Athro wedi'i gyhuddo o ymosod ar fachgen yn 'chwarae dwli'
- Cyhoeddwyd
Mae athro chwaraeon sydd wedi'i gyhuddo o ymosod ar fachgen 16 oed ar noson allan wedi dweud ei fod yn “chwarae dwli” pan afaelodd yn y bachgen.
Mae Llyr James, 31, wedi ei gyhuddo o ymosod ar Llŷr Davies yng Nghastellnewydd Emlyn ar 9 Mawrth eleni.
Bu farw'r bachgen dridiau wedi'r digwyddiad, ond mae'r achos llys wedi clywed nad oedd cysylltiad rhwng yr ymosodiad honedig a'r farwolaeth.
Mae Mr James wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad ac mae'r achos yn parhau.
- Cyhoeddwyd4 Hydref
- Cyhoeddwyd12 Ebrill
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
Wrth roi tystiolaeth yn Llys Ynadon Llanelli, dywedodd Llyr James bod Llŷr Davies yn un “o gymeriadau hoffus iawn” Ysgol Bro Teifi a'i fod yn ei adnabod ers iddo ddechrau fel disgybl ym mlwyddyn 7.
Dywedodd bod y bachgen yn rhan o dîm rygbi llwyddiannus iawn ac wastad yn gofyn am gyngor “ar sut i wella” fel chwaraewr rygbi.
Dywedodd Mr James bod Llŷr Davies wedi colli “tipyn o ysgol” ac wedi colli “y rhan fwyaf o ymarferion” cyn gêm bwysig i dîm yr ysgol yn Stadiwm Principality.
“Roeddwn i yn gutted bod e yn mynd i golli allan ar gyfle bythgofiadwy,” meddai wrth y llys.
Esboniodd Mr James ei fod wedi chwarae rygbi i dîm Castellnewydd Emlyn ar 9 Mawrth a'i fod wedi gweld Llŷr Davies gyda chriw o ffrindiau ar noson allan yn y dref.
Ychwanegodd bod hi’n “ychydig o sioc” i’w weld allan gyda chriw o ffrindiau dan oed.
'Dau berson agos yn chwarae dwli'
Dywedodd Llyr James ei fod wedi bwriadu mynd i gael kebab pan sylwodd ar Llŷr Davies.
Dywedodd ei fod wedi “cydio” yn y bachgen ar ôl croesi’r ffordd a'i “wthio fe i’r twnnel (alleyway)".
Roedd am “egluro rhwystredigaeth” ei fod yn mynd i golli allan ar “gyfle bythgofiadwy”, meddai, oherwydd ei bresenoldeb gwael yn yr ysgol.
Dywedodd fod ganddo berthynas “chwareus” gyda Llŷr Davies a'u bod nhw'n “tynnu coes ei gilydd”.
Fe ofynnwyd i Mr James gan ei gyfreithiwr Mair Williams a oedd yna “unrhyw gwympo allan”.
Fe atebodd Mr James: “Dim byd o gwbl. Dau berson agos yn chwarae dwli.”
Gwadodd bod Llŷr Davies ar y llawr ar unrhyw bwynt: "Na, dim ar unrhyw adeg."
Dywedodd bod y ddau wedi bod yn y twnnel am lai na 10 eiliad a'u bod nhw wedi cael "trafodaeth fach gyflym".
Yn ôl Mr James roedd yna drafodaeth bellach gyda chriw mwy o bobl ger y twnnel am dri neu bedwar munud.
Dywedodd na wnaeth unrhyw un sôn am Llŷr Davies gydag ef yn ystod y drafodaeth honno.
Dywedodd Llyr James na chlywodd unrhyw beth am yr honiadau tan ddydd Mercher – y diwrnod ar ôl i Llŷr Davies farw mewn "digwyddiad yn ymwneud â thryc" yn chwarel Gilfach yn Sir Benfro.
Cafodd wybod gan aelod o uwch dîm reoli’r ysgol ond cafodd barhau i ddysgu. Cafodd ei wahardd o’r ysgol ar y dydd Gwener.
Yn ôl Mr James roedd y digwyddiad wedi cael ei “chwythu mas o bob rheolaeth".
Dywedodd nad oedd erioed wedi cymryd cam mewn swyddfa heddlu tan iddo wynebu’r cyhuddiad.
Dywedodd fod "dim troseddu" wedi digwydd ac nad oedd yn ymwybodol o unrhyw anafiadau i Llŷr Davies.
'Yfed wyth neu naw peint o seidr'
Fe ofynnwyd iddo gan gyfreithiwr yr erlyniad, James Ashton a oedd yn cael "playfights gyda disgyblion ar ôl bod yn yfed?"
Ateb Mr James oedd: "Na".
Fe awgrymodd Mr Ashton bod ei atgofion o’r hyn ddigwyddodd yn “aneglur” yn ôl ei ddatganiad cyntaf i’r heddlu, bythefnos ar ôl yr ymosodiad honedig.
Cytunodd Mr James ei fod wedi yfed wyth neu naw peint o seidr.
Yn ôl Mr Ashton, roedd ei atgofion yn “aneglur achos yr alcohol”.
Fe awgrymodd Mr Ashton ei fod wedi gwrthod gwylio CCTV o’r digwyddiad am ei fod yn “gwybod ei fod wedi mynd yn rhy bell”.
“Na,” oedd ateb Llyr James.
Cafodd y lluniau eu dangos i’r llys unwaith eto. Fe awgrymodd Mr Ashton nad oedd Llŷr Davies wedi cydsynio mewn unrhyw ffordd wrth iddo “afael arno”.
Fe awgrymodd Mr Ashton bod y fideo yn dangos Llyr James yn llusgo Llŷr Davies allan.
Yn ôl Mr James “chwarae dwli” oedd hyn a doedd “dim malice”.
Fe awgrymodd Mr Ashton nad oedd “banter” wedi bod rhwng y ddau ond bod Mr James wedi rhedeg ato mewn ffordd “aggressive”.
“Dylsech chi byth wedi rhoi eich dwylo ar fachgen 16 oed ar y stryd,” oedd awgrym Mr Ashton.
“Aethost ti yn rhy bell?" gofynnodd. “Na” oedd ateb Llyr James.
'Chwarae bwyti oedd e'
Clywodd y llys gan dyst oedd allan gyda Llyr James ar y noson dan sylw.
Dywedodd Iestyn Evans, 29, ei fod yn “ffrind agos” i Mr James ers dyddiau ysgol.
Dywedodd nad oedd unrhyw beth wedi peri gofid am ymddygiad Llyr James y noson honno.
Pan groesholwyd Mr Evans am y ffaith bod y CCTV yn dangos Llyr James yn rhedeg draw a gafael yn Llŷr Davies, fe awgrymodd Mr Evans mai “chwarae bwyti” oedd hynny.
Roedd Deian Phillips, 19, hefyd allan y noson honno.
Dywedodd ei fod yn 'nabod Mr James fel un o’i gyn-athrawon yn Ysgol Bro Teifi ond ei fod wedi gadael yr ysgol yn 16 oed.
Dywedodd iddo adael y bar tua’r un amser â Mr James a'u bod nhw wedi dod i gwrdd â chriw o bobl ifanc tu allan i’r siop kebab.
Ychwanegodd Mr Phillips nad oedd wedi gweld unrhyw gysylltiad corfforol rhwng Mr James a Llŷr Davies.
Dywedodd bod y ddau wedi bod yn yr ali gyda'i gilydd am 10 eiliad ac wedi “cerdded mas gyda'i gilydd".
Cafodd y fideo CCTV ei ddangos i Mr Phillips o Llyr James yn gafael yn Llŷr Davies.
Dywedodd Mr Ashton: “Dwi’n meddwl taw chwarae bwyti oedd e.”
Mae Llyr James yn gwadu cyhuddiad o ymosod. Mae’r ynadon bellach yn ystyried eu dyfarniad.