Dirprwy wedi codi pryderon am ymddygiad cyn ymosodiad ysgol

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar iard yr ysgol amser egwyl y bore 24 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi dod i'r amlwg bod dirprwy bennaeth mewn ysgol lle cafodd dwy athrawes a disgybl eu trywanu wedi codi pryderon am ymddygiad disgyblion dri mis cyn yr ymosodiad.
Mae rhaglen Y Byd ar Bedwar, dolen allanol ar S4C wedi datgelu bod saith e-bost wedi bod rhwng Ceri Myers a Llywodraeth Cymru, gyda'r olaf yn cael ei anfon ar fore'r ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman fis Ebrill y llynedd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle fod trais tuag at athrawon neu staff yn "hollol annerbyniol" a bod y llywodraeth wedi bod yn "rhoi cryn bwyslais ar fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwael".
Mae disgwyl i ferch 14 oed gael ei dedfrydu ar 28 Ebrill ar ôl iddi ei chael yn euog o geisio llofruddio yn dilyn y digwyddiad.
'Llywodraeth yn fy niystyru'
Dywedodd Mr Myers, a ddechreuodd yn ei rôl fel Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Medi 2023, bod ymosodiadau ar staff yn cynyddu.
"Ges i fy nharo yng nghefn fy mhen," meddai Mr Myers. "Cafodd hyn ei drin fel rhywbeth fyddai'n digwydd unwaith yng ngyrfa rhywun.
"Ond fyddwn i'n dweud 'mod i wedi delio â phump neu chwech o ddigwyddiadau 'unwaith mewn gyrfa yn y flwyddyn ddiwetha' [blwyddyn academaidd 2023/ 2024].
"Mae sawl achlysur wedi bod ble mae arfau'n cael eu cludo i'r ysgol, gan gynnwys cyllell."

Y ddwy athrawes a gafodd eu hanafu - Liz Hopkins a Fiona Elias
Ymddiswyddodd Mr Myers ar ôl yr ymosodiad fis Ebrill diwethaf - ymosodiad a olygodd bod yn rhaid i'r athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin, yn ogystal â disgybl, gael triniaeth ysbyty.
"'Dych chi byth yn mynd i mewn i ysgol yn meddwl y byddai hynna'n digwydd," meddai.
"Ond dwi'n credu bod 'na arwyddion i bob ysgol yng Nghymru y byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd."
Mae Ceri Myers, bellach yn goruchwylio diogelwch ac ymddygiad disgyblion mewn academi yn Llundain.
Yn Ionawr 2024, fe ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon am ddefnydd fêps, ymddygiad disgyblion a'r hyn mae'n disgrifio fel diffyg eglurder o fewn canllawiau'r llywodraeth i fynd i'r afael â hynny.
Roedd yn pryderu'n benodol am y gwahaniaeth rhwng y pwerau sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr i archwilio disgyblion am eitemau.
"Roedd 'na gyfres o e-byst ble, yn syml, roedd y llywodraeth yn fy niystyru i, i ryw raddau.
"Nes i ddweud nad oeddwn i'n hapus â'r ymateb yna, ac y byddwn i'n hoffi cael sgwrs bellach," ychwanegodd.

Mae Ceri Myers wedi bod yn siarad â Sion Jenkins, gohebydd Y Byd ar Bedwar
Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth i Ysgol Dyffryn Aman yn dangos bod pedwar achlysur wedi'u cofnodi yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24 lle cafodd arfau eu cludo i'r ysgol, ond dim ond dau ddisgybl a gafodd eu diarddel yn barhaol.
Yn ystod achos y disgybl, daeth i'r amlwg bod cyllell wedi'i chanfod yn ei bag ym mis Medi 2023, gan arwain at waharddiad am gyfnod penodol.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru, dolen allanol yn nodi bod defnyddio, neu fygwth defnyddio arfau ymosodol yn gallu cael ei ystyried fel achlysur eithriadol lle gall prifathro ddiarddel disgybl am droseddu'r tro cyntaf.
Ond yn ôl Mr Myers, wnaeth hyn ddim digwydd pob tro.
"Ar fwy nag un adeg, fel ysgol, fe gafon ni'r sgwrs gyda'r sir i ddweud bod rhywun 'di cario cyllell. Dyma beth hoffen ni wneud.' Ac wedyn, y sir yn ymateb, 'Na, dydyn ni ddim yn mynd i gefnogi eich bod chi'n gwahardd yr unigolyn yn barhaol'.
"Yn y pendraw, beth mae hynny'n golygu yw bod y disgyblion yn gwybod, os ydyn nhw'n dod â chyllell mewn i'r ysgol, neu arf arall mewn i'r ysgol, does dim bygythiad i'w lle nhw yn yr ysgol.
"Ni'n dod at y problemau o ddau safbwynt gwahanol - do'dd y sir ddim yn cefnogi rhai o'r penderfyniadau oedden ni moyn 'neud."
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
Ychwanegodd Mr Myers: "Fi ddim yn credu alla i weithio mewn system ble, i rhyw raddau, mae 'nwylo i wedi eu clymu, a does dim cefnogaeth i wneud y pethau sydd angen i sicrhau bod ymddygiad mor dda ag y gall e fod, a bod disgyblion mor ddiogel mewn ysgolion ag y gallan nhw fod.
"Ma'r llywodraeth yn cysgu wrth y llyw, fi wir yn credu hynny.
"Fi isie gweld y canllawiau yn rhoi mwy o bwerau i ysgolion fel ei bod hi'n gliriach beth all ysgolion ei wneud a beth allan nhw ddim ei wneud - a bod hyn yn galluogi ysgolion i fod yn llymach."
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cynnal cyfarfod gyda Mr Myers i drafod ei bryderon.
Ond erbyn hyn, mae wedi ymddiswyddo ac mae bellach yn gweithio mewn academi yn Llundain lle mae'n gyfrifol am ddiogelwch ac ymddygiad disgyblion.
Mewn datganiad ar y cyd, fe ddywedodd Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, a Phennaeth Ysgol Dyffryn Aman, Mr James Dunbridge, fod gan y cyngor a'r ysgol "berthynas ragorol".
"Yn dilyn diwedd yr achos llys diweddar, mae'r cyngor sir wedi cyfeirio'r achos, mewn perthynas ag amgylchiadau'r digwyddiad ar 24 Ebrill 2024, at y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ac rydym yn aros am eu penderfyniad ynghylch fformat ac amserlen yr adolygiad amlasiantaeth.
"Nid ydym yn ymwybodol o ddigwyddiadau lle mae'r ysgol a'r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio yn erbyn ei gilydd neu'n anghytuno â'i gilydd. Byddwn yn ymateb i unrhyw ganfyddiadau y bydd yr adolygiad amlasiantaeth annibynnol yn eu nodi."
Arweiniad y llywodraeth 'yn glir'
Mewn ymateb i sylwadau Mr Myers, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Dydyn ni ddim wedi bod yn cysgu wrth y llyw.
"Rydw i wedi gweld y gohebiaeth gan y dyn dan sylw lle roedd e wedi sôn am allu athrawon i chwilio am gyffuriau a fêps ac maen nhw yn gallu gwneud hyn gyda chaniatâd.
"Fel rydw i wedi'i ddweud, mae ein harweiniad yn glir iawn ar fater cyllyll. Gallant fod yn achos gwahardd ar unwaith.
"Mewn perthynas â'r hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman, yn amlwg mae fy nghalon yn mynd allan i bawb yn yr ysgol.
"Nawr bod yr achos drosodd mae angen i ni edrych ar bopeth a ddigwyddodd yn y cyfnod cyn y diwrnod hwnnw i ddeall beth ddigwyddodd a dysgu unrhyw wersi.
"Yn ein huwchgynhadledd ymddygiad rydyn ni'n mynd i ddod ag awdurdodau lleol, ymarferwyr ac undebau llafur ynghyd i edrych ar rai o'r materion hyn."
Mae rhaglen Y Byd ar Bedwar i'w gweld ddydd Llun, 17 Chwefror ar S4C am 20:00 ac yna ar S4C Clic a BBC iPlayer