40 o sefydliadau celfyddydol i gael cyllid o raglen gwerth £8 miliwn

40 o sefydliadau celfyddydol yng Nghymru i gael cyllid i gynnal prosiectau cyfalaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhestr o sefydliadau celfyddydol yng Nghymru fydd yn elwa o raglen gwerth £8 miliwn wedi cael ei chyhoeddi.
Cafodd y Rhaglen Fuddsoddiad Cyfalaf Strategol ei chyhoeddi ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin gan annog ceisiadau gan sefydliadau.
Fe ddaw hyn wrth i'r trafodaethau ar gyllido a phwysigrwydd y celfyddydau yng Nghymru barhau.
O'r holl geisiadau mae 40 o sefydliadau wedi eu dewis ac yn eu plith mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ac Oriel Plas Glyn-y Weddw ym Mhwllheli.
'Buddsoddi ar unwaith'
Yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n gweinyddu'r cyllid, fe ddaw hyn yn dilyn lansiad Llywodraeth Cymru "o'u blaenoriaethau ar gyfer diwylliant sy'n ymrwymo i ddarparu cyllid i gefnogi cymryd rhan yn y Celfyddydau ar lawr gwlad a sector diwylliannol mwy gwydn".
Ychwanegon nhw mai nod y rhaglen yw galluogi sefydliadau i fuddsoddi "ar unwaith mewn agweddau hanfodol ar ddarparu'r celfyddydau a diwylliant ledled Cymru".
Mae sefydliadau celfyddydol eraill yng Nghymru hefyd wedi cael cyllid i gyflawni "gwaith ailddatblygu ac uwchraddio, gan gynnwys astudiaethau dichonoldeb, yn ogystal â phrosiectau trawsnewid digidol".
Ymhlith y rhain mae Avant Cymru yn Wrecsam, y Frân Wen ym Mangor a theatr Byd Bach yng Ngheredigion.

Mae Dafydd Rhys yn dweud ei bod hi'n amlwg bod angen cyllid ychwanegol ar sefydliadau celfyddydol yng Nghymru
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys, bod ymateb y sector yn "arddangos y gwir angen am y cyllid hwn i gynnal a datblygu ein lleoliadau pwysig".
Ychwanegodd bod angen y cyllid i "alluogi creadigrwydd a chymunedau i ffynu ar hyd a lled Cymru".
"Mae'n amlwg bod angen cynnal a gwella'r adeiladau pwysig yma gan hefyd wella cynaliadwyedd amgylcheddol y lleoliadau," meddai.
Aeth ymlaen i ddiolch i Lywodraeth Cymru am sicrhau bod y cyllid hwn ar gael gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at weld effaith y prosiectau hyn yn y dyfodol.
- Cyhoeddwyd5 Awst
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd8 Awst
Yn ôl y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant mae'r "buddsoddiad £8 miliwn hwn yn dangos ein hymrwymiad diwyro i gefnogi sector celfyddydau a diwylliant bywiog Cymru".
Ychwanegodd bod y "40 o sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid yn cynrychioli'r galon sy'n curo wrth wraidd y maes diwylliannol ym mhob cwr o Gymru".
"Mae amrywiaeth y prosiectau a gefnogir - o ailddatblygu lleoliadau mawr i fentrau trawsnewid digidol - yn adlewyrchu ein cydnabyddiaeth bod angen cefnogaeth hyblyg ar y sector celfyddydau i ymdopi â heriau'r 21ain ganrif," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.