Stanford a Hughes ymysg Cymry'n derbyn anrhydeddau

  • Cyhoeddwyd
Mae Non Stanford, Medwin Hughes a Jane Hutt ymhlith y rhai a fydd yn cael eu hanrhydeddu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Non Stanford, Medwin Hughes a Jane Hutt ymhlith y rhai a fydd yn cael eu hanrhydeddu

Mae degau o Gymry ymysg y rheiny sy'n derbyn anrhydedd y Brenin eleni - yr anrhydeddau cyntaf ers iddo gael ei goroni. 

Mae'r anrhydeddau yn cael eu rhoi ar sail teilyngdod, am gyflawniad neu wasanaeth eithriadol.

Ymysg y rhai a fydd yn derbyn anhrydedd MBE mae'r gyn-athletwraig Non Stanford, ac yn derbyn CBE mae is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes. 

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Hutt AS ymhlith y rhai sydd ar y rhestr anrhydeddau eleni

Rhai eraill o Gymru sy'n derbyn anrhydedd yw'r aelod o'r senedd Jane Hutt, paralympiad o Gasnewydd Pippa Briton, cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru David Griffiths a gwirfoddolwr ar Reilffordd Tal-y-llyn, John Bate, sy'n 93 oed.

'Cymaint o fraint'

Bydd Non Stanford yn derbyn anrhydedd MBE, a dywed y bydd yn brofiad "cyffrous" i dderbyn yr anrhydedd ym Mhalas Buckingham yn ystod yr haf. 

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Ms Stanford: "Mae'n anhygoel... pan roedd y llythyr wedi dod roedd e'n foment sbesial iawn, a dwi dal yn methu credu byddai'n cael MBE."

Ychwanegodd: "Mae'n meddwl llawer, fi methu credu bod enw fi ar y list. Mae just yn sbesial i weld fy enw i yn cael ei roi ymlaen achos nes i stryglo wrth gystadlu ac yn ystod fy ngyrfa yn meddwl fy mod i'n bod yn hunanol iawn.

"Mae hwn yn cyfiawnhau efallai fy mod wedi rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas mewn rhyw ffordd ac i chwaraeon yng Nghymru gyfan. "Mae cael y wobr hon yn dangos falle bo' fi wedi gwneud rhywbeth sydd yn fwy na fi. 

"Dwi ddim yn gallu credu'r peth. Mae'n fraint mawr i gael fy enwebu a dwi eisiau gwybod pwy sydd wedi rhoi fy enw ymlaen!

"Dwi mor falch ac yn edrych ymlaen at y seremoni a mynd gyda'r teulu i dderbyn y wobr. Mae'n sbesial ac yn gymaint o fraint ac rwy'n teimlo'n ddiolchgar iawn."

Ffynhonnell y llun, Adam Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Medwin Hughes wedi bod yn is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am dros 20 mlynedd

Un arall sy'n derbyn anrhydedd fydd yr Athro Medwin Hughes, sef yr is-ganghellor sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod hiraf yng Nghymru. 

Dyfarnwyd yr anrhydedd i'r Athro Hughes am ei wasanaeth i addysg a'r Gymraeg, ac mae'n cael cydnabyddiaeth am ei gyfraniad i'r system addysg yng Nghymru.

"Rwyf yn gwerthfawrogi'n fawr yr anrhydedd a ddyfarnwyd i mi," meddai. 

"Mae'r gydnabyddiaeth yn adlewyrchu'r gefnogaeth enfawr rwyf i wedi'i derbyn gan fy nheulu, fy nghydweithwyr agosaf, staff a phartneriaid strategol yn ystod fy 25 mlynedd yn is-ganghellor."

Dilyn ei dad a'i daid

60 mlynedd yn ôl, daeth John Bate i Dywyn i ddechrau ar ei swydd newydd fel peiriannydd sifil ar Reilffordd Tal-y-llyn, ac yn 93 oed mae'n dal i wirfoddoli yno heddiw.

Mae tad a thaid John Bate eisoes wedi derbyn anrhydeddau gan y Frenhines, a nawr bydd Mr Bate hefyd yn derbyn MBE gan y Brenin.

Ffynhonnell y llun, Barbara Fuller
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth John Bate i weithio ar Reilffordd Tal-y-llyn 60 mlynedd yn ôl

"Dydw i ddim wedi gwneud unrhyw beth arbennig na theilwng, dim ond gyrru 'mlaen gyda fy ngwaith, ond penderfynodd rhywun yn rhywle y dylid ei anrhydeddu. Es i ddim i chwilio amdano.

"Cefais wahoddiad yma i weithio a chymryd swydd fel y prif beiriannydd ac fe wnes i hynny nes i mi ymddeol a pharhau i wneud cryn dipyn ar ôl i mi ymddeol ac efallai rhoi sbardun i'r busnes.

"Ond, fe wnaeth pobl eraill lawer iawn mwy na fi dwi'n siŵr."

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru bod clywed am waith cynifer o bobl o Gymru yn "ysbrydoledig". 

"Mae'n ysbrydoledig iawn clywed am waith anhygoel a gwerthfawr cynifer o bobl o bob cwr o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod yn haeddiannol yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.

"Mae'r bobl sy'n cael eu hanrhydeddu o Gymru mewn amrywiaeth eang o feysydd wedi cael eu cydnabod, boed hynny am eu hymrwymiad i'w cymuned leol, eu cyfraniad at chwaraeon, addysg, diwylliant neu iechyd - ac rwy'n falch iawn bod eu hymdrechion wedi cael y sylw priodol.

"Hoffwn longyfarch pawb sy'n cael eu hanrhydeddu a diolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad."