Storm Herminia: Cannoedd heb drydan a rhybudd am ragor o law trwm

Tonnau ym Mae TrearddurFfynhonnell y llun, Ann 97 / BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ym Mae Trearddur, Ynys Môn brynhawn Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o gartrefi heb drydan a rhybuddion llifogydd wedi eu cyhoeddi wrth i Storm Herminia daro Cymru.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm fydd mewn grym rhwng 12:00 brynhawn Sul a 23:59 nos Lun.

Am 14:30 roedd dros 700 o aelwydydd heb drydan yn y de a'r gorllewin, tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bobl fod yn barod am lifogydd, dolen allanol yng ngogledd a gorllewin Sir Benfro, arfordir gorllewin Môn ac arfordir Llyn a Bae Ceredigion.

Daw'r tywydd garw ar ôl i Storm Éowyn achosi trafferthion mewn rhannau o'r wlad ddydd Gwener.

Roedd yr A5 ger Bethesda, Gwynedd ar gau am gyfnod brynhawn Sul ar ôl i goed ddisgyn ar y ffordd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr A5 ger Bethesda, Gwynedd ar gau am gyfnod brynhawn Sul ar ôl i goed ddisgyn ar y ffordd

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gellir disgwyl cyfnodau o law trwm ar draws Cymru yn ystod y dyddiau nesaf.

"Fe allai'r cyfnodau o law trwm arwain at lifogydd ar rai ffyrdd ac mewn adeiladau," medd llefarydd.

Fe allai hyd at 40mm (1.6 modfedd) o law ddisgyn mewn mannau, tra bod hyd at 70mm (2.8 modfedd) yn bosib ar dir uchel.

Mae'r rhybudd am law yn berthnasol i siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Mynwy, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam.

Achub myfyrwyr o ynys Pen Pyrod

Cafodd saith o bobl eu hachub gan Wylwyr y Glannau brynhawn Sul ar ôl iddyn nhw fynd yn sownd ar ynys fach oddi ar arfordir Gwyr.

Roedd y grŵp o fyfyrwyr Americanaidd - oedd wedi bod yn treulio cyfnod ym Mhrifysgol Abertawe - wedi mynd ar daith i ynys Pen Pyrod, ond wrth i'r llanw ddod i mewn fe aethant yn sownd.

Dywedodd Jon Tarrant, oedd yn rhan o'r criw achub, fod cludo'r myfyrwyr yn ôl i Rosili yn y tywydd garw wedi bod yn "heriol".

map o'r rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi sawl rhybudd am wynt a glaw ar gyfer dydd Sul a dydd Llun

Am 14:30 brynhawn Sul, dywedodd cwmni National Grid eu bod yn ymwybodol o 13 o doriadau pŵer yn ne a gorllewin Cymru gyda 773 o gwsmeriaid heb bŵer.

Yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf yw Pont Fadlen yn Sir Benfro lle mae 189 o gwsmeriaid heb bŵer

Mae 154 o gwsmeriaid heb gyflenwad yn ardal Sblot yng Nghaerdydd a nifer heb drydan yn Aberporth yng Ngheredigion, Abergwaun ac Aberhonddu.

Mae yna rybudd hefyd am wynt ar draws Cymru tan 17:00 ddydd Sul lle gellir disgwyl hyrddiadau o hyd at 60mya a hyd at 70mya ar yr arfordir a'r bryniau.

Mae rhybudd arall am wynt mewn grym o 06:00 ddydd Llun tan 06:00 fore Mawrth ymhob un o siroedd Cymru heblaw am siroedd Dinbych, Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn.

Pynciau cysylltiedig