Disgwyl diweddariad am y Ffair Aeaf yn sgil feirws Tafod Glas
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi dweud ei fod yn "disgwyl diweddariad" gan dîm milfeddygol Llywodraeth Cymru i weld a fydd y Ffair Aeaf yn cael ei chynnal eleni.
Cyhoeddodd trefnwyr Ffair Aeaf Lloegr fore Iau na fydd y ffair yn digwydd eleni oherwydd achosion o'r feirws Tafod Glas.
Dywedodd Aled Rhys Jones fod y "sefyllfa yng Nghymru i weld yn well na Lloegr ac mae Ffair Aeaf Cymru yn mynd ymlaen fel arfer" ddiwedd mis Tachwedd.
Mae achosion o'r feirws wedi ei ganfod mewn anifeiliaid yn y gogledd orllewin yn ddiweddar.
Dyma oedd y tro cyntaf i fath 3 o'r Tafod Glas gael ei ddarganfod yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd28 Medi 2024
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024
Mae'r feirws yn cael ei ledaenu gan rai mathau o wybed sy'n brathu, ac yn effeithio ar anifeiliaid fel gwartheg, geifr, defaid, ceirw, alpacas a lamas.
Nid yw’n effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.
'Monitro’r sefyllfa’n agos iawn'
Dywedodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru mewn datganiad fod paratoadau ar gyfer y Ffair Aeaf yn parhau, ond eu bod yn cadw llygaid ar y datblygiadau diweddaraf.
"Roeddem yn drist o glywed bod Ffair Aeaf Lloegr wedi’i chanslo oherwydd sefyllfa barhaus y Tafod Glas ac ni allwn ond cydymdeimlo â threfnwyr y digwyddiad a’r holl arddangoswyr dan sylw.
"Ar hyn o bryd, nid oes parthau cyfyngol ar waith yng Nghymru ac mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn mynd ymlaen fel y cynlluniwyd.
"Rydym, wrth gwrs, yn monitro’r sefyllfa’n agos iawn ac yn cymryd cyngor gan ein milfeddygon proffesiynol.
"Wrth i ni ddechrau ar gamau olaf y paratoi at ein digwyddiad, byddwn yn ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb."