlad fu gynt yn fro ddiwydiannol ar hyd hen reilffordd y Mynydd Mawr. Mae'n llwybr di-draffig sy'n cysylltu'r arfordir ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli â thref Cross Hands, gan gynnwys rhannau coediog, cronfeydd dŵr a hen lofeydd.
Morgannwg
Llwybr y Taf ym Merthyr
Cydran bedair milltir o lwybr hirfaith y Taf, sy'n gadael ardal boblog Merthyr Tudful gan anelu am y bryniau. Hynny gan groesi traphont Cefn Coed y Cymer, dilyn llwybrau drwy goetir gan ddringo'n araf at gronfa ddŵr Pontsticill, lle ceir golygfeydd o rai o gopaon uchaf y Bannau Brycheiniog.
Caerdydd
Castell Coch
Byddai'r rhestr yn anghyflawn heb y brifddinas, a pha lwybr gwell na'r llwybr naw milltir didraffig hwn o Barc Biwt drwy galon Caerdydd ar hyd yr afon Taf, cyn dianc o brysurdeb y ddinas i ganol y bywyd gwyllt, a diweddu yn y Castell Coch a'i awyrgylch tylwyth teg.
Sir Fynwy
Cwm Clydach
I Sir Fynwy awn i gloi'r casgliad â llwybr sy'n mynd o Lanfoist ar gyrion Y Fenni i Frynmawr. Mae'n mynd â chi uwchben y ceunant yng Nghwm Clydach, yn ogystal â chynnig golygfeydd o fynyddoedd Pen y Fâl ac Ysgyryd Fawr, a chip o'r oes ddiwydiannol wrth ddynesu at flaenau'r Cymoedd.
Drwy roi'r casgliad hwn at ei gilydd, daeth cyfle i mi hel atgofion am rai o'r llwybrau hyn, lle bûm i'n bwrw 'mhrentisiaeth wrth seiclo, fel petai.
Y llwybrau hyn sy'n gyfrifol, i raddau helaeth, am gynnau fy mrwdfrydedd am ddwy olwyn, am ddarganfod lleoliadau newydd, ac am dirwedd Cymru.
Pa ffordd well o brofi ysbryd gobeithiol y Gwanwyn na neidio ar gefn beic efo'ch gilydd i ddod o hyd i'r hyn sydd gan lonydd Cymru i'w gynnig?
Hefyd o ddiddordeb: