Teulu dyn o Bontypridd fu farw'n Sbaen yn 'rhwystredig' fod ei achos wedi cau

Bu farw Nathan Osman tra ar wyliau gyda'i ffrindiau yn Benidorm ym mis Medi 2024
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn o Bontypridd a fu farw yn Benidorm yn dweud bod heddlu Sbaen wedi cau'r ymchwiliad i achos posib o ladd.
Cafodd corff Nathan Osman, sy'n 30 ac yn dad i bedwar, ei ganfod ar waelod clogwyn anghysbell ar gyrion y ddinas o fewn 24 awr iddo gyrraedd y wlad.
Aeth yno ar wyliau gyda'i ffrindiau ym mis Medi 2024.
Nid oedd y teulu yn hapus â sut wnaeth heddlu Sbaen ddelio â'r achos gan benderfynu cynnal ymchwiliad eu hunain a arweiniodd at yr achos yn cael ei ailagor.
Wrth i ddyddiad marwolaeth Mr Osman agosáu, dywedodd y teulu eu bod yn teimlo'n "drist a rhwystredig" bod awdurdodau Sbaen wedi cau'r ymchwiliad unwaith yn rhagor.

Roedd Nathan Osman, 30, yn dad i bedwar o blant
Fe wnaeth llefarydd ar ran yr heddlu yn Benidorm gadarnhau fod yr ymchwiliad wedi dod i ben a bod marwolaeth Mr Osman yn cael ei thrin fel un ddamweiniol.
Dywedodd ei frawd Lee Evans na fydd y teulu'n rhoi'r gorau i'w hymdrechion i ddarganfod beth ddigwyddodd.
"Does neb wedi meddwl am Nathan a dyw e ddim wedi cael cyfiawnder," meddai.
Ers ailagor yr ymchwiliad ym mis Mai, roedd Mr Evans yn honni fod heddlu Sbaen wedi dod i gasgliadau "yn seiliedig ar y dystiolaeth gafodd ei chyflwyno gennym ni".
Dywedodd bod hyn wedi arwain iddyn nhw gau'r ymchwiliad am yr ail dro ond doedden nhw ddim wedi gwneud "unrhyw ymchwiliad eu hunain".

Dywedodd Lee Evans y byddan nhw'n parhau gyda chamau cyfrieithiol er mwyn ceisio deall beth ddigwyddodd i'w frawd
Mae teulu Mr Osman yn credu ei fod wedi cael ei herwgipio wrth iddo gerdded ar ei ben ei hun yn ôl i'w westy.
Maen nhw hefyd yn credu iddo brofi lladrad a'i adael yn y man anghysbell lle gafodd ei gorff ei adael.
Dywedodd y teulu fod rhywun wedi trio defnyddio ei gerdyn ar ôl yr amser y cafodd y corff ei ddarganfod.
Maen nhw hefyd yn pwysleisio y byddai systemau teledu cylch cyfyng wedi ei weld fel arall.
Dywedodd Mr Evans fod yr adroddiad gan awdurdodau Sbaen yn dweud bod marwolaeth Mr Osman yn debygol o fod yn "ddamweiniol" yn seiliedig ar "drosolwg a rhagdybiaethau ond dim ffeithiau caled".
Ychwanegodd y bydd yn gyfnod anodd i'r teulu nawr wrth i ddyddiad marwolaeth Mr Osman agosáu.
"Rydym wedi cael ein gadael ar ein pen ein hunain, mae angen help arnom ni," meddai.
Dywedodd y bydd y teulu'n parhau i gymryd camau cyfreithiol pellach er mwyn ceisio deall beth ddigwyddodd i Mr Osman.
Ychwanegodd eu bod wedi bod mewn cysylltiad â theuluoedd a fu mewn sefyllfa debyg lle bu farw perthynas iddynt dramor mewn amgylchiadau trasig.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â'r awdurdodau yn Sbaen am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd2 Mawrth