Lluniau'r wythnos o'r Eisteddfod

- Cyhoeddwyd
Wedi wythnos i'w chofio ym Mhontypridd, dyma rai o'n hoff luniau o'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod roedd y teulu yma o Abertawe wedi teithio i wylio'r bandiau pres yn cystadlu

Ruby, Alys a Teddie yn crwydro’r maes dydd Sadwrn, a'r tri wrth eu bodd bod yr Eisteddfod wedi dod i'w hardal nhw.

Criw o blant yn gwylio perfformiad gan aelodau o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Caerdydd


Yws Gwynedd oedd yn cloi Llwyfan y Maes ar nos Sul yr Eisteddfod

Fore Llun yn y Pafiliwn, bu Mererid Hopwood yn arwain ei phrif seremoni gyntaf fel Archdderwydd yr Orsedd


Eiliad hyfryd yn y Pafiliwn wrth i Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni gofleidio ei mab Gwynfor Dafydd wedi iddo ennill y Goron brynhawn Llun
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024

Roedd angen cysgod y coed ym Mharc Ynysangharad ddydd Mawrth, yn enwedig mewn gwisg draddodiadol


Daeth glaw ddydd Mercher, ond roedd Y Lle Celf yn cynnig lloches delfrydol

Catrin Finch ac Aoife Ní Bhriain yn perfformio yn y Tŷ Gwerin ddydd Mercher

Er gwaethaf y glaw fore Iau, roedd ambell un wedi mentro i'r Lido ar faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad

Eluned Morgan, Prif Weinidog newydd Cymru, ar y Maes ddydd Iau

Carwyn Eckley oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair eleni
- Cyhoeddwyd9 Awst 2024

Steffan Donnelly, Siân Phillips a Michael Sheen gefn llwyfan y Babell Lên ddydd Sadwrn

Bethan Clwyd sydd wedi bod yn tywys ymwelwyr yn ei bygi trwy’r wythnos