Ffermwr £71,000 ar ei golled wedi i Hufenfa Mona fynd i'r wal

Peter Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Peter Lewis mae arno Hufenfa Mona dros £100,000 i rai ffermwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr o Bowys yn dweud ei fod degau o filoedd o bunnau ar ei golled ar ôl i hufenfa adnabyddus ym Môn fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Yn ôl Peter Lewis o Lanfyllin, dyw ei fusnes teuluol heb gael ei dalu am gwerth £71,000 o gynnyrch, a nid yw'n disgwyl cael ei dalu'n llawn bellach.

Yr wythnos hon fe gadarnhaodd Hufenfa Mona fod gweinyddwyr eu penodi, a'u bod yn ystyried sawl opsiwn ar gyfer dyfodol y busnes.

Yn ôl un o gyd-sylfaenwyr y cwmni, mae hi'n annhebygol iawn y bydd ffermwyr yn cael eu talu'n llawn am eu cynnyrch.

Fe agorodd y ffatri gaws gwerth £20m - sy'n cynhyrchu amrywiaeth o gawsiau Cymreig a chyfandirol - yn 2022.

Fis Mai, fe wnaeth Hufenfa Mona gyhoeddi eu bod yn wynebu trafferthion ariannol ac nad oedd modd i'r cwmni barhau i weithredu yn ei ffurf bresennol.

Roedd 51 o bobl yn gweithio ar y safle ym Mharc Diwydiannol Mona ger Gwalchmai, ond mae'r ffigwr hynny bellach wedi gostwng i 24.

Yn ogystal, roedd gan dros 30 o ffermydd Cymreig gytundebau gyda'r hufenfa, ac yn ôl Mr Lewis mae arno'r cwmni dros £100,000 i rai o'r ffermwyr hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ffermwyr eraill sydd mewn sefyllfa debyg, yn ôl Peter Lewis

Dywedodd Mr Lewis: "Mae £71,000 yn ddyledus i ni - mae'n rhaid talu biliau, mae cyflenwyr porthiant eisiau cael eu talu, ac i feddwl ein bod ni'n gorfod tynnu gymaint o hynny o arian o'ch incwm.

"Mae'n anodd dod o hyd i'r arian i dalu biliau.

"Mae pawb yn gwybod, pan mae'r gweinyddwyr yn dod mewn, mi fyddan nhw'n talu'r credydwyr, ond does dim byd yn bendant i ni.

"Dwi'm yn credu fyddwn ni'n derbyn yr arian i gyd ac rydw i wir yn poeni.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cryn dipyn o arian tuag at hyn hefyd, a fyddan nhw mewn sefyllfa debyg gan mai arian trethdalwyr sydd wedi ei ddefnyddio."

Ychwanegodd Mr Lewis fod ffermwyr eraill mewn sefyllfa debyg, a bod rhai "symiau chwe ffigwr" yn ddyledus i rai.

£1.6m yn ddyledus i ffermwyr

Dywedodd Ronald Akkerman, prif weithredwr ac un o gyd-sylfaenwyr yr hufenfa, fod cyfanswm o £1.6m yn ddyledus i ffermwyr.

"Mae'r sylfaenwyr yn gweithio gyda'r unigolion perthnasol i baratoi cynllun achub," meddai.

"Y cynharaf y bydd modd i ni ddod i gytundeb, y cynharaf gallwn ni roi eglurder i'n ffermwyr.

"Y nod yw dod i hyd i ddatrysiad fydd yn cynnwys cynnig ariannol i'r ffermwyr, ond mae hynny'n rhywbeth sydd i'w gadarnhau.

"Mae gan y gweinyddwyr dau gredydwr mawr, felly mae'r tebygrwydd y bydd arian yn cael ei dalu i gredydwyr sydd heb eu cadarnhau yn fach iawn.

"Bydd y gweinyddwyr yn cysylltu â'r ffermwyr yr wythnos hon. Mae tua £1.6m yn ddyledus i'r ffermwyr am tua thair wythnos o gyflenwad llaeth."

Ychwanegodd Mr Akkerman eu bod yn benderfynol o wneud popeth yn eu gallu i ddod â'r cwmni allan o ddwylo'r gweinyddwyr a'i wneud yn weithredol unwaith eto.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Davies fod cyhoeddiad Hufenfa Mona yn syndod iddo

Yn ôl Richard Davies, sy'n arbenigwr ar y diwydiant llaeth, mae'r cyhoeddiad fod y cwmni yn mynd i'r wal yn "ergyd enfawr" i Ynys Môn.

Ychwanegodd fod y sector cynhyrchu caws yn wynebu heriau ar draws y byd.

"Yn rhyngwladol, does 'na ddim llawer o gwmnïau mawr yn buddsoddi yn y diwydiant, yn syml, gan nad ydynt yn debygol o gael eu harian yn ôl.

"Y rhai sy'n buddsoddi yw'r cwmnïau bach teuluol a'r cwmnïau cydweithredol.

"Mae'r heriau yn y diwydiant yn enfawr - does dim llawer o elw yno, felly mae'n rhaid i chi fod yn weithredwyr da iawn iawn i allu cystadlu yn y byd yna."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y prif weithredwr yw y bydd modd cael Hufenfa Mona allan o ddwylo'r gweinyddwyr a'i wneud yn weithredol unwaith eto

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod trafferthion Hufenfa Mona yn "newyddion trist i Ynys Môn a’r diwydiant amaethyddol".

“Mae ffermwyr llaeth ledled Cymru yn wynebu cyfnod digynsail o ansicrwydd, wedi delio ag anawsterau gaeaf hir a gwlyb ochr yn ochr â’r helbul parhaus sy'n eu hwynebu o ganlyniad i newidiadau cymorthdaliadau amaethyddol a biwrocratiaeth tap coch.

“Gobeithiwn, o ganlyniad i lif gwan y gwanwyn a marchnad laeth sy’n gwella, y bydd proseswyr llaeth eraill mewn sefyllfa ffafriol i gefnogi’r cynhyrchwyr llaeth sy’n cyflenwi Hufenfa Mona ar hyn o bryd."

'Newyddion pryderus'

Fe wnaeth Hufenfa Mona dderbyn grant gwerth £3m gan Lywodraeth Cymru, ac mae proses adennill arian grant bellach ar waith yn ôl y llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn amlwg yn newyddion pryderus i weithwyr a chyflenwyr Hufenfa Mona, eu teuluoedd a'r gymuned leol.

"Rydym mewn cysylltiad â'r cwmni i weld sut y gallwn eu cefnogi nhw a'u gweithlu drwy'r broses hon.

"Rydym hefyd wedi cwrdd â'r undebau ffermio yn dilyn y cyhoeddiad hwn i drafod pryderon eu haelodau.

"Mae lles ffermwyr yn flaenoriaeth ac mae undebau ffermio yn gweithio gyda'u haelodau i sicrhau bod ffermwyr yn cael y cymorth angenrheidiol ar hyn o bryd."

Pynciau cysylltiedig