Dyn o Wynedd aeth yn sownd mewn mwd wedi marw'n ddamweiniol

William JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i William Morris Jones, 92, mewn cae ger ei gartref yn Rhos-lan ger Cricieth ym mis Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dyn o Wynedd yn ddamweiniol ar ôl iddo fynd yn sownd mewn mwd ger ei gartref, mae crwner wedi dyfarnu.

Cafwyd hyd i William Morris Jones, 92, mewn cae ger ei gartref yn Rhos-lan ger Cricieth ym mis Rhagfyr.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon bod yr heddlu wedi cael gwybod ar 28 Rhagfyr ei fod ar goll, ar ôl iddo beidio dychwelyd i'w gartref ar ôl bod yn siopa yng Nghaernarfon.

Roedd Mr Jones wedi cael ei weld yn mynd ar fws yn y dref, ac yn ddiweddarach gwelwyd yn dod oddi arno yn Rhos-lan tua 13:45 y diwrnod hwnnw.

Y diwrnod canlynol bu swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn ymholi o dŷ i dŷ ac yn chwilio adeiladau allanol, ac wrth iddi dywyllu fe aeth dau gwnstabl i gae roedd Mr Jones yn arfer ei groesi i fynd adref.

"Roedd ynddo fwd hyd at eich pengliniau mewn rhai mannau," meddai'r Cwnstabl Adam Hall mewn datganiad a ddarllenwyd i lys y crwner.

Gyda golau fflachlamp dywedodd ei fod yn wreiddiol yn credu iddo weld cot ar lawr ynghanol y cae, ond wrth iddo fynd yn nes sylweddolodd mai Mr Jones ei hun oedd yno, gyda'i fag wrth ei ymyl.

"Roedd yn amlwg bod Mr Jones wedi marw," meddai'r plismon.

Niwmonia a hypothermia

Datgelodd archwiliad post-mortem fod gan Mr Jones fwd hyd at ei ben-gliniau ac ar ei ddwylo a'i wyneb, ond dim anafiadau eraill.

Datgelodd profion pellach ei fod yn dioddef o niwmonia.

O ystyried bod y tymheredd dros nos yn oddeutu 3C, nododd y patholegydd Dr Muhammad Zain Mehdi achos y farwolaeth fel niwmonia a hypothermia.

Dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, ei bod yn ymddangos ar sail y dystiolaeth fod Mr Jones yn cerdded tuag adref drwy gae corsiog iawn ac wedi mynd yn sownd yn y mwd.

Ychwanegodd nad oedd wedi gallu achub ei hun.

Gan gynnig ei chydymdeimlad â theulu Mr Jones, daeth y crwner i'r casgliad ei fod wedi marw'n ddamweiniol.

Pynciau cysylltiedig