Sefyllfa'r celfyddydau yng Nghymru yn 'dorcalonnus o wael'

Does dim digon o gerddoriaeth mewn ysgolion, meddai'r pianydd Llŷr Williams
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r drafodaeth ar gyllido a phwysigrwydd y celfyddydau barhau, mae'r pianydd Llŷr Williams yn dweud fod y sefyllfa yn "dorcalonnus".
Yn perfformio o Faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddydd Llun, dywedodd fod y problemau'n deillio o ddiffyg cyllideb i'r celfyddydau mewn ysgolion.
"Dyw pobl ifanc ddim yn cael eu cyflwyno i gerddoriaeth ac mae y sefyllfa fwy eang yn dorcalonnus o wael," meddai Mr Williams, sy'n dod o'r ardal.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu gwariant "dydd i ddydd ar y sector diwylliant ehangach gan 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl".
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi Llŷr Williams, y pianydd byd enwog o Pentre Bychan, Wrecsam
Mae Llŷr Williams - sydd wedi perfformio gyda phob un o brif gerddorfeydd Prydain ac wedi gweithio gyda nifer o arweinwyr rhyngwladol enwog - hefyd yn poeni bod llwyfannau a llefydd perfformio yn mynd yn fwy prin.
"Mae y ffaith bod dim neuadd gyngerdd fawr yng Nghaerdydd yn siom a dim sôn pryd bydd Neuadd Dewi Sant yn ailagor, os o gwbl," meddai.
"Mae toriadau yng nghwmni opera Cymru hefyd yn ofid.
"Os ydych chi yn gweithio mewn cwmni neu gerddorfa ac yn wynebu y toriadau yma mae'n drychinebus."

Bu'r pianydd byd-enwog Llŷr Williams yn perfformio gweithiau cyfoes Cymreig yn Y Stiwdio ar y maes ddydd Llun
Mae Cyngres yr Undebau Llafur - TUC Cymru - yn dweud eu bod yn poeni am allu'r sector i "gyflawni dros bobl Cymru os yw toriadau yn parhau".
Bydd Dr Jeff Smith, o undeb y PCS yn rhan o'r drafodaeth banel am y celfyddydau a chyllid ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth.
Dywed fod "y sector yn dioddef mwy mewn termau canran na sectorau eraill".
"Ry'n ni yn poeni fod y sector yn cael ei esgeuluso," meddai ac mae'n galw am "sefydlogrwydd ariannol i ganiatáu iddo ffynnu".
Wrth edrych i'r dyfodol mae'n galw am "gyllid teg sy'n galluogi sefydliadau treftadaeth a diwylliant i gyflawni yn llawn".
Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu sut i ddosbarthu ein cyllid i sefydliadau celfyddydol.
"Cawsant gynnydd o 9.2% yn eu cyllid gan Lywodraeth Cymru eleni, o'i gymharu â'r llynedd."

"Mae sefydliadau sy'n ein cefnogi fel artistiaid unigol yn crebachu ac mae llai o lefydd arddangos," medd Bethan M Hughes
Mae'r sefyllfa yn y diwydiant creadigol yn "gynyddol anodd" meddai Bethan M Hughes - artist tecstilau sy'n arddangos ei gwaith gyda grŵp o artistiaid eraill ar y Maes.
"Dwi yn gymharol newydd ond be dwi'n glywed gan bawb yw ei bod hi'n anodd cael grantiau i ddatblygu gwaith," meddai.
"Mae sefydliadau sy'n ein cefnogi fel artistiaid unigol yn crebachu ac mae llai o lefydd arddangos.
"Dwi'n meddwl bod e'n wir bod gan y rhan fwyaf o artistiaid a chrefftwyr swydd arall.
"Yn sicr bydd yna lai o bobl yn gneud hyn fel gyrfa ac ar lefel broffesiynol.
"Mae 'na ddiffyg dealltwriaeth o fudd creadigrwydd yn gyffredinol i bob un ohonon ni mewn byd sy'n gynyddol ddigidol.
"Dwi'n annog pawb i greu ond os nad oes strwythur i gefnogi - yna dyw pobl ddim yn mynd i 'neud."

Dyw darpar fyfyrwyr ddim yn gweld gwerth gwneud gradd mewn celf, medd Gwenllian Beynon
Wrth edrych i'r dyfodol, pryder Gwenllian Beynon sy'n artist, darlithydd celf ac sydd hefyd yn gweithio ym myd celf yn y sector gwirfoddol yw y bydd pobl yn colli cyfle i fwynhau a chynhyrchu celf.
"Ar un adeg roedd hi yn weddol hawdd i gael grantiau i 'neud gweithgareddau a wedyn byddai pobol yn cael cyfle i weithio gydag artist proffesiynol, ond nawr mae yn wirioneddol anodd cael arian ar gyfer prosiectau fel hyn a dyw pobl ddim yn cael mynediad i'r celfyddydau yn yr un ffordd," meddai.
"O ganlyniad dyw darpar fyfyrwyr ddim yn gweld gwerth 'neud gradd mewn celf.
"Yn y dyfodol falle fydd pobl ddim yn 'neud celf - mae e'n bryderus."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi cynyddu gwariant dydd i ddydd ar y sector diwylliant ehangach gan 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl, gan gynnwys cyflwyno cronfa newydd gwerth £8m ar gyfer cyfleusterau i'r celfyddydau, a buddsoddiad o £26.5m tuag at ailddatblygu Theatr Clwyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd25 Mehefin