Trefniadau teithio yn plesio trefnwyr yr Eisteddfod

Sgwteri Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai'n poeni nad yw'r safle parcio ar gyfer pobl ag anableddau yn ddigon agos at y brif fynedfa, sef ble mae sgwteri ar gael i’w llogi

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl penwythnos cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd mae'r trefnwyr yn dweud eu bod wedi eu plesio â'r trefniadau teithio.

Yn ôl y Prif Weithredwr, Betsan Moses, mae pethau wedi gweithio'n "hwylus" iawn, ac mae hi'n annog Eisteddfodwyr i ddilyn cyngor y trefnwyr, a'r cyfarwyddiadau, ac i beidio gyrru mewn i’r dref fel bod dim trafferthion traffig yn lleol.

Eisoes mae dros 2,000 o bobl wedi archebu lle ymlaen llaw ym meysydd parcio a theithio'r Eisteddfod.

Mae ardal barcio benodol ar gyfer pobl ag anableddau sy’n ddeiliaid bathodynnau glas ym maes parcio St Catherine yn y dref ond mae rhai yn poeni nad yw'r safle'n ddigon agos at y brif fynedfa, sef lleoliad ble mae’r sgwteri ar gael i’w llogi.

Yn ôl Nia Einir Williams: "Mae’r cerdded yn ormod i bobl sydd â phroblemau.

"Diolch i’r Eisteddfod am geisio gwneud y cyfleusterau i bobl ac anableddau, ond nid oedd yn llwyddiannus nos Sadwrn, pan mae’r coesau yn flinedig a phoenus."

Dywedodd llefarydd ar ran y trefnwyr bod "help ar gael" i bwy bynnag sydd ei angen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnal Eisteddfod yng nghanol tref yn golygu fod rhaid addasu, meddai Oliver Griffith-Salter

Dywed Oliver Griffith-Salter, swyddog hygyrchedd yr Eisteddfod, fod cynnal y Brifwyl yng nghanol tref yn golygu fod rhaid addasu.

"Mae'r maes tua 230 metr o'r maes parcio i'r mynediad wrth bont dau. Yn anffodus, achos ein bod ni mewn tref ac ma’ hewlydd i gael bob ochr i'r maes, ni bach yn styc o ran llefydd i gael maes parcio i bobl ag anableddau mor agos â phosib."

Mae'n cynghori pobl i gysylltu ymlaen llaw trwy ebost os yn bosib er mwyn trefnu'r ffordd fwyaf hwylus i gyrraedd y maes.

"Ma'n galed, achos ar y maes 'ma gyda ni buggies petrol ac electrig ond s'dim hawl 'da ni fynd â rhein ar yr hewl, ond mae cwmni Byw Bywyd gyda ni yn llogi mas sgwteri electrig i bobl sydd eisiau nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Ar gychwyn yr wythnos mae Iolo Jones o gwmni Byw Bywyd yn dweud fod y trefniadau wedi bod yn hwylus

Mae Iolo Jones, perchennog Byw Bywyd, yn cynghori pobl i archebu ymlaen llaw.

"Yn anffodus mae’r maes parcio wrth ymyl yr ail fynedfa ond mae’n bosibl gollwng pobl tu allan i’r brif fynedfa. Neu os ydach chi’n cael trafferth gwneud hynny allwch chi ddod â bygi o’r ail fynedfa i’r brif fynedfa."

Ar gychwyn yr wythnos, mae'n dweud fod y trefniadau wedi bod yn hwylus.

"Mae ‘na bobl yn archebu fel arfer o flaen llaw, ac mae ‘na broblemau yn gallu bod fel arfer ar y diwrnod cyntaf ond ‘dan ni’n dod dros broblemau a dwi’n meddwl rhwng Ollie ar y maes a fi ,fe allwn ni ddelio â phethe."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r trefniadau wedi bod yn brilliant," yn ôl Heidi Abraham

Roedd Heidi Abraham, sydd ag anabledd, wedi dod â'i sgwter ei hun i'r maes. Mae hi yn canmol y trefniadau.

"Mae'r trefniadau wedi bod yn brilliant, i ddweud y gwir," meddai.

"Ni wedi parcio yn y maes parcio sy'n saved i bobl anabl, dim ciwiau, pobl i gwrdd â ni yno a wedyn straight i'r llyfrgell i brynu tocynnau, dim problem.

"Pobl yn symud allan o'r ffordd, ac yn gyfeillgar iawn. Dim problem o gwbl, popeth yn fflat, pobl yn symud mas o'i ffordd - 'na grêt!"

'Mae help ar gael'

Dywedodd llefarydd ar ran trefnwyr yr Eisteddfod: "Mae gennym ni swyddog yno i helpu pobl i barcio drwy gydol y dydd, ac mae swyddog diogelwch yno 24 awr y dydd i helpu unrhyw un sydd angen cymorth, boed hynny wrth gyrraedd neu adael y maes parcio.

"Darparwyd y maes parcio hwn i ni fel maes parcio anabl gan y cyngor gan ei fod yn un o dri maes parcio anabl dynodedig yn y dref, ac yn cael ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr anabl bob dydd.

"Mae arwyddion wedi'u gosod i arwain pobl i'r Maes o'r maes parcio ac mae'r Maes lai na 250medr i ffwrdd o'r maes parcio.

"Rydyn ni hefyd wedi cynnwys cyfeiriad ebost Ollie ar y wefan ac ar ein app felly os oes unrhyw un angen help, yna mae'r help ar gael."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mewn cynhadledd i'r wasg fore Llun, dywedodd Betsan Moses bod yr Eisteddfod yn parhau i roi pwyslais ar gynaliadwyedd wrth geisio symud tuag at ŵyl fwy gwyrdd.

Mae’r Eisteddfod fwy trefol eleni, meddai, wedi bod yn gyfle i fwy fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus i deithio i’r maes, ond nid dyna’r unig fantais bosib.

"Yn gonfensiynol, byddai’r Eisteddfod yn gofyn am 175 erw o dir fflat" er mwyn cynnal yr ŵyl, meddai.

Ond nawr "mae’n rhaid i ni fod yn greadigol ac edrych yn wahanol" wrth fynd i ardaloedd fel Cymoedd y de.

"Dyna fel y’ch chi’n newid yr agwedd a sicrhau bod pobl yn cael cyfle i glywed y Gymraeg."