Dau yn y llys ar ôl marwolaeth menyw, 37, gafodd ei thrywanu

Dangosodd archwiliad post-mortem dros dro bod Paria Veisi wedi marw o glwyfau i'r gwddf a rhan uchaf y frest o ganlyniad i drywanu
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi gwadu cyhuddiadau yn ymwneud â marwolaeth menyw arall yng Nghaerdydd.
Fore Gwener yn Llys y Goron y brifddinas drwy gyswllt fideo plediodd Maryam Delavary, 48, yn ddieuog i gyhuddiadau o atal claddu corff marw gyda pharch a chynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mewn gwrandawiad byr siaradodd Delavary, o Australia Road, White City Estate, gorllewin Llundain, i gadarnhau ei henw yn unig a nodi ei phle a chafodd ei chadw yn y ddalfa.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â marwolaeth Paria Veisi, 37, gafodd ei chanfod yn farw mewn eiddo yn ardal Penylan yng Nghaerdydd ym mis Ebrill.

Mae Alireza Askari yn parhau yn y ddala wedi iddo gael ei gyhuddo o lofruddio Paria Veisi
Roedd Alireza Askari, 41, o Ben-y-lan, Caerdydd hefyd yn y llys ddydd Gwener.
Mae ef wedi'i gyhuddo o lofruddio Ms Veisi, atal claddu corff marw yn gyfreithiol a gyda pharch ac ymosod ar berson gan achosi niwed corfforol.
Ni wnaeth bledio ac mae wedi'i gadw yn y ddalfa.
Mae disgwyl i achos llys pedair wythnos ddechrau yn Llys y Goron Caerdydd ar 6 Hydref.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi derbyn adroddiadau fod Ms Veisi ar goll wedi iddi adael ei gwaith yn ardal Treganna, Caerdydd ar 12 Ebrill.
Clywodd cwest yr wythnos hon fod corff Ms Veisi wedi ei ddarganfod saith diwrnod yn ddiweddarach ar 19 Ebrill.
Dangosodd archwiliad post-mortem dros dro ei bod wedi marw o anafiadau i'r gwddf a rhan uchaf y frest o ganlyniad i drywanu.
Cafodd y cwest ei ohirio tan fod ymchwiliadau'r heddlu ar ben.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd20 Ebrill
- Cyhoeddwyd17 Ebrill