Gyrrwr yn euog o ladd pencampwraig treiathlon

Rebecca CominsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rebecca Comins ei 'thaflu i'r awyr' ar ol cael ei tharo gan fan oedd yn cael ei gyrru gan Vasile Barbu

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 49 oed o'r Fenni wedi cael ei ddyfarnu'n euog o achosi marwolaeth pencampwraig treiathlon drwy yrru'n beryglus.

Cafodd Rebecca Comins, 52 oed, ei tharo gan fan Vasile Barbu tra'n seiclo ar yr A40 ger pentref Rhaglan ym Mehefin 2022.

Clywodd y llys ei bod hi wedi cael ei "thaflu i'r awyr" wrth gael ei tharo.

Doedd dim emosiwn ar wyneb Barbu pan glywodd y dyfarniad yn Llys y Goron Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Google Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A40 ger pentref Rhaglan

Clywodd y llys bod Ms Comins, o Gil-y-Coed, yn rhan o ddigwyddiad gyda seiclwyr eraill pan fu farw o "anafiadau trawmatig i'r frest."

Roedd arwyddion ar y ffordd i hysbysu gyrwyr bod beicwyr ar y ffordd a bod ganddyn nhw olau coch, llachar ar gefn eu beiciau.

Dywedodd un llygad dyst, oedd yn gyrru ar y ffordd, ei fod wedi symud i'r lôn ganol er mwyn osgoi'r seiclwyr a'i fod wedi gweld y fan yn cael ei gyrru gan Barbu yn ei ddrych.

Dywedodd bod Barbu wedi aros yn yr un lôn cyn iddo daro Ms Comins.

'Carchar bron yn anorfod'

Roedd seiclwr oedd rhai safleoedd y tu ôl i Ms Comins yn dweud ei fod wedi teimlo'r fan a oedd yn cael ei gyrru gan Barbu yn pasio'n agos ato.

Fe basiodd Barbu brawf alcohol a chyffuriau.

Dywedodd wrth heddlu ei fod wedi clywed "cnoc" a'i fod wedi stopio'r cerbyd gan feddwl mai parseli yn symud yn ei fan oedd y sŵn.

Dywedodd ei fod wedi gweld seiclwr, ond nad oedd yn gallu egluro sut y gwnaeth ei tharo hi.

Dywedodd y Barnwr Shonon Khan i Barbu bod "carchar bron yn anorfod."

Er i'r barnwr ryddhau Barbu ar fechnïaeth tan ddiwrnod ei ddedfrydu ar 5 Gorffennaf, dywedodd: "dydi hyn ddim yn golygu y cei di unrhyw beth heblaw am ddedfryd o garchar am y digwyddiad difrifol iawn yma".

Fel rhan o amodau ei fechnïaeth, mae'n rhaid i Barbu ildio ei basbort a mynd yn rheolaidd i orsaf heddlu.

Pynciau cysylltiedig