Hanner plant wedi cael anghenion dysgu - ymchwil
- Cyhoeddwyd
Roedd bron i hanner y plant o Gymru oedd yn rhan o waith ymchwil wedi cael eu cofrestru ag anghenion dysgu ychwanegol ar ryw adeg yn eu haddysg.
Edrychodd ymchwilwyr ar blant gafodd eu geni yn 2002 a 2003, gan ddarganfod bod 47.9% wedi'u cofrestru gyda rhyw fath o angen ychwanegol erbyn cyrraedd 16 oed.
Dywedodd ymchwilwyr bod y canfyddiadau'n "herio'n glir y syniad bod anghenion dysgu dim ond yn effeithio ar leiafrif o ddysgwyr".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi mwy na £107m i gefnogi'r diwygiadau sylweddol i'r drefn.
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
Mae'r drefn o gefnogi plant yn newid, gyda grwpiau o ddisgyblion yn raddol yn cael eu symud o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (SEN) flaenorol i'r drefn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Mae'r data diweddaraf yn awgrymu bod 13.4% o ddisgyblion wedi'u cofrestru dan y naill drefn neu'r llall.
Ond trwy ddilyn plant dros gyfnod hir, dywedodd ymchwilwyr Prifysgol Bryste bod y gyfran sydd wedi cael anghenion ychwanegol ar ryw adeg yn sylweddol uwch.
Mae anghenion dysgu ychwanegol yn gallu golygu amryw o anawsterau sy'n gallu gwneud hi'n anoddach i blant ddysgu a sy'n gallu golygu bod angen help ychwanegol neu wahanol arnyn nhw.
Mwy cyffredin i blant a anwyd yn yr haf
Yn ogystal, edrychodd yr ymchwilwyr - oedd hefyd yn cynnwys academyddion o Brifysgol Abertawe - ar effaith anghenion ychwanegol ar gyrhaeddiad a chanfod ei fod yn cael "effaith sylweddol... ar gyflawniad academaidd".
Roedd plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim drwy gydol eu haddysg bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu hadnabod ag ADY ac roedd bechgyn 5.5 gwaith yn fwy tebygol na merched.
Roedd disgyblion a anwyd yn yr haf dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cofrestru gydag ADY na phlant a anwyd yn yr hydref, yn ôl yr astudiaeth gafodd ei ariannu gan Sefydliad Nuffield.
Yn ôl y prif awdur, Dr Cathryn Knight o Brifysgol Bryste, mae'r "nifer annisgwyl o uchel" o ddisgyblion oedd wedi cael eu nodi ag anghenion ychwanegol yn "codi pryderon" am ba mor effeithiol yw'r broses o adnabod anghenion disgyblion.
Dywedodd Dr Knight: "Er mwyn gwella lefelau cyrhaeddiad academaidd yng Nghymru, mae'n hanfodol blaenoriaethu cefnogaeth effeithiol i'r grŵp mawr iawn hwn o ddysgwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "tegwch a chynhwysiant" yn ganolog i'r diwygiadau i'r drefn ADY a bod buddsoddiad wedi ei "gynyddu'n sylweddol".
Ychwanegodd bod mwy o arian wedi ei roi i ddatblygu sgiliau'r gweithlu addysg a hyfforddi athrawon arbenigol a seicolegwyr addysg newydd.
Yn ôl undeb addysg yr NEU, mae angen mwy o gyllid a hyfforddiant i staff er mwyn cefnogi disgyblion.
Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd dros dro NEU Cymru, bod angen edrych ar sut mae plant yn cael eu hasesu i gael dull "sydd wir yn cydnabod yr hyn y gall plant ei wneud".