Cwmni sy'n ailhyfforddi gweithwyr dur yn cau swyddfa Port Talbot

Port Talbot a TataFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun Mulitply wedi cefnogi pobl ar draws de Cymru, gan gynnwys pobl sydd wedi eu heffeithio gan dorri swyddi Tata ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni sydd wedi darparu cyrsiau sgiliau i ddwsinau o weithwyr dur sydd wedi eu heffeithio gan ddiswyddiadau ym Mhort Talbot wedi cau ei swyddfa'n y dref.

Daw wrth i Lywodraeth y DU baratoi i ddod ag un o'i rhaglenni cyllido i ben fis nesaf, gyda cholegau ac awdurdodau lleol yn galw am eglurder am gynlluniau hirdymor gweinidogion San Steffan.

Cyhoeddodd Tata Steel y llynedd ei fod yn diswyddo 2,800 o bobl gyda'r mwyafrif ym Mhort Talbot.

Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod wedi ymestyn cronfa ehangach, ac y byddai gweithwyr dur yn gallu cael cefnogaeth i fagu sgiliau newydd drwy gronfa wahanol yn benodol ar gyfer pobl a'u heffeithir gan Tata.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Whitehead-Ross wedi darparu cyrsiau i 1,200 o oedolion ar draws de Cymru.

Mae'r gwaith wedi ei ariannu gan raglen Multiply Llywodraeth y DU, gyda'r cyllid yn cael ei ddosbarthu gan awdurdodau lleol.

Ond bydd Multiply – sydd â'r nod o wella sgiliau rhifedd – yn dod i ben fis nesaf.

O ganlyniad mae Whitehead-Ross wedi cau ei swyddfa ym Mhort Talbot a diswyddo 16 aelod o staff yng Nghymru.

Ian Ross
Disgrifiad o’r llun,

Nid drwy dorri gwasanaethau mae taclo'r heriau sy'n bodoli, meddai Ian Ross

"Mae'n cyrraedd y pwynt, pa mor bell allwch chi dorri?" meddai prif weithredwr y cwmni, Ian Ross wrth raglen Politics Wales BBC Cymru.

"Rydyn ni'n gwybod bod y galw yno, ac mae angen yng Nghymru i gael pobl nôl i'r gwaith.

"Ond mae angen i'r gefnogaeth fod yno a gallwch chi ddim ond taclo'r heriau yna drwy fuddsoddi yn y gwasanaethau hynny, nid eu torri nhw."

Dywedodd Mr Ross bod ei gwmni wedi helpu tua 40 o bobl sy'n wynebu colli eu gwaith yn Tata dros y chwe mis diwethaf.

'Pryderus iawn'

Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Orllewin De Cymru Sioned Williams bod sefyllfa Whitehead-Ross yn "bryderus iawn".

"Rydyn ni'n gwybod bod hwn yn rhywbeth sy'n gweithio," meddai'r aelod Plaid Cymru.

"Mae angen cyfuniad o ffyrdd i gael pobl nôl i'r gwaith ac i'w ailhyfforddi nhw ac roedd hwn yn un elfen o hynny."

Dywedodd Colegau Cymru, sy'n cynrychioli sefydliadau addysg bellach, bod pryder o fewn i'r sector dros sut y byddai sefydliadau'n gallu "cefnogi gobeithion a disgwyliadau sy'n parhau" ar ôl i'r arian ddod i ben.

Mae Multiply yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) Llywodraeth y DU gafodd ei sefydlu'n dilyn y Brexit i wneud yn iawn am yr arian roedd Cymru a rhannau eraill o'r DU yn arfer ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd.

Tra bod Multiply'n dod i ben, mae CFfG wedi ei hymestyn am flwyddyn arall.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU byddai gan awdurdodau lleol "hyblygrwydd" i wario'r arian fel y mynnant, gan gynnwys ar raglenni rhifedd.

Cafodd hynny ei groesawu gan gynghorau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

"Roedden ni'n gyson wedi gwthio am fwy o hyblygrwydd fel y gallai arian gefnogi cynlluniau eraill," meddai llefarydd.

Ond mae Colegau Cymru a CLlLC wedi galw am eglurder ynghylch beth fydd yn dilyn CFfG o 2026 ymlaen.

'Cyllid gwahanol ar gael'

Yn y cyfamser, ar ymweliad diweddar â Phort Talbot dywedodd Ysgrifennydd Cymru y byddai cyllid sylweddol ar gael o hyd i weithwyr dur lleol ddysgu sgiliau newydd.

Roedd Jo Stevens yn y dref i gyhoeddi buddsoddiad o £8.2m mewn prosiect newydd fyddai'n creu 100 o swyddi.

Mae'r arian wedi dod o gronfa £80m Llywodraeth y DU i helpu Port Talbot ymateb i'r sefyllfa'n Tata.

Pan ofynnwyd i Ms Stevens a oedd Llywodraeth y DU yn rhoi gydag un law tra'n tynnu i ffwrdd gyda'r llall, dywedodd: "Dim o gwbl."

"Rydyn ni'n siarad am symiau gwahanol iawn o arian fan hyn yn benodol ar gyfer pobl i ailhyfforddi ac os ydyn nhw eisiau datblygu sgiliau rhifedd byddan nhw'n gallu cael hynny drwy'r cyllid sydd ar gael."

Dywedodd hefyd bod Llywodraeth y DU yn "cynnal trafodaethau" gyda Llywodraeth Cymru dros beth ddylai ddilyn CFfG.

  • Politics Wales ar BBC1 Cymru am 10:00 ar 16 Chwefror ac ar iPlayer

Pynciau cysylltiedig