Ysgol Dyffryn Aman: Merch yn 'cario cyllell bob dydd'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunan niweidio.
Mae llys wedi clywed bod merch 14 oed yn cario cyllell i'r ysgol "bob dydd" cyn iddi drywanu dwy athrawes a chyd-ddisgybl.
Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu amser egwyl yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill y llynedd.
Mae'r ferch 14 oed, sydd wedi'i chyhuddo o geisio eu llofruddio, wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yn ei herbyn ddydd Gwener.
Mae'r ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi cyfaddef trywanu'r tair ond yn mynnu ei bod "ddim wedi bwriadu" eu lladd.
Mwy o'r achos yma
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Yn Llys y Goron Abertawe fe wnaeth y ferch gyfaddef i gario cyllell i'r ysgol "bob dydd… allan o reddf" gan ei bod yn cael ei bwlio.
Wrth gael ei holi gan Caroline Rees KC esboniodd i'r rheithgor ei bod wedi cario cyllell i'r ysgol ers yr ysgol gynradd.
"O'n i'n teimlo'n bryderus a'n ofnus drwy'r amser," meddai, wrth esbonio ei bod yn cario arfau er mwyn amddiffyn ei hun.
Yn sefyll gerbron y rheithgor mewn fest du a chrys gwyn, dywedodd ei bod erioed wedi bygwth rhywun â chyllell cyn y diwrnod dan sylw, ac nad oedd hi'n bwriadu lladd.
Wrth gael ei holi am ddiwrnod yr ymosodiadau atebodd y diffynnydd yn aml: "Dwi ddim yn cofio."
Esboniodd ei bod "yn anhapus iawn" wrth iddi fynd i Ysgol Dyffryn Aman y bore hwnnw, ond ei bod "erioed eisiau anafu" Fiona Elias.
Wedi ei diarddel yn y gorffennol
Wrth i'r diffynnydd ymddiheuro am drywanu'r tair fe ofynnodd Ms Rees: "Wyt ti'n gallu credu dy fod wedi gwneud hyn?"
Atebodd y ferch: "Na."
Dywedodd iddi "deimlo'n gynnes iawn, 'na gyd fi'n cofio oedd cael fy nhynnu", wrth feddwl yn ôl i'r ymosodiadau ar Fiona Elias a Liz Hopkin.
Esboniodd y ferch 14 oed doedd "dim meddwl" o ran lle ar eu cyrff roedd hi'n trywanu'r tair.
Wrth ofyn a oedd y diffynnydd erioed eisiau anafu'r disgybl y gwnaeth hi ei thrywanu, atebodd: "Dim really."
Wrth drafod yr ymosodiad ar y disgybl fe ddywedodd y diffynnydd bod y disgybl arall wedi ei galw'n "f***** psychopath".
Clywodd y rheithgor fod y diffynnydd wedi cael ei diarddel o Ysgol Dyffryn Aman yn 2023, ar ôl i Fiona Elias ganfod cyllell yn ei bag ysgol.
Bu rhaid i'w thad wirio ei bag ysgol pob dydd o ganlyniad.
Fodd bynnag, ni wnaeth hyn ei hatal rhag cario cyllell i'r ysgol yn ei phoced, esboniodd y diffynnydd.
Clywodd y rheithgor nad oedd ei thad yn ymwybodol ei bod yn cario arfau i'r ysgol.
Dywedodd y ferch wrth y llys ei bod wedi hunan niweidio ers ei bod yn yr ysgol gynradd.
Wrth i Ms Rees holi sut oedd hi'n teimlo wrth roi tystiolaeth gerbron y rheithgor, atebodd ei bod yn teimlo "embaras" ac yn "nerfus".
Esboniodd y diffynnydd ei bod wedi "galw enwau" ar ei hathrawes, Fiona Elias, yn y gorffennol.
'Anghwrtais ac anghyfrifol'
Dydd Iau fe welodd y rheithgor ddarluniau'r ferch yn cyfeirio at "Mrs Frogface Elias".
Dywedodd y diffynnydd: "Bydden i'n arfer dweud 'mod i'n ei chasáu hi a 'mod i eisiau iddi adael - wnes i fyth ddweud 'mod i eisiau iddi farw."
Cyfaddefodd ei bod wedi ymddwyn yn "anghwrtais ac anghyfrifol".
Esboniodd bod darluniau a gafodd eu darganfod yn ei bag ysgol a'i hystafell wely "yn fodd o fynegi" ei hun, ac nad oedd hi wedi bwriadu eu rhannu.
Yn ddiweddarach cafodd y ferch ei holi gan yr erlynydd William Hughes KC am y nodiadau a gafodd eu canfod yn ei bag ysgol.
Roedd y ferch wedi ysgrifennu ei bod "eisiau gwneud rhywbeth dyw pobl ddim fod i wneud".
Roedd hi hefyd wedi ysgrifennu: "Pam ydw i eisiau lladd eraill cymaint â dwi eisiau lladd fy hun?" a "Dwi'n teimlo fel fy mod am gyflawni trosedd oes."
Fe wnaeth y ferch wadu bod y rhain yn cyfeirio at ladd pobl, gan ddweud ei bod "ddim yn cofio" pryd y gwnaeth hi eu hysgrifennu.
'Ddim wedi cynllunio' yr ymosodiad
Gofynnodd yr erlynydd os oedd hi eisiau bod yn enwog wedi iddi wneud sylw i'r heddlu gan wenu wedi iddi gael ei harestio, atebodd y ferch: "Na."
Wrth gael ei holi am ddarlun oedd yn cynnwys y geiriau, "Bydd [enw'r ferch wnaeth hi drywanu] yn llosgi", dywedodd y ferch ei bod "wedi fy nghynhyrfu" pan wnaeth y darlun.
"Dwi'n mynegi fy hun drwy gelf," meddai.
Fe ddangosodd yr erlyniad ddeunydd CCTV o'r munudau cyn yr ymosodiadau lle gwelwyd y ferch yn dilyn Ms Elias.
Dywedodd y diffynnydd ei bod "ddim wedi cynllunio" ymosod arni.
Fe holodd Mr Hughes am y gyllell 'multi-tool' y defnyddiodd y ferch.
Byddai wedi gorfod cael ei chloi i'w lle er mwyn gweithio.
Dywedodd Mr Hughes KC bod y ferch wedi "gwneud ymdrech" er mwyn defnyddio'r gyllell. Atebodd y ferch: "Na."
Ychwanegodd ei bod "ddim yn cofio", dweud ei bod am ladd Ms Elias cyn ei thrywanu.
Dywedodd Mr Hughes KC: "Oeddet ti eisiau lladd hi pan ddechreues di ei thrywanu hi." Atebodd y ferch: "Na."
Gofynnodd yr erlynydd os oedd y diffynnydd "yn falch" o'r hyn roedd hi wedi'i wneud. Atebodd y diffynnydd: "Na."
Dywedodd y barnwr fod y dystiolaeth sy'n cael ei gyflwyno i'r rheithgor wedi dod i ben.
Mae'r ferch wedi cyfaddef trywanu'r tair ond yn gwadu ceisio llofruddio.
Mae'r achos yn parhau.