Tân mawr sychwr dillad wedi lledu trwy gartref yn Ynys Môn

Ni chafodd unrhyw un ei anafu, ond mae difrod sylweddol o achos y tân
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr tân yn annog pobl i ddefnyddio peiriannau sychu dillad yn ddiogel, ar ôl i dân mawr ddifrodi cartref yn Ynys Môn.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i eiddo ym Mhorthaethwy nos Fercher.
Lledaenodd y tân o'r garej i'r ystafell wydr a'r prif eiddo, yn ogystal ag i garej yr eiddo drws nesaf.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ond mae difrod sylweddol o'i achos.
Maent yn credu bod y tân wedi'i achosi gan nam yn y sychwr dillad, ac mae'r gwasanaeth tân wedi cyhoeddi cyngor diogelwch i bobl sy'n eu defnyddio.
Mae'r cyngor yma'n cynnwys peidio â gadael offer heb oruchwyliaeth, a chadw eich sychwr wedi'i awyru'n dda.

Sut i rwystro tanau sychwyr dillad
Dyma gyngor gan y gwasanaeth tân:
Peidiwch â gorlwytho socedi plwg - mae'r watedd uchel ar gyfer peiriant sychu dillad yn golygu bod angen ei soced 13-amp ei hun arno.
Cadwch lygad am unrhyw olion llosgi neu losgiadau, gan gynnwys gwirio unrhyw wifrau trydanol gweladwy.
Peidiwch â gadael offer heb oruchwyliaeth – peidiwch â throi'r peiriant sychu dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
Cadwch eich sychwr wedi'i awyru'n dda, gwnewch yn siŵr bod y bibell awyru yn rhydd o finc ac nad yw wedi'i rhwystro na'i malu mewn unrhyw ffordd.
Glanhewch yr hidlydd bob amser ar ôl defnyddio'ch peiriant sychu dillad.
Dylech bob amser ganiatáu i bob rhaglen sychu, gan gynnwys y 'cylch oeri', gwblhau'n llawn cyn gwagio'r peiriant. Os byddwch yn stopio'r peiriant yng nghanol y cylch, bydd y dillad yn dal yn boeth.
Peidiwch ag anwybyddu'r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo'n boethach ar ddiwedd y cylch, peidiwch â defnyddio'ch teclyn a gofynnwch i weithiwr proffesiynol ei wirio.
Yn bwysicaf oll – gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg sy'n gweithio a'i brofi'n rheolaidd – rydym yn argymell unwaith yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2024