Byddai cyrraedd Ewrop yn 'newid ein clwb ni am byth'

Cafodd amddiffynnwr Penybont, Ryan Reynolds (chwith) ei fagu yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Caernarfon yn dweud y byddai cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes yn gallu "newid y clwb am byth".
Daeth sylwadau Richard Davies wrth i Gaernarfon baratoi i wynebu Penybont yn rownd derfynol gemau ailgyfle'r Cymru Premier ddydd Sadwrn.
Bydd yr enillwyr yn hawlio'u lle yn rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa - neu'r Europa Conference League - ac yn derbyn hwb ariannol o bron i £200,000.
Ychwanegodd Davies y byddai derbyn swm o'r fath yn rhoi sylfaen i'r clwb allu barhau i dyfu.
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
- Cyhoeddwyd12 Mai 2024
Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn yr Oval yng Nghaernarfon, ac yn ôl Davies, gall chwarae o flaen y dorf gartref fod yn hwb mawr.
"Ma'n anferthol. Ma' rhywun sy' 'di gwylio'r gêm wythnos diwethaf (yn erbyn Met Caerdydd) 'di gweld faint o wahaniaeth mae'r 'Cofi Army' yn gallu ei wneud, a'r twrw ma' nhw'n gallu 'neud," meddai.
"Ma'n nhw'n rhan anferthol o'r clwb. Clwb nhw ydi o mewn ffordd, a dwi'n siŵr 'nawn nhw chwarae eu rhan eto dydd Sadwrn."

Fe enillodd Caernarfon y rownd derfynol y gemau ailgyfle yn 2022
Mae Penybont eisoes wedi ennill ddwywaith yn erbyn Caernarfon y tymor hwn, ond mae Davies yn mynnu na fydd hynny'n cael effaith ar y rownd derfynol.
"'Da ni'n amlwg wedi sbïo nôl a gwneud bach o analysis, ond ma' 'na lot fwy ar y gêm yma, felly dwi'm yn meddwl fedri di ddarllen gormod fewn iddo fo i fod yn onest."
Mi fydd Richard Davies yn methu priodas deuluol oherwydd y gêm - rhywbeth sy'n brawf o bwysigrwydd yr ornest i'r clwb a'r cefnogwyr.
"Dwi'n meddwl 'sa fo'n newid ein clwb ni am byth, does genna ni neb sy'n gallu rhoi pres mawr i mewn fel rhai clybiau eraill, so 'da ni'n dibynnu ar bres y giât a sponsors bach.
"Fysa cal y swm yma o bres yn rhoi platfform i ni allu tyfu a thyfu. 'Sa fo'n ffantastig rhoi 'wbath nol i'r 'Cofi Army', ma' nhw di bod mor ffyddlon dros y blynyddoedd, sa'n neis rhoi trip bach yn ôl iddyn nhw."

Mae Danny Gosset wedi chwarae yn Ewrop o'r blaen, yn ystod ei gyfnod gyda Bangor
Un sy'n debygol o chwarae rhan yn y gêm yw chwaraewr canol cae Caernarfon, Danny Gosset.
Cafodd Gosset, sy'n dod o'r dref, wybod yn 2019 fod ganddo Non-Hodgkin Lymphoma, sef math o ganser y gwaed.
Wedi brwydr galed, yn gorfforol ac yn feddyliol, cafodd wybod yn Ionawr 2020 y byddai'n cael "gwellhad llwyr" o'r cyflwr, ac mae o bellach yn edrych ymlaen at ddelio â phwysau cwbl wahanol.
"'Dwi methu disgwyl, 'da ni 'di bod yn paratoi yn dda. Dyma 'di'r gemau ti 'sio bod yn rhan ohonyn nhw, dyma ma'r cefnogwyr 'sio hefyd, a 'sa cyrraedd Ewrop yn meddwl y byd i ni gyd.
"Ma' 'di bod yn dymor rili da i ni. O'dd 'na lot yn disgwyl i ni fynd lawr, a rŵan da ni un gêm i ffwrdd o Ewrop.
"'Da ni isio mynd un cam ymhellach wrth gwrs, ond ma' hi di bod yn dymor rili da be bynnag sy'n digwydd."

Fe wnaeth Penybont ennill o 5-0 yn erbyn Y Drenewydd yn y rownd gyn-derfynol
Cafodd amddiffynnwr Penybont, Ryan Reynolds ei fagu yng Nghaernarfon, felly doedd o ddim yn siŵr gyda pha dîm y byddai'r teulu yn ochri.
"Dwi'm yn gwybod i fod yn onest. Yr ateb gora fedra i roi ydi, gobeithio y bydda nhw yna i wylio gêm fach dda rhwng dau dîm da!
"'Da ni ar form reit dda ar y funud, os dwi'n cofio'n iawn 'da ni 'di mynd ryw saith neu wyth gêm heb ildio gôl, felly 'da ni'n mynd fewn i'r gêm ar form reit dda, a dyna 'da ni isio wrth fynd mewn i gêm fel 'ma."
Pe bai Penybont yn ennill y rownd derfynol, nid dyma fyddai'r tro cyntaf iddyn nhw chwarae yn Ewrop.
"O'dd chwarae yn Ewrop yn once in a lifetime experience, o'dd on anhygoel gallu chwarae a gweld pa mor fawr o'dd o i'r gymuned... O'dd chwarae yn Andorra yn brofiad anhygoel.
"Ond mi fydd dydd Sadwrn yn anodd, ma' pob un o' ni 'di bod yn yr Oval digon o weithiau i glywed y math o sŵn sy'n gallu cael ei godi, ond dwi'm yn meddwl fydd neb 'di profi'r fath o sŵn 'da ni'n disgwyl ei glywed yfory."
Bydd y gic gyntaf yn yr Oval am 14:45 dydd Sadwrn.