Casnewydd yn penodi David Hughes yn rheolwr newydd

Fel chwaraewr, fe dreuliodd David Hughes gyfnodau gydag Aston Villa, Amwythig a Chaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi penodi David Hughes yn rheolwr newydd.
Mae'r Cymro 47 oed wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda'r Alltudion, ar ôl gadael ei rôl fel hyfforddwr ac is-reolwr tîm dan-21 Manchester United.
Fe fydd Hughes yn olynu Nelson Jardim fel rheolwr wedi iddo adael y clwb ym mis Ebrill ar ôl llai na thymor wrth y llyw.
Dywedodd Hughes nad yw "gadael clwb arbennig fel Manchester United fyth yn hawdd" ond ei fod yn "edrych ymlaen at y bennod nesaf".
Cyn ymuno a Manchester United ym mis Awst 2022, roedd Hughes wedi treulio cyfnodau yn hyfforddi timau ieuenctid Caerdydd a Southampton.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd18 Mai