'System addysg Cymru'n amddifadu plant ag anableddau'
- Cyhoeddwyd
Mae plant yng Nghymru sydd ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hamddifadu gan y system addysg, yn ôl adroddiad gan bwyllgor y Senedd.
Yn ôl yr adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, mae yna nifer sylweddol o blant yng Nghymru sydd ddim yn cael yr addysg maen nhw'n ei haeddu.
Ychwanegodd nad yw'r system addysg yn gwneud digon i roi cymorth iddyn nhw.
Mae rhiant wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod hi'n wynebu brwydr barhaus i gael cefnogaeth i'w efeilliaid saith oed, sy'n awtistig, gan gynnwys rhwystrau'n ymwneud â chymorth gofal plant a darpariaeth yn Gymraeg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau fel bod pob dysgwr yn gallu cyrraedd eu potensial.
Yn ôl yr adroddiad, mae'n loteri cod post sy'n golygu mai unigolion, yn hytrach na'r system, sy'n gyfrifol am unrhyw ddarpariaeth o safon.
Mae Betsan Gower Gallagher o Drebannws yng Nghwm Tawe yn fam i Brielle a Bowann - efeilliaid saith oed.
Maen nhw’n awtistig ac mae angen gofal un-i-un ar gyfer eu hanghenion.
Dywedodd Ms Gower Gallagher fod sicrhau bod y merched yn cael mynediad at addysg pan oedden nhw’n iau yn “frwydr anodd”.
“Mae popeth yn frwydr fel rhieni plant anabl, ac mae popeth ag addysg yn flinedig tu hwnt," meddai.
“Ni ddim yn cael yr un triniaeth â phobl eraill.
“Mae angen gofal un-i-un ar ein merched, ac roedd rhaid i ni frwydro’n galed am hynny.
“Roedd yn rhaid i ni brofi bod ein plant yn anabl, sy’n ridiculous.”
Gyda gwyliau’r haf yn agosáu, dywedodd Ms Gower Gallagher ei bod hi’n anodd trefnu gofal plant tra'i bod hi a'i gŵr yn gweithio.
“Rwy’n gwybod am leoedd yn Lloegr lle mae ganddyn nhw glybiau lle maen nhw’n gallu anfon eu plant anabl, ond does dim byd fel 'na yn agos i ni, "meddai.
“Mae gofal plant ni ar hyn o bryd yn £1,000 yr wythnos ar gyfer yr haf. Fi a gŵr fi yn gweithio, ond mae hwnna’n swm ofnadwy o uchel.
“Gall pobl eraill anfon eu plant i glwb haf allai fod tua £100 yr wythnos, sy’n swm gweddol yn fy marn i.
“Ond mae £1,000 yr wythnos yn swm uchel iawn.
“Fi’n teimlo fel fy mod yn cael fy nghosbi. Rwy'n teimlo bod y system yn gwahaniaethu [yn erbyn] fi a fy nheulu."
Rhieni'n 'ysu am gefnogaeth'
Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’w 31 o argymhellion.
Mae’r argymhellion yn cynnwys trefnu mwy o hyfforddiant i ddarparwyr gofal plant, ac yn dweud y dylai penderfyniadau ar gymorth ariannol fod yn seiliedig ar anghenion unigol y plentyn.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw am fwy o gyllid i ysgolion, am ddylunio ysgolion newydd a chael mwy o gludiant i’r ysgol.
Dywedodd Buffy Williams AS, cadeirydd y pwyllgor, bod rhieni yn “ysu am gefnogaeth".
“Drwy gydol yr ymchwiliad hwn, clywsom gan rieni a oedd yn ysu am gefnogaeth, ac i gael rhywun i wrando arnynt," meddai.
"Bydd llawer o'r straeon yn aros gyda mi am byth."
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
Ychwanegodd: “Fydden ni ddim yn gwneud ein gwaith pe na byddem yn clywed eu lleisiau ac yn cyflwyno’r achos cryfaf posibl i Lywodraeth Cymru dros yr hyn sydd angen ei newid – dyna rydyn ni’n ei ddweud yn yr adroddiad hwn.
"Y strwythur sydd ar fai, nid athrawon na staff gofal plant unigol sy’n gwneud eu gorau glas er gwaetha’r strwythur.
“Ni allwn wneud cam â’n pobl ifanc mwyach. Dim ond un cyfle gewch chi mewn addysg, a dylai hwnnw fod y cyfle gorau posibl.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gan blant a phobl ifanc anabl hawliau sylfaenol i gael mynediad at addysg, ac rydym wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau fel y gall pob dysgwr gyrraedd eu potensial.
“Byddwn yn parhau i weithio ar draws y llywodraeth i wrando ar deuluoedd, plant anabl a phobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, wrth i ni ystyried y gwaith ochr yn ochr ag adroddiad ac argymhellion pwyllgor y Senedd.”
Plant a theuluoedd 'mewn limbo'
Gan ddisgrifio'r adroddiad fel un "hynod arwyddocaol", dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd "o ddifrif" casgliad y pwyllgor "bod hawliau plant i addysg yn cael eu torri yng Nghymru".
"Ni allwn fethu cenhedlaeth o blant drwy wneud dim," dywedodd. "Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion cynhwysfawr a allai drawsnewid bywydau plant os ydyn nhw’n cael eu gweithredu gyda'i gilydd...
"Mae plant a theuluoedd yn aml yn cael eu gadael mewn limbo heb y cymorth neu'r ddarpariaeth sydd eu hangen arnynt, yn colli allan ar eu hawliau dynol, a’u hanghenion sylfaenol.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb yn llawn ac yn gynhwysfawr i'r adroddiad hwn yn ddi-oed, gan amlinellu'r camau y byddant yn eu cymryd i fynd i’r afael â'r materion sy'n wynebu plant a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru."