Terfyn cyflymder 52 o ffyrdd Wrecsam i newid nôl i 30mya

- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i derfyn cyflymder 52 o ffyrdd yn Sir Wrecsam newid o 20mya yn ôl i 30mya, wrth i i gynghorwyr fod y cyntaf yng Nghymru i gymeradwyo newidiadau.
Ym mis Medi 2023 cafodd y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya Cymru eu newid i derfyn 20mya fel rhan o gynllun dadleuol gan Lywodraeth Cymru.
Ond yn dilyn ymateb cyhoeddus, fe gyhoeddodd y llywodraeth adolygiad o'r terfyn 20mya y llynedd, gan ganiatáu i gynghorau ddychwelyd rhai ffyrdd i derfynau uwch.
Mae bwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam wedi bod yn ystyried canlyniadau ymgynghoriad a oedd "bron yn gyfangwbl" o blaid dod â'r polisi 20mya i ben.
Roedd 93% o'r rhai wnaeth ymateb o blaid dychwelyd i derfyn cyflymder 30mya.
Bydd staff yr awdurdod lleol nawr yn dechrau cynllunio'r camau nesaf, gan gynnwys cael ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus i sicrhau bod trigolion yn gwybod am y newidiadau, a dechrau cyflwyno'r terfynau newydd yn raddol.
'Materion difrifol o fywyd a marwolaeth'
Ar ôl i ymgynghoriad Wrecsam ddod i ben yr wythnos ddiwethaf, ysgrifennodd y grŵp ymgyrchu '20's Plenty For Us' ar eu cyfrif X: "A yw hynny'n benderfyniad anodd mewn gwirionedd?
"Arbed plant rhag marwolaeth ac anaf neu dawelu ychydig o yrwyr.
"Mae yna faterion difrifol o fywyd a marwolaeth i'w hystyried."
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
Mae'r ystadegau diweddaraf yn awgrymu bod tua 100 yn llai o bobl wedi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20mya a 30mya yn y 12 mis ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya, o gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
Fe wnaeth Cyngor Wrecsam gais am arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y newidiadau, ac fe dderbynion nhw £368,000.
Roedd yr adroddiad gerbron cynghorwyr ddydd Mawrth yn cydnabod bod risgiau o anafiadau a marwolaethau oherwydd cyfyngiadau cyflymder uwch, ond nodwyd bod y 52 ffordd sydd wedi'u dewis wedi'u hasesu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Dywedwyd wrth gynghorwyr bod "diogelwch wedi bod yn hollbwysig".
Beth yw'r canllawiau?
Mae'r canllawiau'n nodi: "Gallai terfyn cyflymder o 30mya gael ei osod ar ffyrdd os ydynt wedi'u lleoli y tu allan i ganol dinasoedd, trefi neu bentrefi ac i ffwrdd o fannau sy'n denu traffig cerddwyr a/neu feicwyr cyson.
"Hefyd ar ffyrdd lle mae llai o dai a lle y mae modd gwahanu cerddwyr a beicwyr... oddi wrth gerbydau."
Mae awdurdodau lleol eraill yn dal i gasglu adborth gan y cyhoedd neu'n penderfynu pa lwybrau y dylid eu hadolygu.