'Angen cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn chwaraeon'

Chwarae pêl-droedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, mae angen "prif ffrydio cynllunio iaith... i lawr i lefel clybiau lleol"

  • Cyhoeddwyd

Mae angen dulliau o geisio cynyddu'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden, meddai canolfan ymchwil.

Er y cafwyd "camau cadarnhaol" gan rai o'n prif gyrff chwaraeon, "mae llawer o'r gweithgaredd yma wedi canolbwyntio ar gynyddu statws ffurfiol y Gymraeg, er enghraifft mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn cyhoeddiadau yn ystod gemau ac mewn rhaglenni".

Yn ôl Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae angen "prif ffrydio cynllunio iaith i hyfforddiant a gweithredu mewnol ffederasiynau chwaraeon ac i lawr i lefel clybiau lleol".

Dywedon nhw fod rhain yn "feysydd sy'n ganolog i ddefnydd cymdeithasol o iaith".

Roedd y ganolfan yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig gan dîm o academyddion a fydd yn cael ei nodi ddydd Mercher gan bwyllgor diwylliant, cyfathrebu, y Gymraeg, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol y Senedd fel rhan o'i ymchwiliad 'Cymraeg i Bawb?'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod rôl hanfodol chwaraeon wrth hyrwyddo'r Gymraeg", au bod wedi ymrwymo i gefnogi cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith yn y maes.

'Allweddol' i dwf yr iaith

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher dywedodd Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru fod maes chwaraeon yn "allweddol" i dwf yr iaith, "oherwydd mae'n faes lle mae llawer o bobl ifanc yn ymwneud â fo".

"Mae'r potensial yn aruthrol yn y maes yna i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

"Mae 'na waith ardderchog yn cael ei wneud gan yr Urdd ym maes chwaraeon, y mentrau iaith ac yn y blaen, ac mae 'na glybiau sy' yn gweithio yn gyfan gwbl yn Gymraeg.

"Ond mae'n dibynnu ar unigolion, mae'n dibynnu ar hyfforddwyr.

"A mae 'na lot o bobl ifanc ar draws Cymru yn yr ardaloedd ble mae llai o ddefnydd [o'r Gymraeg] ac yn yr ardaloedd o ddwysedd uchel, lle mae'r iaith yn lleihau, lle gallai potensial chwaraeon gael ei ddefnyddio mwy."

Dr Elin Royles
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Elin Royles fod maes chwaraeon yn "allweddol" i dwf yr iaith

Yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor, mae'r ganolfan yn tynnu sylw at ddwy fenter yng Ngwlad y Basg sy'n ceisio datblygu yn bellach y cyfleon i ddefnyddio iaith leiafrifol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ac yn arbennig ym maes clybiau chwaraeon a hamdden.

Mae un ohonynt yn "creu gofod diogel ar gyfer y Fasgeg mewn chwaraeon, yn flaenorol a adnabuwyd fel Sport D model".

"Y nod oedd ceisio cynyddu'r defnydd o'r Fasgeg mewn gweithgaredd hamdden pobl ifanc gan weithio gyda chwe clwb chwaraeon."

Y llall yw prosiect BiKKE gan gyngor taleithiol Bizkaia sydd wedi gweithio i atgyfnerthu'r defnydd cymdeithasol o'r Fasgeg drwy chwaraeon.

"Ffocysir ar yr hyn sy'n digwydd o fewn clybiau o ran defnydd o'r Fasgeg mewn gweithgareddau, dulliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig, hyrwyddo ac ar wefannau ac felly o ran y defnydd o'r iaith fel iaith hyfforddi a chystadlu ond hefyd o ran gweinyddiaeth fewnol."

Mae'r ganolfan yn argymell gweithgareddau o'r fath er mwyn magu hyder unigolion a grwpiau i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Gwyn Derfel
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gwyn Derfel o Undeb Rygbi Cymru, mae angen gwneud y Gymraeg "yn berthnasol i fywydau dyddiol pobl"

Rhoddodd Gwyn Derfel - rheolwr y Gymraeg gydag Undeb Rygbi Cymru - dystiolaeth i'r pwyllgor ym mis Mehefin.

Dywedodd wrth ASau: "I wneud y Gymraeg yn fwy perthnasol, beth wnaethon ni oedd mynd i glybiau rygbi a gofyn, 'pa help ydych chi eisiau yn benodol yn Gymraeg?'

"Ac fe wnaethon ni 16 o ddigwyddiadau, a oedd yn cynnwys trafod pynciau fel... llesiant meddyliol, a gafodd dderbyniad gwych, defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Fe wnaeth un o'r clybiau ofyn am y menopos, ac felly, fe wnaethon ni, am y tro cyntaf erioed, gwrs uniaith Gymraeg am y menopos, ac mi roedd yna 40 o ferched yna yng Nghlwb Rygbi Y Bala.

"Felly, os ydyn ni eisiau gwneud yr iaith yn berthnasol, mae'n rhaid i ni, fel corff rheoli, ac mae'n rhaid i'r llywodraeth, fod yn berthnasol i fywydau dyddiol pobl, a dyna beth dwi'n meddwl ein bod ni'n trio ei wneud erbyn hyn o fewn Undeb Rygbi Cymru."

Tynnodd sylw at newid diweddar sy'n caniatáu cofrestru pob chwaraewr, hyfforddwr a gwirfoddolwr yng Nghymru yn y Gymraeg.

Ian Gwyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Gwyn Hughes wedi bod yn bennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru ers 2010

Dywedodd Ian Gwyn Hughes ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth ASau yn yr un cyfarfod bod angen "hyfforddi mwy o bobl i hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg, a dwi'n meddwl bod hyn wedi cychwyn rŵan".

"Mae gennym ni gyrsiau hyfforddi llwyddiannus iawn wedi bod dros y blynyddoedd, sydd wedi cael eu sefydlu gan Osian Roberts, ac rŵan mae Dave Adams yn eu cymryd nhw drosodd, ond efallai fod yna ddim digon wedi cael ei wneud yn y Gymraeg.

"A dwi'n credu mai'r ateb o ran hyfforddi ydy cael mwy o hyfforddwyr ar bob lefel i wneud i blant a phobl ifanc deimlo'n gyfforddus.

"Achos os ydyn nhw'n mynd i glwb am y tro cyntaf a dydyn nhw ddim yn gyfforddus yn yr iaith - os oes rhywun yn hyfforddi'n Saesneg ac maen nhw'n Gymry Cymraeg, ac efallai'n siarad Saesneg ond ddim yn gyfforddus yn y Saesneg - efallai y gallan nhw fynd yn swil, colli ffordd, colli hyder ag yn y blaen.

"Felly, dwi'n credu mai lot o'r ateb i'r peth ydy cael mwy o hyfforddwyr sydd yn gallu siarad Cymraeg."

'Gwaith da'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod rôl hanfodol chwaraeon wrth hyrwyddo'r Gymraeg a, gyda Chwaraeon Cymru, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyfleoedd i bobl ddefnyddio a mwynhau'r Gymraeg ym mhob cyd-destun chwaraeon".

"Anogir cyrff llywodraethu cenedlaethol i ystyried anghenion siaradwyr Cymraeg wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Chwaraeon Cymru eu bod yn "cefnogi ein partneriaid a'r sector yn gyfan gwbl i greu amgylcheddau sy'n hybu defnydd o'r iaith wrth gymryd rhan yn y campau".

Dywedodd eu bod "yn edrych ar y gwaith da sydd yn barod yn cymryd lle yn ein clybiau a chyrff cenedlaethol i ddysgu a rhannu enghreifftiau effeithiol o sut i ddefnyddio'r iaith Gymraeg".

Sesiwn yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Urdd eu bod yn gobeithio ehangu eu darpariaeth chwaraeon, "yn enwedig mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth Gymraeg yn isel"

Mae dros 6,000 yn mynychu clybiau chwaraeon yr Urdd yn wythnosol ledled Cymru.

Dywedodd llefarydd fod y "clybiau hyn yn cynnig gweithgareddau rheolaidd ar ôl ysgol ac ar benwythnosau, o sesiynau arbenigol mewn gymnasteg i rygbi, pêl-rwyd, pêl-droed, gwersi nofio a mwy.

"Mae'r ddarpariaeth hon yn creu amgylchedd cynhwysol sy'n cryfhau'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg – wrth chwarae, hyfforddi a dathlu.

"Un enghraifft o'n hymrwymiad i ehangu ein cyrhaeddiad ymhellach yw'r cydweithio sy'n digwydd gyda phartneriaid er mwyn ateb y galw am wersi nofio cyfrwng Cymraeg i ysgolion yng Nghaerdydd.

"Ein nod yw ehangu'r ddarpariaeth hon er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i blant, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth Gymraeg yn isel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.