'Cyfnod gwaethaf erioed fel cantores' wrth wynebu torri swyddi
- Cyhoeddwyd
“Heb os dyma’r cyfnod gwaethaf erioed dwi wedi’i brofi fel cantores,” meddai aelod o gwmni opera sy'n wynebu dyfodol ansicr.
Mae Sian Meinir wedi bod yn aelod o gorws Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) ers 21 mlynedd.
Dywedodd bod "nifer ohonom methu cysgu gyda'r nos yn pryderu am ein dyfodol yn sgil y bygythiad i gael gwared â 10 aelod o'r corws".
Mae'r cwmni'n wynebu dyfodol ariannol ansicr wrth iddyn nhw dderbyn 35% yn llai o arian gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, ac 11.8% yn llai gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Dydd Mawrth yw'r diwrnod olaf i aelodau o'r corws wneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol.
Dywedodd WNO eu bod yn parhau i drafod, ac yn "edrych ar yr holl opsiynau".
'Dyw pobl ddim yn cysgu'
“Ry'n ni wedi brwydro yn erbyn mynd yn rhan amser, ond oherwydd y diffyg arian mae’r cwmni nawr yn torri swyddi. Felly fe fyddwn ni’n mynd lawr o 30 i 20,” medd Sian Meinir.
“Bydd y cwmni’n gweld ddydd Mawrth sawl un fydd wedi gwneud cais am VE [voluntary exit] ond does neb ohonom yn gwybod sut bydd hynny’n gweithio o ran cydbwysedd lleisiau.
"Mae’r ofn wedyn yn real y bydd diswyddiadau gorfodol yn digwydd yn y flwyddyn newydd. Ond ry'n ni’n ddiolchgar am gefnogaeth ein hundeb Equity ac yn gwerthfawrogi eu bod nhw’n sicrhau bod y trafodaethau gyda’r cwmni yn parhau.
“Mae’n gyfnod tywyll iawn. Ry'n ni’n cario 'mlaen i berfformio wrth gwrs ond mae’r morale o fewn y cwmni cyfan yn isel iawn.
“Mae hyn i gyd yn effeithio ar iechyd meddwl aelodau’r corws - mae’n amser gwirioneddol anodd.
“Ryn ni’n gweithio mor agos gyda’n gilydd - canu, actio, dawnsio, anadlu gyda’n gilydd - mae hi wedyn yn golled fawr i golli 10.
“Pan ddechreues i yn 2003 roedd 'na 40 ohonom ni a ma’r rhif wedi mynd lawr i 30 gyda threiglad y blynyddoedd wrth i’r cwmni beidio llenwi swyddi y rhai sydd wedi gadael.
“Mae canu fel ensemble o 20 yn ei gwneud hi’n anodd i greu sain grymus ac angerddol fel ry'n ni’n arfer â gwneud.”
Dywed Opera Cenedlaethol Cymru eu bod yn parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gydag undebau a'u bod wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i aelodau'r corws, ond maen nhw'n pwysleisio realiti y sefyllfa ariannol "yn dilyn toriadau sylweddol i’n cyllid cyhoeddus".
Ychwanegodd Sian Meinir: "'Nes i ddychwelyd o ganu yn Nhŷ Opera Covent Garden i Gymru i ganu gyda’r Corws yn 2003 oherwydd fy mod i’n dymuno byw a gweithio yng Nghymru.
“Yn y corws, mae 'na rai gyda morgeisi, teuluoedd â phlant bach; nifer hefyd yn ganol oed sydd ddim eto’n barod i ymddeol.
“Peth anodd yw dargyfeirio i yrfa arall - ac hefyd mae angen cydnabod mai cantorion proffesiynol ydyn ni sydd wedi hyfforddi am flynyddoedd i gyrraedd safon uchel.
“'Dan ni’n gweithio ar lefel arbenigol ac mae’r sgiliau anghenrheidiol yn benodol ac ar lefel rhyngwladol.”
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Medi
Wythnos diwethaf dywedodd Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau, Dafydd Rhys, y byddai sector proffesiynol y celfyddydau yn "diflannu" o fewn degawd os na chaiff ei ariannu'n iawn.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y celfyddydau yn "hanfodol" i Gymru yn economaidd ac yn gymdeithasol ac maen nhw'n dweud na ddylai'r heriau ariannol presennol gyfyngu ar yr uchelgeisiau hirdymor ar gyfer y sector.
Ym mis Medi fe roddodd y llywodraeth £1.5m yn ychwanegol i Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cefnogi sefydliadau celfyddydol.
“Yn amlwg yr hyn dwi’n alw amdano yw mwy o nawdd gan Lywodraeth Cymru a San Steffan hefyd," meddai Sian Meinir.
“Mae cyllid OCC wedi cael ei dorri’n sylweddol", meddai, gan alw arnom "fel cenedl weld ein bod ni’n rhoi Cymru ar y map".
"Yr hyn sy'n ddychryn yw bod yr amserlen yn sydyn iawn - mae cytundeb y 10 sy'n colli eu swyddi yn dod i ben ddiwedd Rhagfyr. Mae'r cyfan yn gymaint o wewyr meddwl.
“Bydde’n braf pe bae’r llywodraeth yn sylweddoli gwerth y celfyddydau yn gyffredinol a sut mae ein cynhyrchiadau yn gallu effeithio’n gadarnhaol ar bobl.
"Fe gawson ni ymateb arbennig gan y cyhoedd ac adolygiadau gwych yn y papurau wedi ein perfformiadau yn Southampton yr wythnos ddiwethaf.
“Ar ddiwedd pob perfformiad wrth i’r gynulleidfa gymeradwyo ry'n ni’n gwisgo crysau-T Equity yn gofyn am gefnogaeth ac yn sefyll tu allan i’r theatr yn rhannu pamffledi cyn y sioe. Mae pawb wedi bod mor gefnogol."
'Trafodaethau agored a thryloyw'
Dywedodd llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru: "Rydym yn parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gydag Equity sy’n cynrychioli aelodau o gorws y WNO ac rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i aelodau ein corws tra hefyd yn cydnabod realiti y sefyllfa ariannol wedi toriadau sylweddol i’n cyllid cyhoeddus.
"Er na fyddai’n briodol i ni wneud sylw ar fanylion y trafodaethau hyn, rydym yn edrych ar yr holl opsiynau a fydd yn sicrhau corws llawn amser ac ry'n yn cytuno ag Equity fod hynny yn hanfodol i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru."