Pino Palladino: O Jarman a'r dociau i Adele ac LA

  • Cyhoeddwyd

Mae’n un o chwaraewyr gitâr fas gorau’r byd ac wedi gweithio efo cerddorion lu - o Elton John, i Beyoncé i D’Angelo. Ond mae Pino Palladino yn diolch i’w wreiddiau yn sin gerddoriaeth Caerdydd am ei yrfa lewyrchus, fel fu’n sôn wrth Cymru Fyw ar drothwy ymddangosiad prin yn y brifddinas.

Disgrifiad o’r llun,

Pino Palladino yn Glastonbury yn 2015

Mae darllen rhestr o’r artistiaid mae Pino Palladino wedi chwarae gyda nhw fel darllen llyfr am hanes pop: Simon and Garfunkel, Elton John, Gary Newman, Phil Collins, De La Soul, D’Angelo, Harry Styles, Nine Inch Nails, Beyoncé...

Ei gitâr fas o sydd i’w glywed ar ddau o’r albymau sydd wedi gwerthu orau erioed - 21 gan Adele a Divide gan Ed Sheeran – ac roedd stamp ei sain yn amlwg ar gerddoriaeth pop yr 1980au.

Ond fe ddechreuodd y cyfan i Pino Palladino yn nociau Caerdydd yr 1970au – a chyfres deledu Cymraeg i blant wnaeth ei orfodi i chwilio am waith tu hwnt i’w filltir sgwâr.

A nawr mae’n dychwelyd o Los Angeles i wneud cyngerdd yn ardal ei blentyndod fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, y ddinas wnaeth sbarduno ei gariad at gerddoriaeth.

Ffynhonnell y llun, Chris Walter/WireImag/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Pan fu farw basydd The Who, John Entwistle, yn 2002 fe ofynnodd y grŵp i Pino Palladino gamu i mewn - dim ond pedwar diwrnod cyn noson agoriadol eu taith, yma yn The Hollywood Bowl

Baglu i mewn i’w yrfa wnaeth o, meddai Pino. Y disgwyliad oedd y byddai’n gweithio yn y busnes teuluol - tŷ bwyta Eidalaidd ar City Road, ond sydd wedi symud bellach i ardal Yr Eglwys Newydd.

Ond wedi ei fagu yn ardal Parc Fictoria, Canton, i fam Gymreig oedd yn caru cerddoriaeth a thad oedd wedi chwarae drymiau mewn bandiau yn Yr Eidal cyn symud i Gymru, fe ddatblygodd ‘na ddiddordeb mewn cerddoriaeth.

Dysgodd y gitâr pan oedd o’n 14 yn yr ysgol Gatholig cyn sefydlu band o’r enw Trapper gyda’i ffrindiau a chwarae covers yng nghlybiau Caerdydd a’r Cymoedd.

Myfyr Isaac a cherddorion eraill

O fewn dim cerddoriaeth oedd ei fywyd, ac roedd yn treulio ei amser rhydd yn rhai o leoliadau eiconig dociau Caerdydd. Yno daeth i adnabod cymeriadau sydd bellach yn adnabyddus yn y byd canu pop Cymraeg.

Un o’i gyd-aelodau yn Trapper oedd John Sloman, aeth yn ei flaen i chwarae gyda Uriah Heep a Lone Star.

“Trwy John Sloman wnaethon ni glywed am y gitarydd yma o’r enw Myf Isaac,” meddai Pino. “Pan ti’n 16, ti’n clywed am yr holl gerddorion ffantastig yma sy’n denu dy sylw, felly wnaethon ni gnocio ar ddrws y fflat lle roedden ni’n meddwl oedd e’n byw. Roedden ni isho iddo fe chwarae ar rai caneuon oedda ni’n gobeithio eu recordio.”

Ddigwyddodd hynny ddim ond daeth i adnabod Myfyr Isaac - aeth yn ei flaen i ffurfio Bando a Jîp gyda’i wraig Caryl Parry Jones.

Fe wnaeth Pino hefyd ddod yn ffrindiau gyda Richard Dunn ac Arran Ahmun, a ffurfio The Outsiders gyda nhw a Tony Etoria, Jeff Connors a Dubans Ahmun ar ddiwedd yr 1970au.

Loudoun Square, reggae a funk

“Roedden ni’n arfer chwarae lawr yn y Paddle Steamer Pub yn Loudoun Square, Bae Caerdydd, oedd ychydig yn rough ar y pryd,” meddai Pino.

“Roedd ‘na lot o reggae a gwahanol fathau o fiwsig pobl ddu a roedde ni’n chwarae yno bob wythnos. Wnaeth pobl ddechrau dod lawr i’n gweld ni achos roedde ni’n chwarae gigs disco fusion, a miwsig pop funky. Dwi’n meddwl bod Endaf (Emlyn) yn ffan ac mae’n siŵr yn meddwl ‘falle alla i ddefnyddio’r bois yma’.

“Dwi’n cofio Meic (Stevens) yno, roedd yn dipyn o gymeriad, dwi’n meddwl nes i chwarae unwaith neu ddwy gyda fe hefyd yn Theatr y Sherman. A Geraint Jarman - ac roedd ‘na gysylltiad gyda fe drwy Myf a Tich Gwilym hefyd, oedd yn chwarae gyda Geraint.

“Dwi’n meddwl mai fi a Richard ac Arran, ni oedd fel y rhythm section y dydd - unwaith roedd pobl wedi clywed ni roedd pobl eisiau ni chwarae ar eu records.”

Disgrifiad o’r llun,

Geraint Jarman yn y llun eiconig ohono yng Nghaerdydd

Fe wnaeth Pino chwarae - ond ddim recordio - gyda Jarman, ac aeth Richard ac Arran ymlaen i fod yn aelodau llawn o’r Cynganeddwyr.

Roedd band Pino hefyd yn cael dipyn o waith ‘sesiwn’ yn chwarae ar wahanol raglenni HTV, oedd yn ardal Pontcanna ar y pryd.

O Ffalabalam i Jools Holland

Wrth i'r 70au droi i'r 80au daeth newid ar fyd.

Ar ôl i'r band gael cynnig rhai misoedd o waith gyda’r gyfres plant Ffalabalam fe benderfynodd y cynhyrchwyr nad oedd digon o arian i dalu am gitâr fas.

Gyda gweddill y band yn cael eu cyflogi, roedd Pino allan o waith - tan iddo ddod ar draws ffrind iddo oedd yn chwaraewr sacsoffon.

“Ddudodd e ‘mae ‘na foi lawr yn Llundain o’r enw Jools Holland sy’n chwilio am chwaraewr bas… pam 'nei di’m dod lawr?’ Do’n i’m yn gwybod dim byd am Jools Holland na Squeeze ar y pryd. Felly es i lawr i Lundain, cael clyweliad, ddaethon ni mlaen a dyna ni. Nes i erioed edrych nôl.

“Nes i ddechrau cael gwaith drwy chwarae gyda Jools, cyfarfod Kirsty MacCall a recordio gyda hi a wnaeth hynny arwain at bob math o bethau. Yn y diwedd ges i’r cyfle i chwarae gyda Gary Newman ac o’n i ar Top of the Pops gyda’r fretless bass.”

Ffynhonnell y llun, SAIN
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Pino Palladino recordio ar Dawnsionara, gan Endaf Emlyn, yn 1981

Ei sŵn o ar yr offeryn yma - bas sydd heb nodau wedi eu marcio ar wddf y gitâr ac felly’n galluogi chwarae rhwng y nodau - ddaeth â llwyddiant i Pino Palladino drwy’r 1980au.

Mae’n amlwg ar Wherever I Lay My Hat (That’s my Home) gan Paul Young, er enghraifft, a New York Minute by Don Henley.

Yn ystod y cyfnod yma, daeth yn ôl i Gymru i recordio yn Sain gydag Endaf Emlyn ar yr albwm Dawnsionara yn 1981 a Ladi Wen gan Caryl a’r Band, yn 1983, gafodd ei gynhyrchu a’i gyd-ysgrifennu gan Myfyr Isaac.

Wedi hynny fe recordiodd gydag artistiaid lu gan gynnwys Go West, Chaka Khan, Joan Armatrading, Eric Clapton, The Christians, Seal, Bee Gees, De La Soul, Pavarotti a Jeff Beck.

D'Angelo a dylanwad y dociau

Yna ar ddiwedd yr 1990au, ar ôl hen ennill ei blwyf wedi dau ddegawd fel cerddor, daeth clod o gyfeiriad cerddorol gwahanol wedi i D’Angelo ei glywed yn recordio gyda’r gitarydd blues BB King mewn stiwdio yn Efrog Newydd.

Fel Americanwr gyda’i wreiddiau mewn cerddoriaeth pobl ddu, doedd D’Angelo yn gwybod dim am waith y Cymro.

Ffynhonnell y llun, The Washington Post/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Daeth D'Angelo i amlygrwydd am y tro cyntaf yng nghanol yr 1990au

Ond ar sail un gwrandawiad fe ofynnodd iddo ymuno â’i fand y Soulquarians ar gyfer ei albwm dylanwadol, Voodoo, wnaeth dorri tir cerddorol newydd ac ennill gwobr Grammy yn 2001.

Dylanwad dociau Caerdydd oedd yn dod allan yn ei gerddoriaeth, meddai Pino, ddegawdau yn ddiweddarach.

“Roedd yn ddylanwad anferth… dyna’r gerddoriaeth ro’n i’n caru, cerddoriaeth pobl dduon, dyna’r stwff oedd yn fy nghyffwrdd i… yn enwedig yn chwarae’r bas,” eglurodd.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Yn Efrog Newydd yn y flwyddyn 2000 pan oedd yn chwarae gyda D'Angelo

“Mae rôl y bas mewn cerddoriaeth fel yna yn fwy o sialens - dyna’r gerddoriaeth ro’n i’n ei hanadlu yn y 70au hwyr yn y dociau. Roedd ‘na glwb o’r enw’r Casablanca a ro’n i’n byw yno, mynd lawr bob nos a gwrando ar y gerddoriaeth oedd yn cael ei chwarae gan y DJs.

“A nes i ddim wir gallu mynegi’r stwff yna tan cyfarfod D’Angelo. Wnaeth e glywed rhywbeth yn be’ ro’n i’n chwarae, wnaethon ni ddod ymlaen a wnaeth yr holl stwff yna ddechrau dod lan eto.

“Dwi wedi chwarae lot o gerddoriaeth gydag artistiaid duon - Common, Erykah Badu, Talib Kweli, Bilal, D’Angelo - a dwi’n siŵr eu bod nhw’n meddwl ‘be sy’n digwydd gyda’r boi yma? Sut mae e’n gwybod y stwff yma ac yn gallu chwarae fe’ - a rhaid i fi ddweud, mae hynny oherwydd bod fy ngwreiddiau yn ardal bae Caerdydd.”

'Gorfod pinshio fy hun'

Bydd Pino a dau o’r cerddorion wnaeth chwarae gydag o ym mand D’Angelo - Chris Dave ac Isaiah Sharkey - yn perfformio fel triawd yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd ar 14 Hydref ar ôl sesiwn holi ac ateb gyda'r cyflwynydd Huw Stephens.

Y tro diwetha’ iddo chwarae yng Nghaerdydd oedd gyda The Who tua 10 mlynedd yn ôl a dyma’r tro cyntaf iddo chwarae o dan enw ei hun. Mae’n edrych ymlaen, meddai, ac yn disgwyl gweld dipyn o wynebau cyfarwydd gan fod ei fam, dau frawd, dwy chwaer, eu plant a llu o ffrindiau yn dal i fyw yng Nghaerdydd.

Dyma’r bennod diweddara' mewn gyrfa wnaeth flodeuo heb gynllun, meddai, gan ddilyn trywydd i pa bynnag gyfeiriad oedd y gerddoriaeth yn mynd ag o ac sydd wedi ei arwain i lefydd annisgwyl iawn.

“Dwi’n ffeindio fy hun nawr yn gweithio gyda chymaint o artistiaid ro’n i’n eu caru ers talwm pan nes i ddechrau chwarae’r gitâr,” meddai.

“Pan nes i ddechrau chwarae’r gitâr roedd Simon and Garfunkel, er enghraifft, gyda Bridge Over Troubled Water yn albym anferth a nesh i erioed freuddwydio am eiliad fyddwn i’n cyfarfod nhw hyd yn oed heb sôn am chwarae gyda nhw.

"Ac wedyn dwi’n ffeindio fy hun mewn stiwdio gyda Paul Simon, un i un, yn recordio ac ar daith gyda Simon and Garfunkel.

“Felly mae’n anhygoel - dwi’n gorfod pinshio fy hun.”

Pynciau cysylltiedig