'Ffodus fod pawb yn fyw' ar ôl i dirlithriad daro fferm

Yr olygfa yng nghartref Emyr OwensFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn un o ystafelloedd gwely y tŷ wedi'r storm

  • Cyhoeddwyd

Dri mis ers i Storm Bert achosi difrod mewn sawl rhan o Gymru, mae ffermwr yn dweud fod y teulu yn "lwcus iawn i fod yn fyw" ar ôl i dirlithriad ddinistrio cartref ei fab a'r teulu drws nesaf yn ystod glaw trwm.

Dywedodd Emyr Owens eu bod wedi gorfod clirio 450 tunnell o wastraff o'u fferm yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, sir Wrecsam.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd fod y digwyddiad wedi effeithio ar bawb yn y teulu, yn enwedig y plant.

"Rydan ni 'di bod yn lwcus iawn - 'chydig o funudau ynghynt roedd y plant ar y buarth - roedd yn brofiad neith rhywun fyth anghofio," meddai.

Mae Emyr Owens yn cofio digwyddiadau 23 Tachwedd y llynedd yn glir.

Roedd eu merch, Sioned yn eu helpu nhw i symud dodrefn yn y tŷ ac roedden nhw wedi mynd â'r chwech o blant i dŷ ei fab a'i ferch-yng-nghyfraith drws nesaf.

"Roedd Sioned yn dod yn ei hôl ac mi ddoth y dŵr mwyaf dychrynllyd o'r mynydd nes o'dd rhaid iddi neidio o'r ffordd... mi nath y pick up truck fynd lawr y ffordd fatha rhyw toy bach.

"Odd hi'n ofnadwy - welish i 'rioed y ffasiwn ddŵr – ar ei waethaf o'dd o chwe troedfedd o flaen y tŷ 'ma."

Llun o gyntedd Emyr OwensFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Owens eu bod wedi gorfod malu'r ffenest i gael ei ferch a'r plant allan o'r tŷ

Eglura Emyr eu bod wedi rhuthro i dŷ ei fab a'i ferch yng nghyfraith er mwyn achub ei ferch a'r plant.

"Roedd y plant a'r ferch yng nghyfraith yn y tŷ... ro'dd y drws wedi ei blygu oherwydd bod y coed 'di mynd yn erbyn wal y tŷ.

"Odda' ni methu cael nhw allan drwy'r drws a ro'dd rhaid i ni hanner falu'r ffenest i gael nhw allan," meddai.

"Rydan ni 'di bod yn lwcus iawn... 'chydig o funudau ynghynt roedd y plant ar y buarth. Roedd yn brofiad neith rhywun fyth anghofio a diolch fod pawb yn iawn."

Beic o dan y mwdFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y teulu fod y plant yn chwarae y tu allan funudau cyn y tirlithriad

Ychwanegodd fod "costau dychrynllyd" i drwsio'r difrod.

"Mae wal talcen y tŷ wedi malu yn rhacs a'r porch - dim sôn am hwnnw - ac mae 'di malu drysau'r cytiau lle o'dd y gwartheg."

Mae'n egluro bod glaw trwm wedi disgyn yn ystod Storm Bert a bod "14 modfedd o eira a lluwchfeydd ar y ddau fynydd" wnaeth ddechrau toddi wrth iddi gynhesu, gan achosi tirlithriad.

"Blynyddoedd lawer yn ôl, roedd ffermwyr yn agor ffosydd... mae 'na rhai ffermwyr sy' 'di cau ffosydd ond y rheswm i gau ffosydd ydi i gadw dŵr fyny ar y mynyddoedd 'ma.

"A pan 'da chi'n llenwi cwpan efo dŵr ac yn dal i lenwi, ma' hi'n gorlenwi."

Emyr Owens
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emyr Owens eu bod yn dal i geisio tacluso'r difrod

Dywedodd fod y tirlithriad wedi difrodi drysau a ffensys lle'r oedd y gwartheg, a'u bod nhw wedi dod allan.

"'Da ni 'di cario 300 tunnell o silt drosodd oedd wedi golchi lawr o'r buarth ei hun, ac o ran tŷ'r mab a'r ferch yng nghyfraith – o'dd 15 o goed 'di dod lawr at dalcen y tŷ a 'di mynd fewn drwy'r wal gerrig nes o'dd y gwely... yn llawn o gerrig mawr.

"'Da ni'n ffodus iawn bod o 'di digwydd am 14:00 a ddim am 02:00. Dwnim be fysa hanes pethau."

Tirlithriad ar dir fferm Emyr Owens, Llanarmon Dyffryn Ceiriog.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd yr olygfa ar fferm Emyr Owens wedi'r tirlithriad yn dilyn Storm Bert

Eglura Emyr fod y digwyddiad "wedi effeithio arnon ni gyd" a'i fod "ar feddwl rhywun o hyd".

"Mae o 'di cael effaith ar y plant – doedden nhw ddim isho dod i fyny yma... doedden nhw ddim isho gweld be o'dd wedi digwydd na dim byd.

"Nathon ni ddim cysgu am nosweithiau ar ôl iddo ddigwydd oherwydd oddan ni'n meddwl beth fysa wedi digwydd yn lle bod yn ddiolchgar bod o ddim wedi digwydd.

"Da ni'n ffodus bod pawb yn fyw ac yn iach yma. Dwi 'rioed di gweld dim byd tebyg."

450 tunnell o wastraff

Dywed Emyr eu bod wedi clirio "450 tunnell o stwff o'r buarth ond mae 'na lot o ffensys dal angen eu trwsio".

Mae'n dweud bod o leiaf 200 tunnell yn dal i fod ar waelod y tir ond fod y tywydd wedi bod "yn rhy wlyb i'w symud".

"Mae 'na chwe modfedd o'r silt di mynd i'r caeau... mae 'na domennydd anferthol angen eu clirio yna," ychwanegodd.

Cartref Emyr OwensFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cyfuniad o law trwm ac eira yn toddi achosodd y tirlithriad, yn ôl Emyr Owens

"Rhaid i'r dŵr gael lle i fynd – mae gennym ni afon Ceiriog sy'n un o'r cyflymaf yng Nghymru. Mae 'na silt ofnadwy 'di hel dros y blynyddoedd ond gan fod y rheolau 'di newid, chawn ni ddim mynd yn agos at yr afon.

"Os ai i'r afon i drio dyfnhau 'chydig arni... ga i £2,000 o ddirwy a does 'na ddim math o reswm dros hynny. Mae'r afonydd yn llawn silt... ac mi fydd yn mynd drosodd eto.

"Rhaid i 'wbath gael ei neud – allwn ni ddim derbyn bod y dŵr yn mynd drosodd ar y caeau a neud mess bob blwyddyn."

Dywedodd Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn gwneud penderfyniadau ar sut orau i reoli'r risg gynyddol o lifogydd ar sail safleoedd penodol, gan ddefnyddio gwybodaeth arbenigol a thystiolaeth o sut y gall pob afon ymateb wrth i ni dynnu gwaddodion.

"Bydd carthu yn cael ei ystyried, ochr yn ochr â dulliau eraill i reoli cwrs dŵr, pan fyddwn yn asesu sut i reoli risg llifogydd.

"Mewn rhai amgylchiadau, ni fydd carthu yn ateb cynaliadwy tymor hir nac yn gost-effeithiol o gymharu â dulliau eraill o reoli risg llifogydd, megis gweithio gyda phrosesau naturiol."

Pynciau cysylltiedig