Tara Bandito: 'Be' ydy badass yn Gymraeg?'
- Cyhoeddwyd
Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i Tara Bandito ofyn i ni "Wyt ti'n hoff o dy hun?" yn ei chân Blêrr – cân sydd wedi cael ei ffrydio ddegau o filoedd o weithiau a sydd bellach yn anthem i bobl ym mhob twll a chornel o Gymru.
Yn fuan wedi hynny daeth albym a degau o sioeau i ddod â chaneuon fel Croeso i Gymru, Rhyl, a Drama Queen yn fyw. Ond nawr, mae Tara yn rhoi ail-fywyd i'r albym wrth ryddhau Tara Bandito Deluxe.
"Dw i 'di deud o'r dechrau; mae'r albym yma wedi bod yn hunangofianol iawn o gyfnod o alaru o bymtheg mlynedd," eglurodd.
"Mewn ffordd be' wnaeth perfformio'r albym, y noson yna especially, oedd 'naeth o fynd â fi ar siwrne hollol newydd o cleanseio'r galaru 'na, a bron troi o fewn i rhywbeth o'n i, mewn ffordd, yn gallu chwerthin amdano fo."
Mae Tara yn sôn am noson lansiad yr albym yng Nghlwb Ifor Bach ym mis Chwefror 2023, lle cafodd ei chario drwy'r gynulleidfa mewn arch gaeedig cyn codi ohoni mewn leotard ddu a gloyw i ganu cân am farwolaeth ei thad, y diweddar Orig Williams, sef Six Feet Under.
Ro'n i yno ac roedd yn drawiadol iawn, ond sut brofiad oedd o i Tara?
Arch a leotards
"Oedd o'n weird ond oedd o'n fwy exhilarating na 'swn i wedi gallu dychmygu.
"O'n i'n meddwl, oedd Mam yn y gynulleidfa, sut oedd o iddi hi? I wylio ei gŵr hi a'i merch hi mewn montage of death tra mae ei phlentyn hi yn cael ei chario drwy'r gynulleidfa mewn arch? Ond roedd Mam a Dad yn bobl showbusiness a reslo. Mae'n siŵr bod hi wedi gweld pethau mwy weird.
"Dw i'n meddwl isio rhoi bys i fyny at alar o'n i yn y diwedd; fel dweud 'ti ddim yn cael rheoli fi dim mwy, dw i'n mynd i neud big old sioe allan o hyn.'"
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Nawr, mae Tara wedi rhyddhau fersiwn estynedig o'r albym hwnnw sy'n cynnwys traciau byw a fersiynau Cymraeg o ddwy gân a oedd yn wreiddiol yn Saesneg, sef Unicorn a Woman.
Be' oedd yr ysgogiad i gyfieithu'r caneuon? Mae'n rhaid bod rheswm penodol pam y daethon nhw iddi yn Saesneg yn wreiddiol. Dywedodd:
"Mi oedd 'na gymaint o euogrwydd arnaf i yn rhyddhau'r albym i ddechrau, yn meddwl, dw i wedi cael fy ngyrfa i gyd drwy'r iaith Gymraeg fwy neu lai, ac mae'r bobl sydd yn fy nabod i [fel perfformiwr] yn fy nabod i drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Ydi pobl yn mynd i fod yn offended neu'n upset bod fi'n dod ag albym allan sy'n fwy na lai 50/50 o ran Cymraeg a Saesneg?"
Mae'n pwysleisio nad oedd erioed yn benderfyniad bwriadol i wneud albym, heb sôn am ddewis ym mha iaith i ryddhau un. Fe ddaeth caneuon fesul un yn ara' deg, a chyn pen dim roedd digon ganddi i ryddhau cyfanwaith.
"O'n i'n cerdded o gwmpas efo'r panig 'na o ydi pobl yn mynd i fod yn siomedig fod o i gyd ddim yn Gymraeg? Ond o'n i'n meddwl hefyd mae'n rhaid i mi fod yn driw i fy stori a roedd fy stori i yn y ddwy iaith yna."
Cafodd Tara ei magu mewn tŷ dwyieithog; nid yw ei mam yn siarad Cymraeg.
"Dim creu albym o'n i [pan o'n i'n sgwennu'r caneuon], dweud stori fy siwrne o'n i."
Dywedodd Tara fod canu'r caneuon droeon dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi rhoi cyfle iddi edrych ar y caneuon o safbwynt arall a meddwl tybed a fydden nhw'n gweithio yn yr iaith arall, a phenderfynu rhoi cynnig arni.
"Nes i ddechrau gweithio arno fo, a dw i yn golygu rili gweithio arno fo achos dydi o ddim yn hawdd, dw i wedi darganfod, cyfieithu o Saesneg i Gymraeg, nac o Gymraeg i Saesneg actually. Ond o Saesneg i Gymraeg, flippin heck, oedd o'n real challenge.
'Fysan nhw ddim yn cael gwrando tasan nhw wedi aros yn Saesneg'
"Dw i yn gobeithio pan mae pobl yn gwrando ar y caneuon eu bod nhw yn teimlo yr un galon yna, yr un enaid â'r gân gafodd ei sgwennu yn yr iaith wreiddiol."
Ond roedd un grym arall yn ei gyrru hi i ailedrych ar y caneuon hefyd, sef ei ffans ifanc.
"Do'n i'm yn disgwyl cael gymaint o blant Cymraeg yn dod i fy gigs i – reit yn y ffrynt efo baneri ac yn tynnu lluniau ac yn anfon fanmail! Mae'n nyts. Ond ti isio iddyn nhw gael gwrando ar y caneuon yna yn yr ysgol er enghraifft, a fysan nhw ddim yn cael tasan nhw jyst wedi aros yn Saesneg."
Un peth sy'n dod i'r amlwg wrth siarad am ganeuon sy'n ymrymuso merched fel mae rhai Tara, ac yn enwedig y ddwy sydd wedi'u cyfieithu ar yr albym estynedig, ydy bod yr eirfa Gymraeg sydd ar gael i ymrymuso merched yn brin ac anystwyth.
Tybed a oedd hynny'n cyfrannu at pam mai yn Saesneg y daethon nhw'n wreiddiol?
"Pan o'n i'n 'rysgol doedd 'na ddim merched yn 'neud brwydr y bandiau er enghraifft. Doedd na ddim badasses pan o'n i'n 'rysgol.
'Os oedd rhywun yn mynd i fod yn badass oedd o'n fi!'
"O'n i'n ferch i reslar ac yn tyfu fyny'n Rhyl – os oedd rhywun yn mynd i fod yn badass, 'sa fo'n fi. Ond nes i greu'r cymeriad 'ma, neu gafodd o'i greu i mi, o'r hogan neis oedd yn gwenu a heb lot i'w ddweud.
"Arwresau fi ydi pobl fel MIA, Lily Allen, Beyoncé – badasses ydi'r unig air alla i feddwl am. Be' ydi'r gair Cymraeg am badass? Does 'na ddim un!
"Pan o'n i'n cyfieithu Woman, y llinell Step out of your own way, now slay o'n i'n meddwl be' ydi slay yn Gymraeg?"
Ac os gwrandewch chi ar y gân yn Gymraeg, mae'r llinell honno wedi aros yn y Saesneg.
"Dw i yn meddwl 'da ni angen sbïo ar ein geirfa ni tuag at ferched yng Nghymru erbyn hyn, achos mae 'na badasses yma rwan yn slay-io dros y siop! Ond sut ydan ni'n fod i ddeud hynna yn Gymraeg?"
"'Da ni'n gwella fel gwlad, a dyna mae Croeso i Gymru amdan 'de? Ond arglwydd mae 'na le i fynd."
Oes, mae ffordd i fynd ond mae Tara ar flaen y gad yn prysur gerfio'r llwybr ar gyfer y genhedlaeth nesaf o badasses!
Bydd mwy o gerddoriaeth newydd gan Tara Bandito i'w chlywed yn 2025.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Hydref
- Cyhoeddwyd7 Awst
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf