Sut dymor fu hi i glybiau Cymru yng nghynghrair Lloegr?

- Cyhoeddwyd
Wrth i dymor pêl-droed arall ddirwyn i ben, mae podlediad Y Coridor Ansicrwydd wedi bod yn bwrw golwg ar dymhorau'r pedwar clwb o Gymru sy'n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr.
Oni bai am lwyddiant syfrdanol parhaus Wrecsam, siomedig iawn fu'r tymor i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr.
Mae'r ffaith mai Phil Parkinson yn Wrecsam ydy'r unig reolwr o'r pedwar clwb lwyddodd i oroesi'r tymor yn adrodd cyfrolau.
Haf o ailadeiladu ac ailstrwythuro sylweddol sydd o flaen y mwyafrif, felly, gyda thasg Caerdydd yn ymddangos fwyaf dyrys wrth geisio dygymod gyda'r ergyd drom o ddisgyn i Adran Un.
Dyma sut mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn gweld blaenoriaethau'r clybiau dros yr wythnosau nesaf.
Abertawe

Cafodd Abertawe ddiweddglo gwell i'r tymor wedi i Alan Sheehan gymryd yr awenau
Rheolwr - Alan Sheehan
Safle - 11 yn y Bencampwriaeth
Owain Tudur Jones: "Dwi ddim eisiau edrych ymlaen mewn ffordd negyddol oherwydd mi ddaru nhw orffen y tymor yn dda o dan Alan Sheehan, ond mae'n rhaid i mi ddweud, dwi yn poeni.
"Mi fydd 'na wagle mawr yn y garfan. Mae Joe Allen a Kevin McNaughton wedi gadael; mae cytundeb Harry Darling yn dod i ben mis nesaf ac yn debygol o adael; Lewis O'Brien, sydd wedi bod ar fenthyg, mae o'n mynd.
"Mae Abertawe mewn sefyllfa lle maen nhw'n ceisio arbed arian. Yr asedau mwyaf sydd gan glybiau ydy chwaraewyr, a'r chwaraewyr gorau.
"Os fydd gan rywun diddordeb mewn arwyddo [Gonçalo] Franco, sydd wedi cael tymor a hanner, neu Ben Cabango neu Liam Cullen – os ydyn nhw'n gadael hefyd yna mae gan Abertawe waith mawr i'w wneud yn y ffenestr drosglwyddo i sicrhau tymor hanner llwyddiannus i ddod.
"Doeddwn i ddim yn credu mai Alan Sheehan oedd y dyn cywir i gael y swydd ond mae o wedi sicrhau canlyniadau da ers cael ei benodi'n rheolwr.
"Ond mae o angen help gan y perchnogion rŵan er mwyn cryfhau'r garfan."
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
- Cyhoeddwyd2 Mai
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Malcolm Allen: "Mae Sheehan wedi gwneud yn wych ers i Luke Williams adael ym mis Chwefror, ond mae'n rhaid i bethau newid oddi ar y cae dros yr haf.
"Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn glir o ran beth ydy'r uchelgais.
"Mae 'na ormod o anghysondeb yn chwarae'r tîm, a tan fydd hynny'n cael ei ddileu, does 'na ddim gobaith iddyn nhw fod ymysg y clybiau fydd yn brwydro am y gemau ail-gyfle tymor nesaf."
Caerdydd

Trodd Aaron Ramsey o fod yn chwaraewr i reolwr ar Gaerdydd erbyn diwedd y tymor
Rheolwr - Swydd yn wag
Safle - 24 yn y Bencampwriaeth (disgyn i Adran Un)
MA: "Mi fyddai'n arwydd positif iawn pe bai Aaron Ramsey yn aros gyda'r clwb i fod yn rhan o'r tîm hyfforddi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ond fy mhryder mawr i ydy bod angen newidiadau sylweddol oddi ar y cae o ran sut mae'r clwb yn cael ei redeg.
"Os ydy'r cadeirydd Mehmet Dalman a'r prif weithredwr Ken Choo yn aros, yna dydi pethau ddim am newid.
"Mae'n rhaid iddyn nhw wario hefyd i ddenu chwaraewyr.
"Mae Wrecsam wedi talu bron i £2m ar Sam Smith, £500,000 ar Ryan Longman ac Ollie Rathbone, heb sôn am gyflogau mawr i Jay Rodriquez, James McClean a Steven Fletcher.
"Felly mae'n rhaid i'r perchennog Vincent Tan fynd i'w boced."
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd19 Ebrill
OTJ: "Mae gymaint angen newid. 'Da ni'n gwybod bod y tymhorau diwethaf wedi bod mor negyddol ac wedi arwain at hyn.
"Dyna'r peth trist – mae'r arwyddion wedi bod yna ers tro bod nhw mewn perygl o ddisgyn allan o'r Bencampwriaeth.
"Mi fydd 'na chwaraewyr yna ar gyflogau mawr ac mi fydd hi'n anodd cael gwared ohonyn nhw.
"Dwi'n addo i chi, mae hi'n cymryd cymeriad gwahanol i chwarae yna [Adran Un] oherwydd tydi hi ddim yn gynghrair ddeniadol.
"Os wyt ti'n y math o chwaraewr fydd yn meddwl 'dwi'n well na hyn' yna does gen ti ddim gobaith."
MA: "Mae rhai o'r chwaraewyr wedi dangos eu cymeriadau tymor yma gyda dim tân yn eu boliau.
"Pwy sydd eisiau chwaraewyr sydd ddim yn fodlon torchi llewys? Mae'n drist o amgylch y clwb ar y funud."
Wrecsam

Y cyd-berchennog Rob McElhenney a'r rheolwr Phil Parkinson yn dathlu dyrchafiad Wrecsam i'r Bencampwriaeth
Rheolwr - Phil Parkinson
Safle - 2 yn Adran Un (dyrchafiad i'r Bencampwriaeth)
MA: "Am haf sydd gan gefnogwyr Wrecsam i edrych ymlaen ato, a gwych gweld y clwb yn gorffen efo dros 90 o bwyntiau er mwyn gorffen yn ail a chamu fyny i'r Bencampwriaeth.
"Maen nhw'n mynd o nerth i nerth a 'da ni gyd yn gwybod bod nhw am gryfhau.
"Mae'n amlwg bod y gwaith paratoi wedi ei wneud yn barod o ran gwybod pa chwaraewyr profiadol fydd ar gael ar ôl i'w cytundebau ddod i ben, ac mae'r arian yna hefyd i brynu."
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
OTJ: "Am gyffrous i'r cefnogwyr 'de? Mae o'n deimlad mor arbennig bod yn rhan o glwb fel yna achos dydi o ddim yn digwydd yn aml o gwbl.
"Ar y llaw arall, mae'n gyfnod eithaf ansicr i rai o'r chwaraewyr.
"Dwi'n siarad o brofiad drwy ddweud bod unrhyw ddyrchafiad yn golygu bod 'na chwaraewyr gwell yn dod i mewn i'r clwb.
"Mi fydd rhan fwyaf y garfan yn edrych i weld pa safle mae'r rhai sy'n cael eu cysylltu gyda Wrecsam yn chwarae er mwyn gweld os ydyn nhw'n chwarae yn eu safle nhw.
"Mae Steven Fletcher a Mark Howard wedi cael eu rhyddhau yn barod, felly mae hynny'n dangos fod Wrecsam ddim yn gweithredu gydag owns o sentiment."
Casnewydd

Gadawodd Nelson Jardim ei swydd fel rheolwr Casnewydd wedi iddyn nhw sicrhau eu dyfodol yn Adran Dau
Rheolwr - Swydd yn wag
Safle - 22 yn Adran Dau
MA: "Er bod nhw wedi gorffen un safle uwchben yn safleoedd disgyn, ches i ddim y teimlad drwy'r tymor bod nhw mewn perygl go iawn o fynd lawr.
"Mi ddaru nhw 'neud digon ar yr adeg iawn yn y tymor, ac wedyn mi ddaru pethau redeg allan o stêm braidd.
"Ond dwi'n hyderus fod gan y cadeirydd Huw Jenkins gynllun.
"Ar y lefel yna mae'n rhaid i ti gael cysylltiadau efo clybiau eraill – clybiau o'r adrannau uwch – er mwyn denu chwaraewyr ifanc da sy'n awyddus i brofi pwynt a dangos bod nhw'n gallu datblygu gyrfa lwyddiannus i'w hunain.
"Mi 'naeth Jenkins hyn yn arbennig o dda yn ystod ei gyfnod efo Abertawe – cyfnod mwyaf llwyddiannus y clwb."
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2024
OTJ: "Mae David Hughes wedi cael ei enwi fel y ffefryn i gael y swydd rheolwr.
"Does ganddo fo ddim profiad o reoli clwb, felly mae hynny'n destun rhywfaint o bryder.
"Ond mae ganddo lwyth o gysylltiadau, ar ôl gweithio yn academi Manchester United lle mae o rŵan, ac Aston Villa, Southampton a Chaerdydd cyn hynny.
"Mae Casnewydd angen arweiniad ac angen sefydlogrwydd.
"Mi 'naeth Huw Jenkins ddweud bod angen amser i greu strwythur newydd, felly mae'n rhaid bod yn amyneddgar.
"Mae o wedi profi fod o'n gwybod sut i redeg clwb felly mae'n rhaid i gefnogwyr Casnewydd ymddiried ynddo fo, a gobeithio fydd 'na reolwr newydd mewn lle cyn hir er mwyn mynd ati i gryfhau'r garfan."
Mwy gan Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ar bodlediad pêl-droed BBC Cymru Y Coridor Ansicrwydd.