Sefydlu grŵp rhedeg yng Nghaernarfon yn dilyn profiad 'dychrynllyd'

Catrin a'r ffrindFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe sefydlodd Catrin (chwith) glwb rhedeg merched yng Nghaernarfon ar ôl iddi gael profiad annifyr tra'n rhedeg ar ei phen ei hun

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc o'r Felinheli wedi sefydlu grŵp rhedeg i ferched yng Nghaernarfon er mwyn sicrhau fod merched yn teimlo'n ddiogel wrth redeg yn yr ardal.

Fe gafodd Catrin Mather brofiad annifyr tra'r oedd hi allan yn rhedeg ar ei phen ei hun fis Mai.

Cafodd ei dilyn gan ddieithryn a bu'n rhaid iddi alw'r heddlu.

Dywedodd fod y digwyddiad wedi ei "dychryn yn llwyr" a bod sefydlu'r clwb yn gyfle i ferched ddod at ei gilydd a chael rhedeg mewn awyrgylch saff a chefnogol.

Fe ddatgelodd ymchwil gan gwmni Adidas fod 92% o ferched yn teimlo'n anghyfforddus tra’n rhedeg ar eu pen eu hunain.

Gyda nifer o glybiau tebyg wedi eu sefydlu ledled Cymru, dywedodd Gwen Owen, sylfaenydd Clwb Merched Môn, ei fod "mor empowering" gweld merched yn cefnogi ei gilydd.

Digwyddiad yn 'wake up call'

Ers ei sefydlu dair wythnos yn unig yn ôl, mae dros 180 o fenywod yr ardal eisoes wedi ymaelodi â 'Rhed Rownd Dre'.

Wrth siarad â Cymru Fyw, fe ddisgrifiodd sylfaenydd y grŵp, Catrin Mather, sut y cafodd ei dilyn gan ddyn tra'r oedd hi allan yn rhedeg ar ei phen ei hun ym mis Mai.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae criw Caernarfon yn cwrdd yn wythnosol i redeg 5km o amgylch yr ardal

Dywedodd ei bod wedi "gorfod galw'r heddlu... a dim ond dwywaith dwi wedi rhedeg ben fy hun ers hynny achos mae wedi fy nychryn i'n hollol."

"Mae lot yn teimlo fel merched ei bod hi'n anoddach i redeg yn y gaeaf gan fod hi'n dywyll a ddim yn teimlo mor saff ella.

"Oedd o'n ofnadwy achos dwi wedi bod yn rhedeg ers Covid, a dw i erioed wedi gorfod meddwl am y peth... ond 'naeth o ddychryn fi achos oedd o'n bach o wake up call mewn ffordd, bo fi angen cofio bod angen i fi gadw'n saff."

Teimlad 'empowering' gweld cymaint yn dod ynghyd

Mae'r criw o ferched yn cwrdd yn wythnosol ac yn gorffen y daith yn siop 'Jac y Do' er mwyn "cefnogi busnesau lleol".

Dywedodd Catrin ei fod yn deimlad "empowering" a'i fod "mor neis gweld cymaint o ferched yn dod at ei gilydd, a jyst gwybod fod pawb yna i gefnogi ei gilydd".

“Dwi’n meddwl fod o’n gyfle da i bobl fynd allan, cael awyr iach, switcho ffwrdd ar ôl gwaith… neud byd o les i iechyd meddwl".

Mewn ymchwil gan gwmni Adidas, a oedd yn cynnwys 9,000 o redwyr, dywedodd 92% o fenywod eu bod yn poeni am eu diogelwch, gyda nifer uchel yn dweud eu bod yn poeni y gallen nhw brofi ymosodiad corfforol.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp rhedeg merched Môn wedi ei sefydlu ers sawl mis ac yn mynd o nerth i nerth

Draw ar Ynys Môn, mae grŵp rhedeg Merched Môn wedi ei sefydlu ers sawl mis ac yn mynd o nerth i nerth.

Dywedodd sylfaenydd y grŵp, Gwen Owen, sy'n athrawes yn Ysgol Bodedern, ei bod wedi cael digon o redeg ar ei phen ei hun.

Ar ôl gweld clybiau tebyg yn cael eu sefydlu mewn dinasoedd, fe benderfynodd sefydlu un ar gyfer merched Môn.

"Mae'n rili neis, doedd 'na ddim byd fel'ma yma, mae wedi tyfu lot ers i ni ddechrau.

"Mae cymaint ohonyn nhw [aelodau’r grŵp rhedeg] yn deud bod nhw'n teimlo'n saff yn mynd allan i redeg ac yn hyderus yn trio gwneud pethau gwahanol.”

Dywedodd fod sefydlu'r grŵp wedi bod yn gyfle i ferched yr ardal greu ffrindiau a chymdeithasu heb fod pwyslais ar yfed alcohol.

"Ma' tyfu fyny yn eich 20au mor anodd i neud ffrindiau, ond ma' gennym ni grŵp rili cefnogol, rili ffeind yma.”

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwen Owen, sylfaenydd y grŵp ei fod yn "rili neis, doedd 'na ddim byd fel'ma yma, mae wedi tyfu lot ers i ni ddechrau"

A hithau wedi bod yn rhedeg ers dros flwyddyn bellach, dywedodd fod rhedeg mewn grŵp yn deimlad braf a diogel.

Dywedodd ei bod yn cario larwm atal trais a chwistrellydd a bod ganddi oleuadau ar ei fest wrth redeg er lles ei diogelwch.

Gyda'r grŵp yn cwrdd ar sawl achlysur yn ystod yr wythnos mewn gwanhaol ardaloedd ar Ynys Môn, dywedodd fod y criw "fel Merched y Wawr" yn sgwrsio ac yn cefnogi ei gilydd.

"Ma' lot o'r criw yn dweud eu bod wedi creu ffrindiau oes yma".

Ei gobaith yw gweld y grŵp yn parhau, ac i annog mwy o ferched i gymdeithasu wrth redeg.

Pynciau cysylltiedig