Plaid Cymru'n addo mwy i'r celfyddydau os yn cael eu hethol

Llun o seddi gwag yng Nghanolfan y MileniwmFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru'n dweud bydd eu maniffesto'n esbonio sut y byddan nhw'n ariannu eu hymrwymiad gwariant newydd i'r celfyddydau a chwaraeon

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru'n dweud y byddan nhw'n cynyddu'r gwariant ar y celfyddydau a chwaraeon bob blwyddyn pe bai nhw'n ennill etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth adroddiad gan y Senedd ganfod yn gynharach eleni fod Cymru ymhlith y gwledydd sy'n gwario lleiaf ar wasanaethau diwylliant a chwaraeon drwy Ewrop.

Er gwaethaf cynnydd yng nghyllideb ddiweddaraf llywodraeth Lafur Cymru, mae'r sector wedi dioddef toriadau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd llefarydd Plaid Cymru dros ddiwylliant, Heledd Fychan yn amlinellu'r ymrwymiad newydd yma yn yr Eisteddfod ddydd Gwener.

Yn ôl y blaid, bydd eu maniffesto yn egluro sut y byddai'n cael ei ariannu.

Llun o Heledd Fychan yn Senedd Cymru.
Disgrifiad o’r llun,

Yn flaenorol mae Heledd Fychan wedi cyhuddo gweinidogion Llafur Cymru o beidio â chael rhywun i hyrwyddo'r celfyddydau

Cyn ei haraith, fe ddywedodd Ms Fychan y byddai'r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yn "ganolog i uchelgais llywodraeth Plaid Cymru i greu Cymru iachach a chyfoethocach".

"Nid yn unig yw hynny'n golygu mwy o gyllid, ond bydd dull newydd gan y llywodraeth er mwyn sicrhau bod diwylliant wrth wraidd popeth a wnawn," meddai.

Yn ôl Plaid Cymru, mae diwylliant yn chwarae "rôl hanfodol o ran lles, twf economaidd a chydlyniant cymdeithasol" ac fe gyfeiriodd y blaid at adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru ar effaith economaidd y celfyddydau yng Nghymru, dolen allanol.

Roedd yr adroddiad yn honni, am bob £1 a dderbyniwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, aeth £2.51 yn ôl i'r economi.

Ychwanegodd Ms Fychan, a oedd arfer gweithio i Amgueddfa Genedlaethol Cymru: "Diwylliant yw calon Cymru".

"Dyma sut rydym yn adrodd ein straeon, yn gwarchod ein hiaith, yn dathlu ein hanes, ac yn mynegi ein gwerthoedd."

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, dolen allanol wedi adfer y cyllid ar gyfer diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon yn ôl i lefelau 2023-24.

Ond fe ddaw hyn ar ôl cyfnod o doriadau i'r sector, wrth i'r llywodraeth flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen fel y gwasanaeth iechyd.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n dosbarthu arian cyhoeddus i sefydliadau diwylliannol, wedi dweud bod eu refeniw wedi lleihau 40% mewn termau real rhwng 2010 a 2024.

Ond fe groesawodd y cyngor y cynnydd a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddiweddaraf fel "arwydd cadarnhaol".

Yn eu hadroddiad, 'Degawd o doriadau, dolen allanol', a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, dywedodd pwyllgor diwylliant y Senedd: "Am gyfnod rhy hir, mae diwylliant a chwaraeon wedi cael eu trin fel 'pethau braf i'w cael', ac mae'r sectorau hyn wedi wynebu degawd a mwy o ostyngiadau cyllido, sydd wedi'u gadael yn fregus ac heb ddigon o adnoddau."

Mewn adroddiad ar wahân, fe gwestiynodd y pwyllgor y Gweinidog Diwylliant Jack Sargeant, gan ofyn a yw'n "gwerthfawrogi'n llawn faint o bwysau mae'r sector yn ei wynebu".

Mae Mr Sargeant wedi gwrthod honiadau yn y gorffennol bod y sector yn wynebu "argyfwng".

"Ni fyddwn i'n ei ddisgrifio fel argyfwng fy hun," meddai ym mis Chwefror, er iddo gydnabod bod yna heriau y byddai'n rhaid i'r llywodraeth weithio i'w goresgyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.