'Mae'n annheg' - pryder cyn i filiau ynni godi eto
- Cyhoeddwyd
Mae pryder yn sgil y disgwyl y bydd biliau ynni’n codi ar gyfer tri mis olaf y flwyddyn.
Yn fuan bydd y corff sy'n goruchwylio’r diwydiant, Ofgem, yn cyhoeddi'r uchafswm y gall cyflenwyr godi am bob uned o nwy a thrydan.
Law yn llaw â hyn mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei dorri o fis Hydref, a dim ond pensiynwyr sy’n hawlio budd-daliadau penodol fydd â’r hawl i’w dderbyn.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i gefnogi pensiynwyr a’i bod yn briodol bod y Taliad Tanwydd Gaeaf yn targedu’r rhai sydd ei angen fwyaf.
'Wedi dod i ddibynnu ar y taliad'
Mae criw yn cwrdd yn gyson am baned a sgwrs yn Efailisaf yn Rhondda Cynon Taf ac yn eu plith, Andrew Davies, sydd newydd ymddeol o’r gwasanaeth prawf.
Mae Andrew, 60, wrthi’n dysgu Cymraeg ac mae’n teithio o Bont-y-pŵl er mwyn gweld ffrindiau ac ymarfer ei iaith.
Mae’n poeni am sefyllfa ei fam, sy’n 82.
Dywedodd Andrew ei bod hi’n colli’r Taliad Tanwydd Gaeaf ac ychwanegodd ei bod yn “ergyd drom” iddi.
Mae colli’r taliad - gwerth rhwng £100 a £300 - yn ogystal â’r cynnydd disgwyliedig mewn biliau, yn achosi pryder.
“Beth sy’n becso fi yw’r bobl sydd wedi dod i ddibynnu ar y taliad yna, os ydyn nhw wedi cyfrif e mewn i’w cronfa arian a nawr mae’n cael ei dynnu i ffwrdd," meddai.
“Dwi newydd ymddeol, ry'n ni wedi gweithio mas faint o arian sy' gyda ni i dalu am ein biliau.
"Bydd cynnydd yn y prisiau a bydd rhaid i ni eistedd lawr a 'neud ein syms ni unwaith 'to.
"Pan mae unrhywbeth yn mynd lan 9%, mae’n mynd i gael effaith a bydd rhaid i ni dorri lawr ar bethau eraill," ychwanegodd.
"Ma' tipyn o arian gyda ni wrth gefn achos bo' ni wedi bod yn cynilo tra bo' ni’n gweithio, ond bydd yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn a 'neud yn siŵr bo' fi’n troi pethe off a gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw o fewn ein harian ni."
Nid yw’r cyn-brifathro Geraint Rees, 61 o Efailisaf, yn synnu bod cynnydd mewn prisiau ar y gorwel.
“Yn y wlad hon, rhai o’r bobl gyfoethoca' yn y wlad, maen nhw’n bensiynwyr, rhai o’r bobl dlotaf yn y wlad, maen nhw’n bensiynwyr ac mae yna berygl ar hyn o bryd ein bo' ni’n siarad am bensiynwyr fel grŵp mawr tlawd, pan dyw hynny’n syml ddim yn wir.
"Mae ‘na filiynau mewn tlodi ond mae 'na filiynau mewn cyfoeth."
'Annhegwch'
Ychwanegodd: “Rwy’n freintiedig, dwi wedi gweithio ar hyd fy mywyd a bydd 'na bensiwn fydd yn ein diogelu ni yn sylweddol dda a dwi ddim yn teimlo y dylen ni fod yn derbyn nawdd ychwanegol.
"Mae gyda ni aelodau o’r teulu sydd yn wirioneddol dlawd a dwi ishe i nawdd fynd iddyn nhw a’u cefnogi nhw.
“Ni hefyd wedi preifateiddio’r diwydiant ynni ers dyddiau Margaret Thatcher ac mae cyfranddalwyr ishe arian – dyw hwnna ddim yn deg.
"Yr hyn sy’n digwydd yw mae’r arian yn shiffto o stafell ffrynt pobl i gyfrif banc bobl sydd biau’r cwmnïau a’r cyfranddaliadau – dyna’r annhegwch."
Mae Sandra Edwards, 77, yn dweud y bydd hi'n cadw llygad barcud ar y defnydd o ynni yn ei chartref, a bod y cynnydd disgwyliedig yn mynd i gael effaith ar nifer fawr o bobl.
“Dwi’n meddwl y byddwn ni’n monitro ein defnydd, a’n biliau a faint byddwn ni’n defnyddio’r gwres canolog,” meddai.
“Ond mae’n annheg os ydych chi’n oer, nad oes modd rhoi’r gwres ymlaen heb feddwl am y peth.”
Mae uchafswm yn cael ei osod gan Ofgem, sef y pris uchaf gall eich cwmni ynni ofyn i chi dalu ar gyfer pob uned o nwy a thrydan.
Mae’r uchafswm yn newid bob tri mis, ym mis Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref.
Hefyd yn rhan o’r criw yn Efailisaf mae’r cyn-weinidog Eirian Rees, 86.
Mae’n dweud bod y cynnydd mewn biliau yn adlewyrchu’r ffaith bod y byd yn “wynebu problem egni”.
“Yn anffodus da ni’n byw mewn byd lle mae’n rhaid gorffen rhai mathau o egni ac mae’n mynd i fod yn ddrud,” meddai.
“Mae colli’r taliad yn mynd i fod yn golled enfawr i bobl sydd â phensiwn syml a dim arian ychwanegol yn dod mewn, mae’n broblem ofnadwy ond dyw e’n ddim byd i gymharu â beth ma' pobl yn Affrica’n gorfod wynebu gyda sychder ac yn y blaen."
Yn ôl Cyngor ar Bopeth Cymru mae biliau ynni cyfartalog yn dal i fod £400 yn uwch na thair blynedd yn ôl ac mae ymchwil newydd gan yr elusen yn dangos bod 41% o gartrefi yng Nghymru yn poeni am ddelio â’u costau ynni yn y misoedd nesaf.
“Pan ry'n ni’n edrych ar y ffigurau gyda’r posibiliad o gynnydd yn y cap ynni rhyw 9%, mae’r ffigwr yn codi o 41% i 59%, sy’n ffigwr eitha' syfrdanol,” meddai Anwen Jones, swyddog materion cyhoeddus gyda Chyngor ar Bopeth.
“Welon ni bod dros chwarter o gartrefi ar hyd Cymru yn methu hyd yn oed cadw eu cartrefi’n gynnes, ac ymhlith y rhai gafodd eu taro waetha' oedd rhentwyr, aelwydydd â phlant, pobl ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor a’r henoed."
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023
- Cyhoeddwyd21 Mai
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i wella’r sefyllfa economaidd.
“O dan yr amgylchiadau hyn mae’n iawn fod Taliad Tanwydd Gaeaf yn targedu’r rhai sydd â’r angen mwyaf, a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i hybu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn, gan gyrraedd y nifer fwyaf o bensiynwyr fyddai’n gallu elwa o’r Taliadau Tanwydd Gaeaf eleni.”