'Angen gwella gwasanaethau iechyd meddwl i'r rhai mewn gofal'

Mae Georgia yn credu ei bod hi'n anoddach i bobl yn y system ofal i hawlio sylw'r awdurdodau
- Cyhoeddwyd
Mae angen blaenoriaethu gwasanaethau iechyd meddwl i'r rhai sydd mewn, neu wedi bod drwy'r system ofal yng Nghymru, yn ôl ymgyrchwyr a gwleidyddion.
Mae ymchwil yn dangos eu bod pedair gwaith yn fwy tebygol o wynebu anawsterau iechyd meddwl o gymharu ag eraill.
Mae Aelodau o'r Senedd yn bwriadu cyflwyno cynnig deddfwriaethol i Lywodraeth Cymru i amddiffyn a chryfhau hawliau pobl ifanc Cymru.
Maen nhw hefyd yn galw ar y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd i gynnwys Ysgrifennydd ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc yn y cabinet.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi amlinellu strategaeth Iechyd Meddwl a Lles newydd, gyda'r nod o sicrhau y gall pawb, gan gynnwys pobl ifanc gyda phrofiad gofal, gael y cymorth cywir.
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
Cafodd Georgia, sydd bellach yn oedolyn, ei symud rhwng cartrefi maeth a chartrefi plant, gyda'i hiechyd meddwl yn dioddef yn sgil hynny.
"Fe gyrhaeddodd e'r pwynt lle'r oedd yn rhaid i mi gael psychotic episode cyn i unrhyw un ddeall bo fi o ddifrif bod fy iechyd meddwl yn gwaethygu," meddai.
"Fe aeth yr hunan-niweidio'n waeth, ac yn fwy cyson.
"Dwi'n teimlo fel bod yn rhaid gwneud eithaf tipyn i gael unrhyw fath o sylw pan ydych chi yn y system ofal."

Mae James, a gafodd ei roi mewn cartref maeth yn ddeufis oed, yn ei chael hi'n anodd cynnal perthnasau gyda'i gyfnod yn y system ofal wedi gadael ei ôl wrth ddod yn oedolyn.
"Doedd dim un o fy rhieni yn gallu gofalu amdana i.
"Drwy gael fy mabwysiadu a fy ngwahanu o fy rhieni biolegol, mae hynny'n cael effaith wrth fagu perthnasau fel oedolyn."

Mae rhai pobl ifanc Cymraeg eu hiaith "yn cael eu tynnu o'r system addysg Gymraeg," meddai Helen Mary Jones
Mae ymchwil diweddar gan Arolygaeth Iechyd Cymru yn dangos fod plant mewn gofal bedair gwaith yn fwy tebygol o brofi problemau gyda'i hiechyd meddwl.
Mae galw nawr am gyflwyno mesurau i fynd i'r afael â'r sefyllfa.
Bydd cynnig deddfwriaethol - 'Bil pob Plentyn' - yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, sydd â'r nod o ddiogelu a chryfhau hawliau pobl ifanc ledled Cymru.
"Syniad Bil Pob Plentyn yw rhoi hawliau neu wasanaethau sydd weithiau ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghymru nawr ar lefel statudol, fel bod pob plentyn yn gallu dweud 'mae gen i hawl i hyn, welwn ni chi yn y llys,' os nad yw gwasanaethau yn cael eu cyflawni'n iawn," meddai Helen Mary Jones o Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
"Ni hefyd yn gweld plant Cymraeg eu hiaith yn cael eu tynnu o'r system addysg Gymraeg ac felly'n colli iaith."

Mae'r sefyllfa wedi bod yn "argyfwng" ers blynyddoedd, yn ôl Jane Dodds
Mae Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd yn rhan o'r gwaith o lunio'r bil.
"'Da ni'n galw am sicrwydd bo' nhw'n cael y flaenoriaeth, hynny yw, y plant a'r bobl ifanc sydd wedi bod yn y system ofal – nhw sydd ar flaen y ciw i gael iechyd meddwl ac i gael gwasanaethau sy'n sicrhau bo' nhw'n gallu symud ymlaen," meddai.
"Mae wedi bod yn argyfwng am flynyddoedd i ddweud y gwir.
"'Da ni ddim eisiau stopio beth sy'n digwydd (o ran cefnogaeth) yn 21 neu 25, 'da ni eisiau gweld hynny'n parhau tan maen nhw tua 30. Mae rhai ohonyn nhw yn dod yn rhieni ac mae'n bwysig bo' ni'n cefnogi nhw drwy hynny."

"Mae 'na lot o bwysau ar ofalwyr ifanc i fod yn iawn a delio efo pethau yn grêt," meddai Ffion Haf Scott
Nod y cynigion hefyd yw sicrhau bod hawliau pobl ifanc ar draws Cymru yn cael eu cryfhau yn unol â Chonfensiwn Hawliau Plant Y Cenhedloedd Unedig.
Mae Ffion Haf Scott yn ofalwr ifanc ac yn aelod o'r Senedd Ieuenctid, mae hi hefyd wedi profi problemau iechyd meddwl.
"Dwi wedi diodde' lot o broblemau iechyd meddwl fy hun. Mae 'na lot o bwysau ar ofalwyr ifanc i fod yn iawn a delio efo pethau yn grêt. Ond dydi hynny ddim o hyd yn digwydd," meddai.
"I fi, mae'n dibynnu os dwi'n codi ac mae mam yn cael diwrnod drwg – weithiau mae o'n golygu 'neud pethau fel nôl ei meddyginiaeth neu estyn tester blood sugar hi neu redeg o gwmpas i neud yn siŵr bo' hi wedi bwyta, neu weithiau mae angen codi hi gan bo' hi wedi pasio allan – mae hwnna wedi digwydd o'r blaen.
"Dwi'n meddwl bod diffyg deunyddiau allan 'na a diffyg addysg o ran afiechydon meddwl."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi gwneud gwelliannau mawr mewn gofal iechyd meddwl a lles ac mae ganddyn nhw gynllun iechyd meddwl 10 mlynedd sydd a'r nod o sicrhau'r gofal cywir heb oedi.