Aberth ac addasu: Sut mae bwytai'n delio â heriau ariannol?

Debbie Durham
Disgrifiad o’r llun,

Mae Debbie Durham yn rheoli bwyty sydd newydd agor yn y Mwmbwls, er gwaethaf cyfnod anodd i fusnesau

  • Cyhoeddwyd

Mae’n rhaid i fwytai newydd gwtogi oriau agor, lleihau niferoedd staff ac ymdopi â llai o elw er mwyn goroesi, yn ôl perchnogion.

Mae’r diwydiant lletygarwch wedi wynebu cyfres o heriau gyda chostau cynyddol a phroblemau staffio ers blynyddoedd.

Fis nesaf, bydd y cymorth y mae busnesau bach yn ei gael gyda threthi gan Lywodraeth Cymru yn lleihau.

Dywedodd llefarydd fod y llywodraeth yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu busnesau.

Er yr heriau, mae rhai yn barod i fentro, ond dydy hi ddim yn hawdd.

“Ma’ cost popeth yn mynd lan shwd gymaint, drwy’r amser,” dywedodd rheolwr bwyty newydd Rok yn y Mwmbwls, Debbie Durham.

“Ma’ nhw [y perchnogion] wedi gwneud gymaint o ymchwil mewn i bopeth.

“Sdim rhaid i chi ddod mewn a chael platiau mawr, ma’ nhw’n gallu bod yn blatiau bach, fel nag y’ch chi’n gorfod hala lot.

“Hefyd, ni ddim ond ar agor ar ddydd Iau tan ddydd Sul."

Ond mae’r galw yn uchel a’r busnes yn gwneud yn dda, dywedodd: “Ma’ hi wedi bod mor fishi, ma’ pobl wedi bod ‘nôl dair, pedair, pump gwaith ers i ni agor.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Erin Griffiths, 18, yn fyfyrwraig sy'n gweithio ym mwyty Môr yn y Mwmbwls gan eu bod ond ar agor am dridiau'r wythnos

Mewn bwyty arall, mae perchnogion newydd Môr yn dweud eu bod yn gorfod ymdopi ag elw isel er mwyn sicrhau dyfodol da i’r busnes.

“Mae’n aberth sy’n rhaid i ni wneud fel busnes,” dywedodd Nicola Martin.

“Dy’n ni ddim yn codi prisiau i gyd-fynd gyda chwyddiant.

“Mae’n bryderus ond mae’n rhaid i ni wneud yn siwr fod cwsmeriaid yn dychwelyd.”

Llai o staff gweini

Mae prinder staff wedi bod yn broblem i sawl busnes yn y diwydiant ers blynyddoedd.

Ond dywedodd Erin Griffiths, 18, sy’n gweini ym mwyty Môr fod pethau’n gwella.

“Ma’ ‘na lawer o bobl yn edrych am waith lawr yn y Mwmbwls.

“Ni’n cael pobl yn dod mewn bron bob dydd felly ni wedi bod yn lwcus.

“Ond achos ni ond ar agor am dri diwrnod, dim ond dau o’ ni sydd angen bod ‘ma.”

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Rhian Davies roi'r gorau i redeg tafarn yn Llangatwg oherwydd costau cynyddol

Er bod rhai busnesau’n dechrau mentrau newydd, fe wnaeth 25% o fusnesau lletygarwch Abertawe gau ers y pandemig, yn ôl ystadegau UK Hospitality.

Mae’r corff sy’n cynrychioli busnesau wedi galw sawl gwaith ar Lywodraeth Cymru i wneud tro pedol ar gynllun i dorri cymorth treth i fusnesau o 75% i 40% o’r mis nesaf.

'Biliau, rhent a chost cwrw'n cynyddu'

Roedd y gostyngiad yn y cymorth yn un rheswm pam y bu’n rhaid i Rhian Davies, cyn-berchennog tafarn ger Castell-nedd, roi’r gorau i’r busnes fis diwethaf.

“Gyda’r biliau trydan, gyda phopeth, roedd hi’n ormod,” dywedodd.

“A’th y rent lan, wedyn y cwrw. Daethon ni drwy’r Nadolig ond wedyn Ionawr, Chwefror… na.

“Dwi’n credu bod dyfodol y tafarndai yn mynd lawr.”

Mae cannoedd o fusnesau wedi cau ers y pandemig ond mae addasu modelau busnes yn hanfodol os am lwyddo yn ôl un arbenigwr yn y diwydiant.

“Ma’ busnesau wedi gorfod addasu be’ ‘ma nhw’n ‘neud gyda staff a beth ma’ nhw’n ‘neud gyda adnoddau arall hefyd,” dywedodd Dr Robert Bowen o Brifysgol Caerdydd.

“Wrth gwrs mae ‘na broblemau gyda arian ac mae’n anodd iawn cael help a chymorth i fusnesau.

“Ond dyw hi ddim yn ddu i gyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gyda’r adnoddau a’r pwerau sydd ar gael i ni, i ddarparu cymorth yn y cyfnod anodd hwn.

“Rydym yn darparu ystod o ryddhad ardrethi annomestig parhaol, gwerth £250m yn flynyddol ac wedi’u hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.”