'Craith colli Dad i Covid byth am wella' i ddynes o Ben Llŷn
- Cyhoeddwyd
"Ma' dal yn anodd meddwl bod o 'di digwydd hyd heddiw."
Mae merch dyn o Ben Llŷn, a fu farw o Covid-19, yn dweud na wnaiff y "graith" o’i golli "byth fendio".
Roedd Linda Jones yn siarad wrth i sesiynau Ymchwiliad Covid y DU yng Nghaerdydd ddod i ben, ar ôl clywed tystiolaeth gan wleidyddion a swyddogion.
Ddydd Mercher fe ymosododd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar Lywodraeth y DU a Boris Johnson, gan ddweud ei fod yn anfodlon trafod gyda'r gwledydd datganoledig.
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2024
Disgrifia Linda ei thad fel dyn ei filltir sgwâr.
Cafodd John Griffiths o Abersoch ei daro’n wael ddiwedd Mawrth 2020, ond heb symptomau covid, cafodd gyffur gwrth-feiotig.
Mae Linda yn cofio “sbïo arno fo drwy’r ffenast, chos do’n i’m yn cael mynd i mewn i’r tŷ 'lly, [a dweud] ‘Gwnewch yn siwr bo chi’n cymeryd 'heina 'wan Dad, fyddwch chi’n well wedyn”, dyna odd 'y ngeiria dwytha fi".
"Do’n i ddim yn gwybod mae 'heini oedd y geiria dwytha 'lly."
Roedd y teulu eisoes wedi profi colled arall ddeufis ynghynt, pan fu farw mab 27 oed Linda Jones mewn damwain car.
Roedd hynny wedi “llorio” ei thad, meddai.
Ar ôl i gyflwr John waethygu, cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Mae ei mam yn ei gofio’n glir yn “codi bawd” wrth fynd i’r ambiwlans, a dweud “fyddai 'nôl cyn te”.
Bu farw ar 9 Ebrill yn 78 oed.
'Pam bod neb 'di ffonio?'
Mae Linda, cyn brifathrawes Ysgol Abersoch, yn cofio’r meddyg yn ffonio ganol bore i ddweud mai oriau’n unig oedd ganddo ar ôl i fyw.
Chlywodd hi ddim gan yr ysbyty weddill y dydd, tan ffonio eto am 19:00 y noson honno.
“Mi aeth y ffôn yn hollol ddistaw… Nathon nhw ofyn, ‘oes na rywun di cysylltu 'fo chi?’. 'Nagoes' medda fi, 'dim ers 11:00 bora ma'.
“A dyma’r doctor neu consultant ar y ffôn yn deud, 'mae arnai ofn ma’ch tad ‘di mynd ers 14:00 pnawn ma'.
"Dwi’n cofio dechra gweiddi, sgrechian, rhegi… 'pam bo chi ddim di ffonio ni?'
“O'dd hi’n dangos pa mor brysur, a pa mor sobor o'dd hi ar y nyrsys 'ma ynde… Does gynnai ond canmoliaeth o’r gofal odd Dad 'di gael.
"Dyna pa mor esgeulus oedd y system de… Odd colli Dad fel o'dd hi’n ddigon o boen heb orfod ffonio rywun fel'na wedyn 'de.”
Mae dilyn yr ymchwiliad Covid yng Nghaerdydd wedi bod yn rhy “boenus” i Linda ond mae’n dweud bod angen dysgu gwersi.
Mae’n dadlau bod y gwahaniaethau rhwng y rheolau yng Nghymru a Lloegr i weld “yn hollol groes i’w gilydd” ac yn “gymysg”.
“O'dd 'na lot o ymwelwyr yn dod i Abersoch a 'heini ddim yn gwisgo mygydau, ddim yn cadw pellter, a fel tasan nhw’n chwerthin ar ben pobl.
"A pan o’n i’n mynd i weld Mam, ista’n yr ardd, on i just yn cynddeiriogi ynde.
"Ond dim bai y bobl o'dd o naci, bai goruwch.”
Mae Glyn Williams, sy’n rhedeg cartref gofal Gwyddfor yng Nghaergybi, yn ddi-flewyn ar dafod pan ddaw at drafod dysgu gwersi – a'r hyn a glywodd yn ystod yr ymchwiliad yng Nghaerdydd.
“O be' dwi wedi ei weld, mae’r gwleidyddion yn osgoi ac yn ceisio cuddio be' wnaethon nhw o’i le.
“Er mwyn dysgu gwersi, mae’n rhaid cyfadde’ch camgymeriadau’n gyntaf. Yna gallwn ni edrych ar sut nad ydyn ni am wneud y camgymeriadau hynny eto.
"Dwi ddim yn meddwl y byddwn ni’n dysgu unrhyw wersi.”
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024
Yn ôl llefarydd Llywodraeth Cymru: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad â phawb gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig.
“Dros y tair wythnos diwethaf, mae gweinidogion a swyddogion wedi bod yn rhoi tystiolaeth fanwl i fodiwl 2b Ymchwiliad Cyhoeddus Covid 19.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad terfynol yr ymchwiliad, ac argymhellion i’r modiwl hwn, fydd yn helpu i sicrhau ein bod ni’n dysgu gwersi ac wedi paratoi’n well pe bai pandemig arall yn digwydd yn y dyfodol.”
Fe dreuliodd Glyn Williams chwarter canrif yn yr Awyrlu Brenhinol, a defnyddio’i brofiad i warchod y cartref drwy osod dwy babell filwrol fel bod staff yn gallu diheintio'n drylwyr cyn mynd i mewn i'r cartref yn 2020.
Dydy Mr Williams ddim yn hyderus y gwnaiff yr awdurdodau ymateb i'r ymchwiliad, a pharatoi ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol.
“Dwi’n credu bod pob darparwr gofal cymdeithasol yn gwybod ei fod am ddigwydd eto, ond ry’n ni’n gweddïo nad yw’n digwydd yn ein hoes ni.
“Dwi ddim yn gweld y llywodraethau’n rhoi’r buddsoddiad yna i mewn yn barod ar gyfer y pandemig nesaf – Duw a’n gwaredo os y daw.”
Ddydd Llun dywedodd y cyn-weinidog iechyd, Vaughan Gething, wrth Ymchwiliad Covid y DU ei bod hi’n bosibl y byddai dechrau'r cyfnod clo ychydig ddyddiau ynghynt yn 2020 wedi achub mwy o fywydau.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddydd Mercher nad oedd popeth a wnaeth yn gywir, ond ei fod wedi ceisio esbonio pam y daeth i'r casgliadau yna ar y pryd.
Yn ôl Dr Dai Samuel, hepatolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae'r dystiolaeth yn hynod o bwysig.
“Mae e'n dangos pa mor galed oedd ceisio cynllunio am bandemig pan o'dd neb sy’n byw nawr 'di mynd trwy un o’r blaen.
"Fi’n credu dysgu am y dyfodol yw’r peth fan hyn, a nid beio pobl o'dd 'di neud penderfyniad caled dros ben ar yr eiliad neu’r funud o'dd angen cael ei neud.”
Awgrymodd bod angen ystyried hyfforddiant meddygon fel un wers i'r dyfodol.
“De ni byth 'di cael hyfforddiant ar gyfer delio 'da pandemig yn y brifysgol neu fel doctoriaid, felly llawer mwy o hyfforddiant i baratoi am y fath o beth o'dd rhaid i ni neud, achos dyna beth sy’n mynd i ddysgu a gwella ni.”