Tai Chi i bobl hŷn yn 'ffordd ddiogel o osgoi cwympo ac anafu'

Grwp o bobl hŷn yn cymryd rhan mewn sesiwn Tai Chi.
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwella balans yn un o nodweddion y sesiynau Tai Chi

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch gan elusen Age Cymru yn ceisio cadw pobl hŷn yn heini a cheisio sicrhau nad ydyn nhw'n cwympo.

"Pan fydd person hŷn yn cwympo, fe allan nhw gael anaf ac ma' hynny yn gallu arwain at gyfnod yn yr ysbyty," eglura Angharad Phillips, Swyddog mentrau iechyd yr elusen.

Mae hi'n dweud fod cwympo yn bryder mawr i bobl hŷn ac y gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.

Y gobaith yw y bydd ymgyrch Age Cymru yn arbed miliynau o bunnau bob blwyddyn i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Diana Bianchi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Diana Bianchi yn arwain un o'r dosbarthiadau Tai Chi yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd

Mae ymchwil yn awgrymu fod mynychu dosbarth Tai Chi Quigon o leiaf unwaith yr wythnos yn golygu eich bod chi 43% yn llai tebygol o gwympo.

Mae elusen Age Cymru yn ceisio helpu pobl hŷn i wella eu ffitrwydd, balans a chryfder drwy gynnal cyfres o ddosbarthiadau, sy'n cynnwys gweithgareddau fel cerdded Nordig a Tai Chi Quigon.

Gwirfoddolwyr fel Diana Bianchi sy'n arwain y dosbarthiadau.

Mae hi'n cynnal dosbarth yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd ac yn dweud mai "un o'r elfennau pwysig yw bod pobl yn gallu dod i'r clwb Tai Chi a chwrdd â'i gilydd a chymdeithasu a gneud yr ymarferion".

"Mae pob un yn gallu gwneud y gweithgareddau."

Angharad Phillips o Age Cymru ar ochr dde'r sgrin yn edrych ar y camera gyda'r sesiwn Tai Chi yn cael ei gynnal tu ol iddi.
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Angharad Phillips o Age Cymru bod gweithgareddau cadw'n heini yn bwysig i helpu'r corff a'r meddwl

Y llynedd, cafodd 37,559 o weithgareddau ymarfer corff eu trefnu gan Age Cymru ar gyfer pobl hŷn.

Dywed Angharad Phillips bod gweithgareddau cadw'n heini yn bwysig i helpu'r corff a'r meddwl, wrth i nifer o bobl hŷn golli hyder ar ôl cwympo, sy'n gallu arwain at broblemau.

"Ry'n ni'n gweld fod pobl ar ol cwympo yn gallu mynd yn nerfus iawn ac yn osgoi symud," meddai.

"Mae hyn yn creu problemau mawr gan ei fod yn gallu arwain at y cyhyrau yn gwastraffu."

Ychwanegodd fod "symud yn rheolaidd a mwy aml a symud ychydig yn llawer gwell nag aros yn llonydd."

Lleihau pwysau ar y system iechyd a gofal

Dywed Age Cymru y gall gwasanaethau a dosbarthiadau sy'n helpu atal pobl rhag cwympo leihau peth o'r pwysau ar y system iechyd a gofal, yn enwedig wrth iddyn nhw wynebu cyfnod heriol a phrysur adeg y gaeaf.  

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi gweithgareddau cymunedol fel dosbarthiadau Tai Chi Qigong.

"Mae rhwbeth fel Tai Chi yn arbennig o dda," yn ôl Angharad Phillps.

"Mae'n helpu gyda pethe fel balans a phwysau gwaed, ac yn helpu pobl i sefyll yn fwy cryf a chadarn a symud mewn ffordd ddiogel i osgoi cwympiadau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "ystyried rhagor o opsiynau" ac y byddan nhw'n "cadarnhau rhagor o fanylion yn y dyfodol".

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd Rhaglen Heneiddio'n Iach yn cael ei hariannu tan fis Mawrth 2025.

Aelodau grwp Tai Chi, Eglwys Newydd yn eistedd ar gadeidiau.
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y sesiynau Tai Chi yw helpu gyda balans a gwella cylchrediad y gwaed

Mae sesiynau Tai Chi yn canolbwyntio ar bob rhan o'r corff, ac fe all gael ei addasu ar gyfer anghenion a gallu gwahanol bobl.

Mae modd hefyd eistedd i wneud yr ymarferion.

Yn ogystal â gwella balans a symud, mae hefyd yn gwella cylchrediad gwaed ac yn lleihau pwysedd gwaed.

Mae'r pwyslais ar anadlu hefyd yn gallu helpu gyda phroblemau'r ysgyfaint.

Esboniodd Diana Bianchi fod "symudiadau Tai chi yn cael effaith ar y corff yn gyfan, yn cynnwys y galon a'r stumog, y cyhyrau a'r meddwl".

"Mae e i gyd yn neud i berson deimlo yn llawer gwell ymhob ffordd ar ôl y sesiwn."

Terry Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Terry Williams yn dweud ei bod hi'n gallu sefyll ar un goes ers dechrau'r ymarferion

Mae Terry Williams yn un o aelodau y grŵp yn yr Eglwys Newydd ac yn "edrych mla'n i hwn bob wythnos".

"Dwi'n gwybod ei fod e wedi helpu fi gyda balans, achos cyn dechre fan hyn roedd rhaid i fi eistedd ar y gwely i roi sanau mla'n... nawr rwy'n gallu sefyll ar un goes a gneud hynna."

Ers dod i'r dosbarth mae hi'n dweud ei bod yn fwy ymwybodol o beryglon cwympo.

Dywedodd: "Ma cwpwl o ffrindiau gyda fi sydd wedi cwympo a chael anafiadau cas fel torri asennau, neu ma' nhw wedi ffindo mas bod osteoporosis gyda nhw, felly fi yn ymwybodol iawn o hyn. 

"Ond nes i ddim sylweddoli bod Tai Chi gallu helpu gyda phethe fel'na.

"Ma' fe yn wych, achos ry' chi yn symud cyment o wahanol rhannau o'ch corff."

Pynciau cysylltiedig