Awdur newydd eisiau mwy o nofelau ffantasi yn Gymraeg
- Cyhoeddwyd
O nofelau T. Llew Jones i chwedlau’r Mabinogi a drama drosedd Breaking Bad, dyma rai o’r pethau sydd wedi ysbrydoli Aled Emyr i ysgrifennu ei nofel gyntaf, Trigo.
Daeth y syniad am ysgrifennu nofel ffantasi yn y Gymraeg i’r awdur o’r Felinheli ar ôl dychwelyd o Ffrainc lle bu’n cefnogi tîm pêl-droed Cymru yng ngemau’r Euro yn 2016.
Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae Aled sy’n gweithio fel goruchwyliwr sgript i’r gyfres deledu Rownd a Rownd wedi bodio tudalennau ei nofel am y tro cyntaf.
Ei obaith yw y bydd darllenwyr “yn joio’r antur a’r stori ac y bydd pobl sydd ddim yn darllan yn aml yn ei godi ac yn cael eu hysbrydoli.”
‘Gweld bwlch mewn nofelau ffantasi Cymraeg’
Yn Trigo mae Aled wedi creu ei fyd dychmygol ei hun sydd wedi ei rannu’n dair adran, ‘Gadael Afarus’, ‘Brwydr y Pedair Ynys’ a ‘Dianc o’r Tywyllwch’. Bydd darllenwyr yn dilyn hanes trigolion y Pedair Ynys a’r rhwystrau a’r tensiynau a ddaw i’w rhan.
Ger y Pedair Ynys, mae ynys fach o’r enw Ynys Trigo lle mae’r dewin Calrach wedi ei gloi yn Ogof y Tywyllwch ac yn ceisio darganfod ffordd o ddianc.
Beth ysgogodd Aled i ysgrifennu nofel mor ddychmygus?
“Pan ges i’r syniad ’nes i deimlo bod ’na fwlch o ran nofelau ffantasti Cymraeg. Ers i fi ddechra’ ’sgwennu, mae ’na fwy o rai 'di bod, er enghraifft, cyfres Y Melanai gan Bethan Gwanas.
“O’n i wedi darllan nofelau ffantasi fel Igam Ogam gan Ifan Morgan Jones ond o’n i yn teimlo bod yna dal fwlch.
“Dwi’n meddwl bo’ ni’n lwcus yn y Gymraeg, mae’r chwedla’ sy’ gynnon ni’n agor drysau i bobl eraill fel fi i greu eu bydoedd eu hunain. A fel nath Tolkien hefyd.”
Yn ôl Aled, roedd creu byd newydd yn ddyhead iddo fyth ers darllen pethau fel The Hobbit flynyddoedd yn ôl.
“O’n i wastad yn licio’r mapiau oedd tu mewn iddyn nhw. Dwi’n lwcus iawn bod fy mrawd yn creu mapia’ a fod o ’di creu map a choeden deulu sydd yn nechrau’r nofel.
"O’n i yn darllan dipyn o’r Mabinogi pan ddoth y syniad felly mae yna enwau fel Gwydion a Gwern yn y nofel er eu bod nhw'n gymeriadau ynddyn nhw eu hunain a dwi wedi creu enwau fy hun fel Calrach (y dewin).”
Mae Trigo’n gyfle i’r darllenwr ddianc i fyd arall ond mae llawer o ddigwyddiadau gwleidyddol a chymdeithasol y blynyddoedd diwethaf wedi dylanwadu ar y themâu sy’n pwytho’r nofel, fel yr eglura Aled:
“Ges i lot o ysbrydoliaeth o be’ oedd yn digwydd pan o’n i’n ’sgwennu fo. Mae’r themâu wedi dod o amsar rŵan.
“Yn 2016, roedd hi'n flwyddyn pleidlais Brexit a dyna lle ddoth y syniad am y bedair ynys a bod nhw ddim yn cydweithio efo’i gilydd. Mae pobl isio ffoi o un ynys i ynys well yn thema hefyd; mae gwylio ffoaduriaid yn croesi’r moroedd ar gychod bach wedi bod yn ddarlun gyffredin dros y blynyddoedd diwethaf.
“Felly mae o’n nofel ffantasi ond am bŵer ac unigrwydd ’fyd a dydi lot o’r cymeriadau ddim yn gwbod lle maen nhw’n ffitio yn y byd.”
Ysgrifennu nofel am y tro cyntaf
Penderfynu dilyn gradd mewn cerddoriaeth yn Llundain wnaeth Aled cyn dychwelyd yn ôl i’r Felinheli. Ond roedd yr ysfa i ysgrifennu ynddo fyth ers bod yn ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen.
“Tro cynta’ dwi’n cofio bod isio ’sgwennu ydy yn blwyddyn wyth. Yn y wers Gymraeg oeddan ni’n gorfod sgwennu rhyw fath o nofel fer iawn a wnes i ’sgwennu rwbath tebyg o ran stori i Un Noson Dywyll gan T. Llew Jones. Dwi’n cofio joio ’neud hynna.”
Er na wnaeth Aled “feddwl llawer” am y syniadau oedd yn chwyrlio’n ei feddwl pan oedd yn y brifysgol, mae wedi sicrhau ei fod yn rhoi amser iddo ei hun i ysgrifennu dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, er mwyn gwireddu breuddwyd y bachgen ifanc 13 mlwydd oedd oed oedd yn dotio ar The Hobbit ac Un Noson Dywyll.
“Ar ôl dod ’nôl o’r Euros yn 2016 o’n i'n gweithio fel cymhorthydd yn Ysgol Felineli a Tryfan. Ro’n i’n gorffan am 15.30 ac ar ôl gorffan o’n i’n mynd yn syth i ’sgwennu.
“Wedyn yn ystod Covid ges i fwy o amser i ’sgwennu a wnes i orffan.”
Beth fyddai cyngor Aled i unrhyw un sydd eisiau troi syniad yn nofel gyhoeddedig?
“Wnes i yrru drafft o’r prolog cyn datblygu’r syniad i gystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd. Roedd yr adborth ges i’n werthfawr iawn a mi wnaeth o agor lot o ddrysau i fi.
“Mae’n gyfnod anodd iawn i awduron rŵan efo’r toriadau a ballu, yn enwedig i awduron newydd felly dwi ’di bod yn lwcus.
“Y Lolfa wnaeth gyhoeddi’r nofel yn y diwedd, ond fe es i at wasg Y Bwthyn i ddechrau, a buodd Gareth Evans-Jones yn rhyw fath o fentor i fi. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Bwthyn ac i’r Lolfa am eu cefnogaeth.
“Sgwennwch ambell i bennod, ewch dros y syniad gymaint allwch chi a’i yrru i wasg.”
‘’Sgwennu nofel yn haws na ’sgwennu cân’
Pan nad yw Aled yn cefnogi tîm pêl-droed Cymru neu’n ysgrifennu nofel yn ei amser sbâr, mae’n gigio gyda’i fand Achlysurol fel prif leisydd a basydd.
Ymhen rhai wythnosau bydd Aled yn rhyddhau cân o’r enw Llawer o Gariad sy’n ymddangos fel llythyr yn Trigo.
“’Nes i ’sgwennu cân i fynd efo’r nofel. Dwi wedi recordio’r gân adra wedyn mae'n cael ei chymysgu ar hyn o bryd gan Guto Evans yn Gaerdydd. Mae’r bennill gynta’ yn lythyr gan Enid a’r ail yn atab gan Siwan (cymeriadau yn Trigo).
Ond yn ôl Aled mae ysgrifennu geiriau i ganeuon ac ysgrifennu nofel yn broses gwbl wahanol.
“Dwi’n gweld hi’n anoddach sgwennu lyrics weithia' achos mae’n anoddach crynhoi be’ ti isio ’sgwennu neu be' ti isio ei ddeud mewn cân neu gerdd.
“Oedd ’na gyfnoda’ lle o’n i’n mynd yn styc efo'r nofel ond o’n i wastad yn gwbod lle o’n i isio dechra’ a gorffan bob pennod. O’n i yn benderfynol o orffan bob pennod yn gry’ fel mae cyfresi teledu fel Breaking Bad yn llwyddo i’w ’neud."
Magwraeth greadigol
O’r holl nofelau, cyfresi teledu a bandiau sydd yn dylanwadu ar Aled fel awdur, mae dau sy’n ei ddylanwadau’n nes at adref hefyd sef ei rieni, yr awdures Mari Emlyn a’r digrifwr Emyr ‘Himyrs’ Roberts.
“Mae’r ddau wedi bod yn wych. Mae’n siwr bod arddull Mam wedi bod yn ddipyn o help a dylanwad arna i, wedyn yr ochr fwy creadigol a ffantasïol wedi dod gan Dad.
“Mae’n hiwmor i’n fwy sych na gwaith Dad a dydi’n arddull i ddim mor farddonol â Mam. Brawddegau byr a bachog sy’n rhedeg drwy Trigo dwi’n meddwl.”
Oes nofel arall ar y gweill?
“’Sgen i ddim syniad pendant ar hyn o bryd, gobeithio dros yr haf wna i drio meddwl a chynllunio stori bendant arall.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020