Ateb y Galw: Gwenllian Ellis

  • Cyhoeddwyd
Gwenllian EllisFfynhonnell y llun, Gwenllian Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian Ellis

Gwenllian Ellis oedd enillydd categori Barn y Bobl yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni am ei chyfrol Sgen I'm Syniad - Snogs, Secs, Sens.

Yr awdures sy'n wreiddiol o Bwllheli ond sydd bellach yn byw yn Llundain sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

'Sion Corn' aka Mam ac Yncl Alan yn cerddad fyny grisiau wedi meddwi a deffro fi! Shocking!!! Diolch byth es i'n syth nôl i gysgu a ddim meddwl gormod am y peth.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Yr ardd yng Ngwynfryn, ble ces i fy magu. Mae gen i gymaint o atgofion melys yn yr ardd 'na.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae 'na lawer un - nosweithiau yng ngŵyl Green Man o dan y sêr, nosweithiau yn bloeddio canu yn 'Steddfod, Sesiwn Fawr, gigiau amryw, priodasau, lansiadau Sgen i'm Syniad ym Mhwllheli a Chaerdydd, dinyr partis sy'n troi'n ddawnsio ar ben byrddau, barbeciws yn yr ardd, partis penblwydd a phrynhawniau diog sy'n troi yn nosweithiau gwallgo - ac mae nhw wastad wedi eu treulio yng nghwmni teulu a ffrindiau yn malu awyr am yr un pethau 'dan ni'n falu awyr amdanyn nhw ers blynyddoedd!

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Amser da gyda ffrindiau

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Ffyddlon, Mewnol, Hwyliog.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Mae gen i gymaint o straeon am Nain sy'n gwneud i mi chwerthin o hyd - 'da ni wastad yn dweud y byswn i'n medru ysgrifennu llyfr am ei straeon hithau!

Un tro ddaru ni gyd sylwi ar yr ogla putrid yn ei char hi, ag oedd o jesd yn gwaethygu wrth i amser fynd yn ei flaen, neb yn dalld be uffar oedd yr ogla'... turns out mi oedd hi wedi colli blydi fillet steak amrwd o dan y carped!

Oeddan ni'n rhoi lifft i'n cymdogion i'r ysgol yn y car a ddaru nhw ddechra cerddad i sbario gorfod eistedd yn y fath ogla. Lot o'r straeon yn involvio'r car - Toyota Yaris, turquoise. Dyna'r tip of the iceberg, mi oedd hi'n chwip o ddynes.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian gyda Gwobr Barn y Bobl. Ai llyfr am straeon ei Nain fydd nesaf ganddi?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n codi cywilydd ar fy hun mor aml mae hi'n anodd dewis. Dwi dal i grinjio wrth feddwl am y tro nes i rechan yn ddamweiniol mewn arholiad mathemateg ym mlwyddyn pump a Mr Jones yn dweud 'bydd rhaid i ni sortio'r llygod 'na yn y to.'

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian gyda'i ffrindiau

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n crio bob diwrnod am bob math o bethau - y newyddion, rhaglenni teledu, ffilmiau, llyfrau neu pan dwi'n gweld pethau trist neu hapus. Y Pisces yndda'i am wn i, dwi'n sensitif!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gor-feddwl bob dim a byw yn fy mhen rhan fwyaf o'r amser.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian a'i ffrind Gwenno ynghanol dathliadau 30

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Mae pob un yn newid yn gymharol aml gen i, ond yr eiliad hon: Romantic Comedy gan Curtis Sittenfeld. Mae o'n lyfr ffraeth, dychanol, rhamantus, gafaelgar ac mae'r ddeialog yn arbennig ynddo.

Mae'r cymeriadau mor ffaeledig a byw, mi o'n i'n feddw ar y teimlad penysgafn 'na o ddisgyn mewn cariad ar ddiwedd y llyfr ac eisiau dweud wrth pawb i'w ddarllen!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Alison Hammond 'chos dwi'n meddwl ei bod hi'n iconic - mae hi'r balans perffaith o fod yn hileriys ond yn ofnadwy o feddylgar a sensitif ar yr un pryd.

Dwi'n meddwl y bysa hi'n medru rhoi pep talk go dda i mi a fysan ni'n cael noson wych. Mae hi yr ultimate hun.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n datgelu lot fawr am fy hun yn Sgen I'm Syniad, felly dwi am fod yn shameless a dweud wrth bawb i fynd i'w ddarllen a chadw mymryn bach o fy mywyd i'n gyfrinachol!

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian gyda'i chyfrol Sgen i'm Syniad

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Fyswn i'n dechrau'r diwrnod hefo screening o Twilight, coffi cryf a chocolate twist o Marks and Spencers. Wedyn fyswn i'n treulio'r prynhawn yn coginio hefo glasiad o win yn fy llaw er mwyn cael gwledd enfawr efo'n nheulu a'm ffrindiau yn yr ardd yng Ngwynfryn, fysa'n sicr yn troi mewn i uffar o barti mawr hefo pawb yn dawnsio a chanu ar ben byrddau.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Gwledda gyda'i ffrindiau yn Llundain lle mae Gwenllian yn byw

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Ddaru'n chwaer i redeg marathon Llundain fis Ebrill, a dyma lun ohonom ar ôl iddi orffen. Mi o'n i mor prowd ohoni 'sa nghalon i 'di medru byrstio.

Roedd o'n ddiwrnod anhygoel a'r atmosffer yn drydanol, roedd o wir yn teimlo fel fod Lludain yn anghofio pa mor oeraidd ac amhersonol mae o'n medru bod gan fod pawb mor gefnogol o'i gilydd. Diwrnod gwych.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian a'i chwaer Elin wedi iddi gwblhau Marathon Llundain

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Taylor Swift - fyswn i'n licio cael insight i mewn i'w psyche - mashwr fod ei brên hi'n mynd can milltir yr awr a dwi jesd yn meddwl ei bod hi'n genius.

Ella fyswn i'n trio ail-weirio ei brên hi fel ei bod hi'n cadw'n glir o Matty Healy hefyd... fedra i ddim byw mewn byd lle ma Denise Welch yn fam-yng-nghyfraith i Taylor Swift, sori!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig