Mererid Hopwood yn 'falch' bod mwy nag erioed yn cael eu hurddo

Mererid Hopwood a Myrddin ap Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prifardd Mererid Hopwood yn olynu Myrddin ap Dafydd fel Archdderwydd

  • Cyhoeddwyd

Mae lle i ddathlu llwyddiant yr orsedd yn ystod y Brifwyl eleni, medd yr Archdderwydd newydd.

Mae Mererid Hopwood yn paratoi ar gyfer ei seremoni fawr gyntaf wrth gylch yr orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad.

"Mae mwy nag erioed yn cael eu hurddo, gyda'r nifer drwy radd yn uwch nag erioed, a'r diddordeb lleol yn fawr," meddai.

Fore Llun bydd yn croesawu ac yn urddo aelodau newydd i'r orsedd gan gynnwys prif enillwyr Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, prif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r rhai sydd i'w derbyn wedi iddyn nhw gwblhau gradd gymwys neu arholiad yr Orsedd.

Disgrifiad,

Mererid Hopwood yw'r ferch gyntaf i ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae Mererid Hopwood yn gyfarwydd iawn â bod ar lwyfan y Brifwyl.

Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol a hynny yn Eisteddfod Sir Ddinbych yn 2001. Mae hi hefyd wedi ennill y Goron a'r Fedal Ryddiaith.

Ond, wrth baratoi ar gyfer eu dyletswyddau yn ystod yr wythnos ym Mhontypridd fe ddywedodd y bydd y profiad o ymddangos ar y llwyfan fel Archdderwydd yn wahanol iawn i'r profiad o fod yn enillydd.

"Be' sy'n dda am ennill yw bod dim rhaid dweud gair o'ch pen o'r dechre i'r diwedd - y prif beth yw ceisio peidio baglu!

"Ond mae'r Archdderwydd yn gorfod dweud ambell i beth, er ar ysgwyddau'r Arwyddfardd mae'r baich o 'neud yn siŵr fod popeth yn drefnus!"

Ei bwriad yw sicrhau fod y sylw pennaf ar yr enillwyr neu aelodau eraill yr orsedd, hen a newydd yn ystod yr wythnos, meddai.

"Mae'n siŵr y bydda i, fel rhan fwyaf o archdderwyddon, yn ceisio peidio tynnu sylw atyn nhw eu hunain.

"Seremoni'r prif enillwyr yw rhai y p'nawn a seremonïau'r rhai sydd yn cael eu hurddo i'r orsedd yw rhai'r bore.

"Ond, dyna ni rwy'n fenyw ac mae hynny yn wahanol i rhan fwya o'r archdderwyddon sy wedi bod o mlaen i!"

Synnu bod dim mwy o ferched wedi ennill cadair

Hi fydd yr ail fenyw i ymgymryd â'r rôl - Christine James oedd y gyntaf rhwng 2013 a 2016.

"Mae'n fy synnu mai dim ond dwy fenyw sy' wedi bod wrth y llyw.

"Mae hefyd yn fy synnu bod dim mwy o fenywod wedi ennill y gadair erbyn hyn. Ond mae'n rhaid i ni ddal ati a gobeithio drwy ymgymryd â'r rolau yma , y byddwn ni yn ysgogi mwy i ddod ymlaen a mentro arni."

Mae'r Athro Hopwood yn gwrthod yr awgrym ei bod hi yn fodel rôl i fenywod eraill.

"Byddwn i ddim yn dweud hynny, ond mae ambell un wedi dweud, o weld menyw yn y rôl yna - mae yn gwneud y peth yn fwy cyffredin ac arferol."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Joseff Gnagbo, yn derbyn y Wisg Las

Mae'r Archdderwydd Mererid hefyd yn annog mwy o bobl i gynnig eu henwau fel archdderwydd ac aelodau o'r orsedd.

"Mae ambell i fam neu dad ifanc, er enghraifft, sy' yn gymwys am y rôl ac os ydyn nhw'n barod i roi eu henwau ger bron, fe fydde hi yn hyfryd iawn i glywed wrthyn nhw.

"Ond, o ran yr orsedd dwi yn falch iawn i ddweud bod mwy o bobl wedi rhoi eu henwau ger bron i fod yn aelodau eleni, pobl ifanc a phobl sy' ishe dod ato' ni drwy radd.

"Mae yn gyffrous iawn i feddwl y bydd corlan enfawr o'r rheiny yn dod ato' ni fore Llun i gael eu hurddo a ddydd Gwener eto.

"Mae angen i bobl enwebu pobl maen nhw'n feddwl sydd yn ddilys ac yn addas, ac maen nhw yn meddwl sydd wedi gwneud cyfraniad, dyna'r peth."

'Yr Orsedd yn gorfod addasu'

Wrth edrych i'r dyfodol mae'r Athro Hopwood newydd yn dweud y bydd yr orsedd yn parhau i newid ac addasu.

"Fel popeth byw, mae'r orsedd yn gorfod addasu. Mae hynna yn wir am ein holl draddodiadau ni.

"Er mwyn iddyn nhw barhau maen nhw'n gorfod parhau yn fyw ac mae popeth byw yn esblygu.

"Rwy'n falch mai siâp cylch yw'r Orsedd. Dim trefn yr ychydig ar y top a llawer ar y gwaelod yw'r Orsedd. Ry' ni'n gylch. Pobl yn gyfartal â'i gilydd."

Fe wnaeth yr Archdderwydd newydd ei hanerchiad cyntaf o'r maen llog yn ystod Gŵyl gyhoeddi Eisteddfod Wrecsam ym mis Ebrill, ac roedd ganddi neges gref wrth drafod yr angen am heddwch.

Mae'n dweud y bydd hi'n parhau i draddodi'r neges yna yn ystod ei chyfnod fel Archdderwydd.

"Yn anffodus dydyn ni ddim yn byw mewn byd o heddwch, ac yn anffodus mae yna sôn bod rhaid i ni ymbaratoi at ryfel, yn hytrach na heddwch.

"Dyw amcanu at fyd o heddwch ddim yn hawdd, ma'n golygu newid yn ein meddylfryd.

"Os na allwn ni yn yr orsedd sydd yn dyheu, neu yn gorymbil am heddwch ystyried y pethau hyn, yna wn i ddim yn wir lle allwn ni neud."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mererid Hopwood yn croesawu'r brwdfrydedd yn ardal y Brifwyl eleni

Fel un a gafodd ei haddysg ym mro'r Eisteddfod ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Llanhari, mae hi'n croesawu'r brwdfrydedd yn yr ardal wrth baratoi ar gyfer croesawu'r Brifwyl.

"Rwy 'di bod yn ffodus iawn i ddod nôl ac ymlaen i'r ardal hon wrth baratoi at wythnos yr Eisteddfod ac wedi bod wrth fy modd yn cwrdd â phobol newydd, pobl dwi ddim yn nabod ymlaen llaw.

"Mae pawb yn bwrw ati - cannoedd ar gannoedd o wirfoddolwyr newydd yn benderfynol o wneud yr Eisteddfod hon yn un llwyddiannus.

"Mae reit ynghanol tref, ar garreg drws cymaint o bobl, a dwi yn gobeithio wir y byddwn ni gyda'n gilydd, yn ymwelwyr i'r ardal a phobl yr ardal yn mwynhau mas draw."

Pynciau cysylltiedig