Ymchwiliad twyll i gwmni datblygu â chysylltiadau â Chymru

Cafodd cyrchodd eu cynnal mewn pum lle yng Nglannau Mersi fel rhan o'r ymchwiliad
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad twyll mawr wedi'i lansio i gwmni rheoli asedau sy'n ymwneud â gweithgareddau hamdden.
Mae Seventy Ninth Group o Lannau Mersi yn destun ymchwiliad gan Heddlu Llundain.
Dywedodd yr heddlu fod yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar "achos twyll eang honedig" yn ymwneud â buddsoddwyr yn cael cynnig enillion uchel ar eu benthyciadau.
Dywedodd y llu fod pedwar o bobl wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymgyrch, gydag arfau ac arian parod wedi'u cymryd yn ystod cyrchoedd yng Nglannau Mersi.
Dywedodd y cwmni eu bod "yn gwadu'n bendant gwneud unrhyw beth o'i le".
Ychwanegwyd eu bod yn "parhau i fod yn ymrwymedig i wasanaethu ein cleientiaid yn y DU a ledled y byd".

Fe brynodd y Seventy Ninth Group safle 200 acer ar gyrion Caergybi gan gwmni Land and Lakes ym mis Ionawr
Mae'r cwmni - sydd â'u prif safle yn Southport ar Lannau Mersi - yn disgrifio eu hunain fel cwmni rheoli cyfoeth.
Y Seventy Ninth Group sy'n berchen ar ddatblygiad pentref gwyliau dadleuol ar Ynys Môn.
Fe brynodd y cwmni y safle ym Mharc Arfordirol Penrhos a thir cyfagos ar gyrion Caergybi ym mis Ionawr.
Ym mis Ionawr fe wnaethon nhw gyhoeddi eu bod wedi prynu safle 200 acer ar gyrion Caergybi gan gwmni Land and Lakes.
Y nod oedd adeiladu bron i 500 o gabanau gwyliau fel rhan o gynllun gwerth £250m, gyda gwefan y cwmni yn dweud eu bod yn gobeithio agor y safle erbyn haf 2025.
Er yr addewid y byddai'r datblygiad yn creu cannoedd o swyddi, roedd rhai ymgyrchwyr lleol yn gwrthwynebu'r cynllun ac yn ofni y bydden nhw'n colli mynediad i'r parc, sydd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Yn ogystal â safleoedd hamdden fel Penrhos, mae'r cwmni hefyd yn berchen ar fusnesau cloddio yng Nghanada a Guinea.
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023
Fel rhan o'r ymchwiliad - sy'n cael ei alw yn Operation Mold - mae'r heddlu wedi meddiannu arfau, arian parod a sawl oriawr ddrud.
Dywedodd yr heddlu fod y grŵp wedi cynnig elw o rhwng 12% a 15% ar unrhyw fenthyciadau o dros £10,000, ac yn dweud wrth fuddsoddwyr bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer "eiddo tirol, cyfoeth a'r diwydiant awyrennau".
Yn ôl swyddogion, maen nhw wedi archwilio pum lleoliad sy'n gysylltiedig â'r Seventy Ninth Group ac mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio.
Mae'r pedwar bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau.
Wrth ymateb, dywedodd prif weithredwr Cyngor Ynys Môn, Dylan Williams fod yr honiadau yn "achos pryder gwirioneddol".
"Nid ydym yn bwriadu gwneud sylw pellach tan fod ymchwiliad yr heddlu, neu unrhyw brosesau cyfreithiol, wedi eu cwblhau," meddai.
Mae'r heddlu yn galw ar unrhyw un sydd yn gweithio i'r cwmni, neu sydd wedi derbyn neges gan fuddsoddwyr i gysylltu â nhw.