Cynllun i dargedu pobl sydd wedi 'colli hyder' yn y Gymraeg

CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cwrs yn targedu pobl sydd yn gallu siarad Cymraeg, ond sydd wedi colli hyder

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun newydd yng Nghaerdydd yn gobeithio rhoi cymorth i bobl sydd wedi colli hyder yn eu Cymraeg er mwyn eu hannog i ailgydio yn yr iaith.

Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn targedu'n benodol y rheiny sydd yn gallu siarad yr iaith, ond efallai wedi colli hyder os nad ydyn nhw wedi'i ddefnyddio ers gadael yr ysgol.

Yn ôl Anna Fflur Jones, cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Caerdydd, maen nhw wedi cael "ymateb mawr" i'r cynllun Codi Hyder.

"Peilot oedd hwn yn wreiddiol yn y gogledd," meddai ar Dros Frecwast fore Gwener.

"Oedd 'na waith 'di cael ei 'neud gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a ddaru nhw gydnabod bod 'na grwpiau mawr o bobl yn ardal Ynys Môn a Conwy oedd yn ffitio'r math yma o grŵp.

"A felly dyma ni ein hunain yn edrych i 'neud cais i gael un i Gaerdydd, ar ôl cydnabod o ddata'r cyfrifiad bod 'na nifer fawr o bobl yn d'eud bo' nhw'n deall y Gymraeg, ond ddim yn siarad o."

'Dod nôl a defnyddio eu Cymraeg'

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn Adeilad John Percival ym Mhrifysgol Caerdydd bob nos Lun rhwng 18:30 a 20:30, o 29 Medi hyd at 15 Rhagfyr.

Does dim cost, ond mae gofyn i bobl gofrestru erbyn 22 Medi.

"'Da ni'n targedu pobl sydd yn siarad Cymraeg yn barod," meddai Ms Jones.

"Falle bo' nhw wedi bod i ysgol Gymraeg, neu wedi dysgu Cymraeg yn y gorffennol - ond ella wedi gadael eu Cymraeg a ddim wedi dod nôl ato fo, ac erbyn hyn falle wedi colli hyder.

"Felly y cynllun ydi i gael pobl i ddod nôl a defnyddio eu Cymraeg yn gymdeithasol, yn y gwaith, efo'u plant neu beth bynnag sy'n siwtio nhw."

Adeilad John PercivalFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn Adeilad John Percival ym Mhrifysgol Caerdydd

Ychwanegodd bod modd hefyd i bobl gael cymorth Dysgu Cymraeg Caerdydd y tu allan i'r sesiynau penodol hynny.

"'Da ni'n ffodus iawn bo' genna ni diwtor penodol ar y cynllun yma - tiwtor codi hyder cymunedol 'da ni'n galw fo.

"Mae hi'n cynnal sesiynau un-i-un efo pobl dros Gaerdydd, mae hi hefyd yn dod â phobl at ei gilydd mewn grŵp, a 'da ni'n gweithio ar yr ochr seicoleg iaith o bethau.

"Gweld be' sy'n dal pobl yn ôl o fedru mynd allan yna'n annibynnol a siarad Cymraeg yn y ffordd fysan nhw'n hoffi g'neud.

"Ond 'da ni hefyd yn 'neud petha' cymdeithasol, yn dod a nhw at ei gilydd fel buddy, fel mentor, fel bod pobl yn teimlo bod rhywun efo nhw, yn cefnogi nhw i fynd allan yna eu hunain."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.