Eisteddfod: Coroni'r Bardd fydd prif seremoni ddydd Llun

Coron 2024Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae nodau'r anthem genedlaethol a phont Pontypridd yn rhan o'r goron

  • Cyhoeddwyd

Coroni'r prifardd buddugol fydd prif seremoni Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ddydd Llun a hynny am bryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau.

'Atgof' oedd y testun gosod a'r beirniaid eleni yw Tudur Dylan Jones, Guto Dafydd ac Elinor Gwynn.

Mae'r tri beirniad yn brifeirdd - fe enillodd Elinor Gwynn goron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn 2016, Guto Dafydd oedd prifardd coronog Eisteddfodau Cenedlaethol Sir Gâr 2014 a Chonwy 2019 ac mae Tudur Dylan Jones wedi ennill y gadair genedlaethol ddwywaith - yn Eisteddfodau Cenedlaethol Bro Colwyn 1995 ac Eryri a'r Cyffiniau 2005 ac ef oedd bardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint 2007.

Hon fydd seremoni gyntaf yr archdderwydd newydd - Y Prifardd Mererid Hopwood.

Disgrifiad o’r llun,

Elan Rhys Rowlands yw un o'r ieuengaf erioed i ddylunio Coron yr Eisteddfod Genedlaethol

Elan Rhys Rowlands sydd wedi llunio'r goron eleni ac arni mae nodau'r anthem genedlaethol a phont hynod Pontypridd.

Fel rhan o'r gwaith cynllunio bu Elan yn ymweld ag Ysgol Gymraeg Garth Olwg ym Mhontypridd er mwyn cydweithio gyda 15 o ddisgyblion, a'r ysgol honno sy'n noddi'r goron a'r wobr o £750 eleni.

Yn ôl y pennaeth, Trystan Edwards, mae gwneud hynny'n adlewyrchu pwrpas yr ysgol o feithrin Cymry balch.

Wedi graddio o Brifysgol Birmingham, dywedodd Elan mai dylunio'r goron oedd y "job gynta', yn yr wythnos gynta'" ar ôl dechrau yn ei swydd gyda chwmni Neil Rayment Goldsmiths.

Wrth gydweithio â'r cwmni i greu'r goron, dywedodd ei bod yn "teimlo mor lwcus" o gael cyfle o'r fath mor gynnar yn ei gyrfa.

Mae hi'n gobeithio gweld mwy o gyfleoedd i bobl ifanc i arbenigo yn y maes yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Iorwerth, enillydd coron Eisteddfod 2023, fydd yn cyfarch y bardd buddugol

Os bydd teilyngdod bydd y bardd buddugol yn cael ei gyfarch gan y prifardd Rhys Iorwerth - enillydd y goron yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Yn ôl y traddodiad, ar ddechrau seremoni'r coroni fe fydd cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd - Cernyw, Llydaw, Yr Alban, Iwerddon ac Ynys Manaw - a gorsedd y Wladfa yn cael eu cyflwyno i'r Archdderwydd a'u croesawu i'r Eisteddfod.

Seren Haf MacMillan fydd yn cyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd, sef symbol o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd. Bydd hi'n cael eu hebrwng gan y macwyaid Rhys Thomas a Jacob Watkins.

Bydd y flodeuged a chynnyrch y meysydd - symbol o ddymuniad ieuenctid Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod - yn cael eu cyflwyno gan Ffion Haf Roberts a'i llawforynion Mari Butcher ac Efa-Grug Thomas.