Erin Richards: 'Rhywbeth braf am ddod adref i Gymru'
- Cyhoeddwyd
Yn wyneb cyfarwydd ers ei gwaith ar gyfresi mawr fel Crash a Being Human, mae'n deg dweud fod bywyd yr actores Erin Richards wedi newid yn llwyr yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Wedi cyfnod o fyw yn Efrog Newydd a gweithio ar gyfresi poblogaidd fel Gotham, mae'r actores o Benarth wedi dychwelyd i Gymru er mwyn cael ei phlentyn cyntaf ac er mwyn gweithio yn Gymraeg eto.
Fel mae'n dweud mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, ei rôl yn y ddrama newydd S4C Ar y Ffin yw'r tro cyntaf erioed iddi actio mewn cyfres teledu fawr yn y Gymraeg: "Oedd saethu Ar y Ffin yn hyfryd – dod nôl i Gaerdydd ac i Gasnewydd (lleoliad y gyfres) a dod yn ôl i griw Cymraeg.
"Dw i wedi treulio llawer o fy ngyrfa actio yn America, sy' hefyd yn wych, ond roedd rhywbeth braf iawn am ddod adref i Gymru.
"Des i nôl blwyddyn a hanner yn ôl a ges i fy mab i, River, fan hyn yng Nghaerdydd. Felly o'n i'n hapus iawn i gael job oedd yn cadw fi yma."
Wedi profi cryn lwyddiant yn America, mae'r actores yn falch i gael y cyfle i gychwyn teulu yng Nghymru: "Cael River oedd y rheswm i fi symud yn ôl – o'n i moyn cael e gartre, ges i home birth ac o'n i ishe neud e gyda'r NHS.
"Dwi'n dwlu am yr NHS ac mae am ddim – sei'n meddwl bod pobl yn sylweddoli os nad oes yswiriant 'da chi yn America mae cael babi yn gallu costio rhyw £20k ac os mae unrhyw beth yn mynd yn anghywir...
"O'n i'n lwcus iawn - ges i River adre mewn dŵr gyda fy ngŵr i yna. Oedd e'n lyfli, oedd 'da fi doula ac o'n i'n rili hapus."
Llwyddiant
Ar ôl rhannau mewn cyfresi BBC fel Crash a Being Human, cafodd Erin ei rôl gyntaf mewn cynhyrchiad mawr yn America gyda Gotham ac mae'n cofio ei hamser ar y gyfres fel profiad hapus: "Mae pobl yn gofyn beth oedd e fel i fod ar Gotham.
"Ac oedd e'n grêt ond o'n i jest yn cymryd popeth wrth iddo ddigwydd ac wedyn ti jest yn hapus mewn pob sefyllfa a ti'n gallu enjoio popeth.
"Dwi'n lwcus i allu weithio fel actor neu cyfarwyddwr ond dwi hefyd jest ishe bod yn rhan o dîm o bobl sy'n enjoio neud rhywbeth creadigol.
"Dwi ddim wedi colli (y teimlad) hwnna a gobeithio 'na'i byth golli hwnna."
Ffilmio'n ddwyieithog
Er fod Erin wedi cychwyn ei gyrfa teledu yn Gymraeg fel cyflwynydd ar raglen S4C Mosgito, ei rhan fel yr ynad Claire Lewis Jones yn y gyfres Ar y Ffin yw'r tro cyntaf iddi ffilmio cyfres yn ddwyieithog (bydd fersiwn Saesneg y gyfres, Mudtown, ar UKTV) ac roedd yn help mawr gyda'i sgiliau iaith.
Meddai: "Oedd e rili 'di helpu Cymraeg fi, sei'n siarad lot o Gymraeg oherwydd dydy fy rieni i ddim yn siarad Cymraeg. Mae chwiorydd fi yn, ond Saesneg yw iaith y cartref.
"Tadcu o'n i arfer siarad Cymraeg gyda ond 'nath e farw cwpl o flynyddoedd yn ôl (roedd tadcu Erin, Aneurin Richards o Rydaman, yn gynghorydd Plaid Cymru dros Islwyn).
"Ac yn amlwg doedd ddim lot yn siarad Cymraeg yn Efrog Newydd – dwi'n teimlo lot fwy hyderus nawr yn siarad Cymraeg."
Roedd y newid iaith yn ddylanwad ar ei chymeriad yn y gyfres, yn ôl yr actores: "Roedd cymeriad fi yn newid rhwng y ddwy iaith – oedd e'n neis cael chwarae Claire yn Gymraeg ac weithiau mae pethe'n swnio yn well yn Gymraeg.
"Mae'r iaith yn fwy barddonol, mae mwy o bŵer yn dy eiriau di.
"Roedd y ddwy iaith 'da ni yn y sgriptiau ac weithiau pan oedd rhywbeth ddim cweit yn neud synnwyr i fi yn Saesneg o'n i'n mynd i'r Gymraeg ac yn deall beth oedd e'n meddwl.
"Oedd e'n broses anodd i ddechrau gyda – brên fi ddim cweit yn barod i neud dau olygfa back to back ond hanner ffordd drwy'r gyfres 'nath rhywbeth glicio ac oedd e'n dod lot haws i switchio nôl a mlaen rhwng y ddau."
Mae Erin hefyd yn cyfarwyddo ac yn gweithio ar hyn o bryd ar ail gyfres Y Golau gyda Iwan Rheon a Joanna Scanlan sy' hefyd yn ffilmio yng Nghymru.
Mae'n mwynhau bod adref: "Mae'n eitha' gwahanol o ran mae Efrog Newydd yn lle cyflym iawn – mae lot o sŵn, mae lot o bobl.
"Mae fel Llundain ar steroids so mae hwnna yn rili ecsiting i fod yn ran ohono ond erbyn i fi gael River oedd e'n ormod i fi. Nawr dwi lot hapusach yn ôl yng Nghymru yn gallu mynd i barciau a ddim sŵn traffig bob dydd a nos."
Ac mae'n mwynhau bod yn ôl ar ôl hiraethu am sawl peth yng Nghymru, yn arbennig, meddai: "Ffrindiau a pybs.
"S'dim lot o pybs yn America. Mae rhywbeth neis am fynd i pyb gyda ffrindie ar ddydd Sul a chael roast a tân ymlaen."
Er gwaethaf ei llwyddiant yn Gotham, mae Erin yn dweud mai'r peth mae hi mwyaf balch ohono yw: "Y ffaith bod fi wedi cadw yr un ffrindiau a chadw yr un fath o edrychiad ar fywyd.
"Oherwydd dwi wedi bod mewn pethau sy'n gyfresi American mawr, yn ddrud ac yn gyffrous a dwi wedi bod mewn ffilmiau sy' ddim hyd yn oed wedi cael eu gorffen oherwydd fod yr arian wedi rhedeg allan, ond dwi wastad jest yn ddiolchgar a mwynhau'r sefyllfa dwi ynddi.
"Mae bach fel safbwynt Buddhist o enjoio popeth a pheidio cymharu."
Nid Erin yw'r unig actores o Benarth i brofi llwyddiant mewn cyfresi rhyngwladol gyda Morfudd Clarke hefyd yn seren The Lord of the Rings. Bu'r ddwy yn gweithio gyda'i gilydd yng nghynhyrchiad Starve Acre.
Felly beth sy'n arbennig am Benarth?
Meddai Erin gan chwerthin: "Mae'n od gyda Morfudd oherwydd mae siwrne bywyd y ddwy o ni yn rili debyg. Jest rhywbeth yn y dŵr."
Cadw bywyd yn breifat
Er fod Erin wedi siarad ychydig am ei bywyd personol ar bodlediad Not Not Trying gyda Tara Bethan, mae hi'n dilyn esiampl rhai o'i hoff actorion o ran peidio rhannu ei bywyd preifat ar-lein: "Beth dwi ddim yn neud yw neud lot o instagram posts am fy mywyd preifat.
"Dwi'n teimlo unwaith ti'n agor y drws yna sei'n siŵr lle mae'n stopio. Sa i moyn rhoi lluniau o River lan achos dwi'n meddwl fod hwnna yn rhywbeth dyle fod yn benderfyniad i River yn y dyfodol i neud.
"Oedd yr actorion o'n i'n edrych i fyny at fel Cate Blanchett byth yn rhoi pethau am eu bywyd preifat lan. Oedd 'na elfen o mystery iddi nhw a dwi'n meddwl fod hynny yn rhywbeth neis gyda actorion oherwydd os ti'n gwybod popeth amdani nhw, se i'n meddwl bod e'n teimlo mor sbeshal."
Beth nesaf i'r actores felly?
Mae Erin yn awyddus i actio a chyfarwyddo, meddai: "Licen i neud y ddau – o'n i wedi mynd mwy tuag at cyfarwyddo cyn neud Ar y Ffin ond nes i joio neud y gyfres cymaint, dwi nawr moyn neud y ddau."
Gwyliwch Ar y Ffin ar S4C ar 29 Rhagfyr neu ar BBC iplayer.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd4 Medi 2024