Cyhuddo pedwar o gynllwynio lladrad beiciau trydan yn Aberystwyth

Cafodd pedwar o ddynion eu gweld yn llwytho beiciau i fan ar Stad Ddiwydiannol Glan yr Afon ar nos Sadwrn 12 Ebrill
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar dyn wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio lladrad ar ôl i nifer o feiciau trydan gael eu dwyn o stad ddiwydiannol yn Aberystwyth.
Cafodd gwerth dros £150,000 o e-feiciau eu cymryd o adeilad ar Stad Glan yr Afon yn ardal Llanbadarn Fawr tua 21:30 nos Sadwrn, 12 Ebrill.
Mae Gavin Johnson, 39, Keith Johnson, 32, Gareth Corbett, 36, a Wayne Dreisey, 40 - i gyd o ardal Birmingham - wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio lladrad.
Fe wnaeth y pedwar ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar 19 Ebrill ac maen nhw'n cael eu cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 19 Mai.
Cafodd dyn arall 33 oed ei arestio ar amheuaeth o ladrata, ac mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill