Storm Éowyn: Cau ysgolion cyn i rybudd oren ddod i rym

Map rhybuddion tywydd diwedd yr wythnosFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhybudd oren am wynt mewn grym ar draws y gogledd ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgolion yn Ynys Môn a Gwynedd wedi cadarnhau na fyddan nhw ar agor ddydd Gwener yn sgil y rhybuddion am dywydd garw.

Mewn llythyr at rieni a gofalwyr mae penaethiaid pob ysgol gynradd yn nalgylchoedd ysgolion uwchradd Caergybi, Amlwch, Bodedern a Llangefni, dolen allanol wedi rhoi gwybod eu bod ar gau am y diwrnod oherwydd Storm Éowyn.

Yng Ngwynedd, dolen allanol, mae rheolwyr Ysgol Syr Hugh Owen, Ysgol Pendalar ac Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon, Ysgol Tryfan ym Mangor, ac Ysgol Brynrefail, Llanrug hefyd wedi cadarnhau na fydden nhw ar agor i ddisgyblion ddydd Gwener.

Mae pump o siroedd y gogledd - Ynys Môn, Gwynedd Sir Conwy, Sir Ddinbych a Sir Y Fflint - yn debygol o gael eu taro gan y storm, yn ôl y Swyddfa Dywydd, sydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am wyntoedd cryf.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 06:00 a 21:00 ddydd Gwener, gyda disgwyl hyrddiadau hyd at 70mya yn gyffredinol, a hyd at 90mya ger yr arfordir ac ar dir uchel.

Dysgu ar-lein

Dywed yr ysgolion y bydd yna drefniadau gwahanol ddydd Gwener "er mwyn lleihau'r tarfu ar ddysgu" gan gynnwys adnoddau ar-lein a phecynnau gwaith pwrpasol.

Mae rhieni yn cael eu cynghori i edrych ar wefannau eu cynghorau lleol fore Gwener i weld beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf yn ysgolion eu plant.

Ysgol Cybi, Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Cybi, Caergybi ymhlith nifer fydd ar gau ddydd Gwener oherwydd y tywydd

Mae cwmni Stena Line wedi cadarnhau bod teithiau fferi o Gaergybi i Ddulyn rhwng 22:30 nos Iau a 13:45 prynhawn Gwener wedi cael eu canslo.

Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn annog y cyhoedd "yn gryf" i wirio cyn teithio ar drên neu fws fore Gwener a dechrau'r penwythnos, gan rybuddio pobl i "ddisgwyl tarfu".

Fe allai newidiadau i wasanaethau mewn ymateb i'r tywydd garw effeithio arwain at deithiau hirach na'r arfer.

Maen nhw eisoes wedi cadarnhau mai bysiau fydd yn cludo teithwyr sydd fel arfer yn teithio ar drenau Llinell Dyffryn Conwy a lein Canol Cymru drwy ddydd Gwener.

Bydd yna gyfyngiadau cyflymder o 50mya i drenau mewn sawl ardal fore Gwener:

  • O 02:00 tan 15:00 rhwng Bodorgan a Chyffordd Llandudno;

  • O 02:00 tan 12:00 rhwng Caerfyrddin a Chydweli, a rhwng Castell-nedd ac Abertawe; ac

  • O 01:00 tan 08:00 rhwng Casnewydd a Llanwern.

Dywed y cwmnïau y bydd "bysiau wrth gefn mewn lleoliadau allweddol o amgylch y rhwydwaith os bydd tarfu ychwanegol".

Tonnau'n taro'r arfordir yn ystod gwyntoedd cryfFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Network Rail wedi trefnu timau ymateb "i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â stormydd er mwyn achosi cyn lleied o darfu â phosibl".

Er yr holl gynllunio, maen nhw'n rhybuddio "y gall stormydd fod yn anodd eu rhagweld o hyd" ac yn ymddiheuro rhag blaen am unrhyw anghyfleustra.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru, Sarah Higgins bod difrod i drenau a'r seilwaith yn sgil stormydd garw "weithiau'n cymryd wythnosau neu fisoedd i'w atgyweirio" a'r gobaith yw "cyfyngu ar hynny" a chadw gweithwyr a theithwyr "yn ddiogel".

Mae Cyfarwyddwr Gweithrediadau Network Rail Cymru a'r Gororau, Rachel Heath hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd blaenoriaethu diogelwch teithwyr a gweithwyr rheilffordd.

"Yn anffodus, fe fydd rhywfaint o oedi a chanslo ddydd Gwener," meddai.

Ychwanegodd bod yna gydweithio agos gyda chwmnïau trên eraill er mwyn ailagor llinellau'n ddiogel cyn gynted â phosib.

Coed wedi syrthio yn dilyn gwyntoedd cryf Storm DarraghFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe syrthiodd llawer o goed ar diroedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y bydd eu canolfannau ymwelwyr ynghau ddydd Gwener, gan annog pobl i "osgoi teithio i'n coedwigoedd a'n gwarchodfeydd".

"Mae'r gwyntoedd cryfion a ddisgwylir gyda Storm Éowyn, wedi'i waethygu gan y difrod a achoswyd eisoes gan Storm Darragh, yn cynyddu'n sylweddol y perygl o goed a changhennau yn cwympo yn yr ardaloedd hyn," meddai llefarydd.

"Bydd y canolfannau ymwelwyr yng Nghoed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian, ac Ynyslas, yn ogystal â Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, ar gau ddydd Gwener."

Mae'r RNLI hefyd wedi annog unrhyw un sy'n ymweld â'r arfordir dros y dyddiau nesaf i sicrhau eu bod yn cadw eu pellter o'r môr.